MAWRTH 18fed Tachwedd 2014 Hygyrchedd Geiriau Yn Unig |
Y baneri allan i drindod Dinbych Teyrnged i Kate, Gwilym R a Mathonwy Agorwyd Theatr y Maes ddydd Sadwrn gyda rhaglen deyrnged i dri o enwogion bro’r Eisteddfod. Cynhyrchiad oedd hwn i goffáu Mathonwy Hughes, Gwilym R. Jones a Kate Roberts, tri a wnaeth gyfraniad gwerthfawr i fyd llenyddiaeth a newyddiaduraeth Gymraeg. John Ogwen oedd yn cyflwyno gyda Gaynor Morgan Rees, a oedd hefyd yn gyfrifol am y cynhyrchu, a J.O.Roberts yn darllen gweithiau’r tri. John Idris Owen oedd wedi ysgrifennu’r sgript ac mae’n rhaid ei ganmol gan fod yma gynllun manwl a’i fod wedi llwyddo i bortreadu cymaint o agweddau o fywyd y tri. Darlunio sawl elfen Roedd hi’n dipyn o gamp llunio sgript ar gyfer rhaglen o’r fath gan fod yna gymaint o bethau y gellid bod wedi eu cynnwys. Llwyddodd John Idris Owen i ddethol yn ddoeth gan ddarlunio nifer o elfennau gwrthgyferbyniol. Roedd yn adnabod y tri ac felly roedd hyn o gymorth mawr iddo wrth fynd ati i ysgrifennu gan ei fod yn gallu portreadu’r elfen bersonol. "Wedi gwneud yr ymchwil i’w gwaith a’u bywyd fe es i ati i ddethol y darnau poblogaidd o’u gweithiau ac ystyried pa linynnau oedd yn eu cysylltu." Roedd y cynhyrchiad wedi’i rannu’n themâu penodol a thrwy’r naratif roeddem ni’r gynulleidfa’n cael ein tywys yn gelfydd o un thema i’r llall. Creu un cylch cyfan Dechreuwyd drwy sôn am fagwraeth y tri yn Arfon a sut yr aethant wedyn i fyw i Ddinbych. Aethpwyd ymlaen i sôn am sefydlu Gwasg Gee a’r Faner oedd yn creu dolen gyswllt rhwng y tri. Dolen gyswllt arall wrth gwrs oedd eu cenedlaetholdeb a dyma’r thema nesaf. Wedyn trafodwyd eu cyfraniad fel llenorion, yr elfen ddireidus yng nghymeriad y tri, eu cyfraniad crefyddol ac yn olaf y ffaith i’r tri fyw’n hen. Roedd hyn felly’n creu un cylch cyfan gan ddechrau a’u plentyndod a gorffen â henaint. Portreadwyd hyn i gyd drwy ddefnyddio sawl cyfrwng. Roedd darnau o’r gweithiau’n cael eu darllen a rhai cerddi’n cael eu canu gan Driawd Caeran. Rhaid canmol darlleniad grymus J.O.Roberts o ‘Cwm Tawelwch’, cerdd enwog Gwilym R. Hefyd darllenwyd rhai llythyrau. Diddorol oedd y ddau lythyr dderbyniodd Gwilym R. gan Saunders Lewis a Kate Roberts oedd yn dangos yn glir nad oedd ymwneud â mawrion y genedl yn fel i gyd. Doedd y rhain ddim wedi’u cyhoeddi o’r blaen ac felly’n annisgwyl i ni’r gynulleidfa. Cymysgedd o'r difrif a'r digrif Roedd y darllen ymhell o fod yn undonog oherwydd y dawn dweud a’r ffaith bod y detholiadau mor wahanol. Cafwyd cymysgedd o’r difrifol a’r digri gyda perlau fel cywydd teyrnged Gwylim R i Kate Roberts a cherddi ysgafnach fel Gwaredigaeth gan Mathonwy Hughes sy’n sôn am arwisgo ’69. Defnyddiwyd dulliau eraill o gyflwyno hefyd. Dangoswyd fideo o gyfweliad â Gwilym R a chafodd y darn poblogaidd o Te’n y Grug, sef y te ar y mynydd, ei lwyfannu gan dair o ferched y fro. Dywed John Idris Owen "Mae ‘na ddarnau o Kate Roberts sy’n gallu bod yn drwm ac mae’r straeon byrion yn rhy hir i’w darllen. Ond roedd modd dramateiddio Te’n y Grug ac roedd hyn yn rhoi balans i’r rhaglen." I ychwanegu at hyn i gyd dangoswyd hen luniau o’r tri drwy gydol y perfformiad ac roedd hyn yn creu awyrgylch. Yn sicr dyma deyrnged gofiadwy i dri a gyfrannodd gymaint i fywyd Dinbych a Chymru. Mae’n werth i’w weld ac os na lwyddoch chi i fynd i Theatr y Maes ddydd Sadwrn peidiwch â cholli’r cyfle i weld y cynhyrchiad ddydd Iau.
| |
© MMI |
|
About the ´óÏó´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy |