MAWRTH 18fed Tachwedd 2014 Hygyrchedd Geiriau Yn Unig |
Cyfarfod Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith Catrin Jones o 大象传媒 Cymru'r Byd yn holi Eifion Lloyd Jones Y mae Cadeirydd Pwyllgor Gwaith yr Eisteddfod yn un o deulu o eisteddfodwyr brwd. Nid yn unig mae Eifion Lloyd Jones wedi bod yn cystadlu ei hun ond bu ei wraig, Leah, yn wyneb cyfarwydd iawn ar lwyfan yr eisteddfod ac y mae eu plant yn awr yn gystadleuwyr steddfodol hynod lwyddiannus. Yn Eisteddfod Genedlaethol Bangor a鈥檙 Cylch yn 1971 enillodd Leah ddeg gwobr gyntaf mewn cystadlaethau canu. Bu Angharad ac Elysteg, eu dwy ferch, yn cystadlu鈥檔 gyson ar lwyfan eisteddfod yr Urdd a daeth Rhys, eu mab ieuengaf, yn gyntaf yng nghystadleuaeth yr unawd cerdd dant 12 oed yng Ngwyl yr Urdd eleni. Ac er nad yw Ynyr, eu mab hynaf, yn un sy鈥檔 hoff o gystadlu ar lwyfan y mae鈥檔 gerddorol ac wrth ei fodd yn cyfansoddi. Siaradwr cyhoeddus o fri Ychydig iawn o gystadlu traddodiadol a wnaeth Eifion Lloyd Jones ei hun pan yn iau ond yr oedd yn areithiwr o fri mewn cystadlaethau siarad cyhoeddus cyhoeddus. Dechreuodd y siarad cyhoeddus pan oedd yn yr ysgol ac ar ran aelwyd Porthmadog. Daeth yn ail mewn cystadleuaeth siarad cyhoeddus yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yng Nghaergybi yn 1966. Pan oedd yn y chweched dosbarth ef oedd siaradwr unigol gorau ysgolion Cymru. Ar ei flwyddyn gyntaf yn y brifysgol yn Aberystwyth bu鈥檔 fuddugol yng nghystadleuaeth siaradwr unigol colegau Cymru. Dyma鈥檙 ymryson areithio a drefnwyd gan y 大象传媒. Llais yr ifanc dros Steddfod deithiol Bu鈥檙 ddawn hon o fudd arbennig iddo yn y byd go iawn ddiwedd y saithdegau pan ddaeth y ddadl ynglyn 芒 sefydlogi yr Eisteddfod Genedlaethol yn bwnc llosg. Bu Eifion yn flaenllaw iawn yn y frwydr i ddiogelu鈥檙 eisteddfod fel gwyl symudol. Yr oedd hwn yn gyfnod dadleugar yn hanes yr wyl ac y mae araith drawiadol a wnaeth Eifion mewn cyfarfod tyngedfennol o Lys yr Eisteddfod yn Aberystwyth yn dal i gael ei chofio fel un a fu o help i droi鈥檙 fantol yn erbyn cynnig a oedd gerbron i gael safle parhaol i'r Steddfod. Dadlau ar ran pobol ifanc Cymru a wnaeth o gydag ap锚l daer am i鈥檙 Eisteddfod barhau i deithio Cymru. A鈥檙 un yw ei farn heddiw, meddai. Ac o gysur iddo mae鈥檙 gred nad yw鈥檙 syniad o safle ganolog yn gymaint o fygythiad heddiw, meddai, am fod cymaint o ardaloedd yn dymuno cynnal y 鈥榮teddfod. Dod ag arian i'r fro Dywedodd fod adroddiad annibynnol a gomisiynwyd gan yr eisteddfod adeg Eisteddfod Genedlaethol Llanelli yn dangos fod yr wyl yn dod ag incwm o 拢6m i fro鈥檙 eisteddfod ar ei hymweliad. "Mae鈥檙 wyl y dod 芒鈥檌 nodweddion a鈥檌 Chymreictod i ardaloedd, nid yn unig yn ystod yr wythnos fawr, ond yn ystod y blynyddoedd cyn yr wyl. "Ond mae鈥檔 dod 芒 chymaint yn economaidd ag yn diwylliannol," meddai. Dywed hefyd na fyddai cymaint o frwdfrydedd dros gynnal gwyl mor fawr ar safle parhaol ac mai "rhan o鈥檙 ap锚l yw crwydro Cymru". Nid oes neb balchach nag ef, felly, mai yn yr ardal lle mae o wedi ymgartrefu a chodi teulu y mae鈥檙 Eisteddfod eleni. Cwmwl o ansicrwydd Ond fe fu cwmwl o ansicrwydd mawr a fyddai鈥檙 eisteddfod yn cael ei chynnal o gwbwl eleni yn sgil yr argyfwng traed a genau. "Roedd yna ansicrwydd mawr a fydden ni鈥檔 cynnal ac a ddylen ni gynnal y Steddfod," meddai. "Mi gawsom ni drafodaethau mawr 芒 ffermwr lleol a鈥檌 filfeddyg, undebau amaethyddol a swyddogion y Weinyddiaeth Amaeth, y cynghorau sir a鈥檙 Cynulliad." Ac er i鈥檙 pwyllgor gwaith dderbyn anogaeth o bob cyfeiriad amaethyddol dywed iddyn barhau yn ymwybodol iawn o鈥檙 peryglon posib. "Fe fyddwn ni鈥檔 gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau na fydd anhawster yn codi." Dyma pam y bydd pob cerbyd sy鈥檔 dod i鈥檙 maes yn cael ei ddiheintio. Mae鈥檙 Eisteddfod hefyd wedi cysylltu â chystadleuwyr, y rhai fydd 芒 stondinau ar y maes a鈥檙 rhai hynny sy鈥檔 bwriadu aros yn y maes carafanau i ddweud wrthyn nhw y bydd yn rhaid iddyn nhw ddiheintio鈥檜 ceir. Yn ogystal mae鈥檔 rhaid i鈥檞 cerbydau fod yn l芒n ac ni fydd mynediad i dir yr eisteddfod i gerbydau gyda mwd o leoedd eraill. "Fe fydd costau鈥檙 wyl yn llawer uwch na鈥檙 disgwyl ond mae鈥檔 rhaid sicrhau diogelwch amaethyddol," meddai. Mae鈥檙 argyfwng wedi golygu tipyn mwy o waith i staff yr eisteddfod hefyd gan eu bod yn delio鈥檔 ddyddiol 芒 galwadau yn holi a yw鈥檙 eisteddfod yn dal i gael ei chynnal. Codi arian yn lleol Hyn oll fel pe na byddai cynnal eisteddfod yn dasg enfawr a chostus beth bynnag i drigolion yr ardaloedd sy鈥檔 cynnal yr wyl. Bu cymunedau Sir Ddinbych wrthi鈥檔 hynod o ddyfal yn codi y 拢234,000 a oedd yn nod y gronfa leol ac fe sicrhawyd yr arian bedwar mis cyn dyddiad yr eisteddfod gyda rhai ardaloedd fel y Groes a Bylchau wedi codi dwywaith mwy na鈥檜 nod. Mae Eifion yn gweld hyn o brawf o allu ardaloedd I gynnal gwyl deithiol. "Mae鈥檙 eisteddfod eleni鈥檔 brawf o hynny. Mae dros chwarter miliwn wedi ei gasglu gan gymunedau lleol Dinbych ac ar ben hyn mae nawdd yr awdurdodau lleol," meddai. Maes Steddfod yn Faes Protest Problem steddfodol flynyddol yw protestio ar faes y maes - gan Gymdeithas yr Iaith yn fwyaf arbennig. Dywedodd Eifion nad yw鈥檔 gwrthwynebu protestiadau o'r fath mewn egwyddor ac y dylai pob corff neu fudiad gael yr hawl i fynegi eu safbwyntiau. Ond ar y llaw arall mae鈥檔 credu "na ddylai hynny achosi difrod i gyrff sy鈥檔 dod ar y maes ac na ddylai eu heiddo gael ei ddifrodi." "Mae yna 52 wythnos mewn blwyddyn ac mae鈥檔 annheg fod rhai mudiadau yn canolbwyntio鈥檜 hymgyrchu ar yr wythnos arbennig hon. Dwi yn amddiffyn hawl unrhyw fudiad i ddatgan protest ond dwi yn anghytuno ac ambell ddull," meddai.
| |
© MMI |
|
About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy |