MAWRTH 18fed Tachwedd 2014 Hygyrchedd Geiriau Yn Unig |
Cyfle newydd i lenorion newydd Mae yna ysgoloriaeth newydd yn cael ei chyflwyno yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni, Ysgoloriaeth Emyr Feddyg. Ysgoloriaeth i lenorion yw hon sy鈥檔 cael ei rhoi i lenor neu fardd nad yw eisoes wedi cyhoeddi cyfrol. Bydd yn rhaid i鈥檙 cystadleuwyr lunio darn neu ddarnau rhyddiaith tua 3,000 o eiriau ar un o鈥檙 ffurfiau canlynol: braslun nofel, pennod agoriadol nofel, tair stori fer neu dair ysgrif. Mae鈥檔 rhaid i鈥檙 gwaith fod yn waith gwreiddiol. Mae鈥檙 ysgoloriaeth yn rhoi cyfle i lenorion neu feirdd newydd i dderbyn hyfforddiant er mwyn gwella eu crefft. Yn ogystal 芒 gwobr o 拢1,000 fe drefnir i鈥檙 enillydd i gael prentisiaeth wyneb yn wyneb gyda llenor profiadol. Bydd yn derbyn tua chwe mis o hyfforddiant ac fe fydd hwn yn cynnwys sesiynau trafod. Fe fydd yr enillydd hefyd yn derbyn sylwadau manwl ar y tasgau a roddir iddo/iddi. Y tro hwn mae gofyn i鈥檙 cystadleuwyr ysgrifennu darnau rhyddiaith. Dywed Hywel Wyn Roberts, trefnydd yr eisteddfod yn y gogledd: "Roeddem ni鈥檔 ofnus braidd na fyddai yna lawer o bobol yn gwybod am yr ysgoloriaeth newydd. Mae wastad yn anodd cyflwyno cystadleuaeth newydd gan na allwn fod yn siwr a yw pobol yn darllen y testunau鈥檔 fanwl." "Yn aml dydi pobol ddim yn dod i wybod am y gystadleuaeth tan y flwyddyn ganlynol ond mae yna naw llenor wedi anfon eu cynnyrch eleni." Mae yna newid yn y gystadleuaeth i benseiri yn yr adran gelf a chrefft. Cyn eleni dim ond myfyriwr mewn coleg pensaern茂ol yng Nghymru a gai anfon ei waith i鈥檙 gystadleuaeth. Ond fe gaiff myfyriwr o unrhyw le anfon ei waith eleni cyn belled 芒鈥檌 fod yn Gymro neu o deulu Cymraeg. Dywed Hywel Wyn Roberts "Mae nifer dda wedi anfon eu gwaith i mewn i鈥檙 gystadleuaeth hon lle mae cyfle i ennill ysgoloriaeth gwerth 拢1,500". Pwy oedd Emwyr Wyn Feddyg? Fe roddir y wobr er cof am Dr Emyr Wyn Jones a fu鈥檔 Gymrawd i鈥檙 Eisteddfod. Awdur ar bynciau hanesyddol oedd Emyr Feddyg. Cafodd ei eni鈥檔 Waunfawr ger Caernarfon. Bu鈥檔 feddyg y galon yn Lerpwl nes iddo ymddeol yn 1972. Mae wedi cyhoeddi llyfrau hanes ac ysgrifau. Bu beirdd a chantorion yn ymweld yn gyson a鈥檌 gartref ef a鈥檌 wraig yn Llansannan, Dyffryn Clwyd.
| |
© MMI |
|
About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy |