![]() |
![]() |
|
![]() |
![]() |
![]() |
![]() MAWRTH 18fed Tachwedd 2014 Hygyrchedd Geiriau Yn Unig |
![]() ![]() |
![]() ![]() Glyn Evans yn ymweld â thref Dinbych Dydd Gwener, Awst 3 Yr ydw i鈥檔 synnu braidd na fyddai鈥檙 Steddfod wedi bod ar fy 么l, i arwain ymgyrch i ddenu pobol i Ddinbych yr wythnos nesaf. Bygythiad i blant drwg Am flynyddoedd bu pobol yn fy nghyhuddo i o鈥檜 hanfon nhw "i Ddimbach". "Ti鈥檔 ddigon ag anfon rhywun i Ddimbach, hogyn," meddai Mam ac oedolion eraill wrthym ni blant yn dilyn rhyw ddrygau neu鈥檌 gilydd ar ein rhan. ![]() Yn blentyn yr oedd rhywun, felly, yn ymwybodol iawn o fodolaeth Dimbach ac yr ydw i鈥檔 dal i gofio dychwelyd o drip Ysgol Sul i鈥檙 Rhyl a gweld drwy ffenest y bws yr adeilad anferth yma gyda dynion yn pwyso ar eu sgyfflars neu'n gorffwys ar eu cribiniau a鈥檜 brwsus caled yn yr ardd ac oedolion ar y bws yn dweud, "Dyna fo Dimbach." Doedd o ddim yn rhywbeth unigryw i ogledd Cymru fod tref yn cael ei hadnabod am ei seilam a dyna oedd Dimbach i ni. Cysgod ac arogl Go brin y clywch chi neb yn s么n am anfon pobl i Ddimbach yn yr ystyr hwnnw heddiw ond mi fydd yna ddigon o s么n am fynd i Ddinbych yr wythnos hon a鈥檙 nesaf - clwy traed a genau yn caniatàu. Ac mae cysgod hwnnw yn dal dros yr Wyl ac arogl ei ddisinffectant wedi hen fod yn hel yn yr awyr o gwmpas y maes erbyn hyn. Y Sadwrn cyn yr wyl, arogl hwnnw oedd yn cymysgu ar yr awyr 芒 lleisiau plant yn ymarfer eu caneuon yn y pafiliwn. Codwyd y pafiliwn ar faes gwastad Fferm Kilford ger hen blasty Lleweni ac heb fod yn bell o Eglwys Wen, Santes Marchell, sydd yn cael ei brolio fel yr odidocaf o eglwysi canoloesol Sir Ddinbych. ![]() Tref y perthyn rhyw hud ac ap锚l arbennig iddi gyda鈥檌 strydoedd cefn culion. A鈥檙 warin cwningod o lwybrau sy'n arwain at y Castell uwchlaw鈥檙 iddi yn atgoffa rhywun rywfaint o鈥檙 strydoedd sy鈥檔 arwain at gastell Caeredin. Yn lle delfrydol Ar Sadwrn poeth o haf gwelwch ei fod yn lle delfrydol ar gyfer Castell - "yn uchel ar ben craig" chwedl un o鈥檙 arwyddion - achos wedi yml芒dd yn dringo yma ni fyddai gan neb fawr o galon i ymladd. Beth bynnag mae yno arwydd wrth y fynedfa yn dweud "Peidiwch a dringo鈥檙 heneb" wrthych, achos dyna ydi castell yng Nghymraeg CADW. Mae鈥檙 olygfa oddi yma yn ysblennydd gyda鈥檙 dref a鈥檙 wlad islaw ichi. Ac ar eich ffordd yn 么l i ganol y dref mae bodia鈥檆h traed yn gwthio yn erbyn trwyn eich sgidiau i lawr yr allt. Yn L么n Crown yn y dref y mae arwydd arall yn eich rhybuddio rhag dringo - y tro hwn yn ffenest y Denbigh Kitchen Centre sy鈥檔 rhybuddio: "Caution the roof of this building is protected by razor wire" gan brofi fod y meddylfryd canoloesol i gastellu a chaeru yn dal yn fyw yn Ninbych. Tafarnau clyd ![]() Mae Tafarn y Plough yn hysbysebu "cyrfau traddodiadol" yn nhafodiaith y fro ac uwchben drws y Llew Aur y mae arwydd a fydd wrth fodd calon pob Steddfodwr yn cyhoeddi, "Allwedd calon cwrw da". Ac mae鈥檔 amlwg fod i Ddinbych draddodiad go gyfoethog o lymeitian achos ar lechen ar y llawr ger cofgolofn anferth a gododd y Dr Pierce iddo鈥檌 hun gwelir y geiriau Saesneg, "Now darkly silent Denbigh township rests Until the taverns spew their midnight guests." ![]() Mae'r gofgolofn urddasol a gododd y gwr hynod hwn iddo'i hun mewn cilfach gardd gyferbyn a'r fan lle'r oedd ei dy ond lle mae archfarchnad heddiw! Llenorion yn cyfrif ![]() Y tu allan i Woolworths, wedyn, hysbysebir "Folding chair in carry bag" fel rhywbeth "ideal for the Eisteddfod" a hynny am ddim ond 拢9.99 yn lle pymtheg punt namyn ceiniog gyda鈥檙 rhybudd "only a few left." Ond os hynny, meddai rhywun wrtho鈥檌 hun, pam eu gwerthu mor rhad - onid cyngor Menter a Busnes fyddai dyblu鈥檙 pris nid ei haneru bron pan fo nwyddau鈥檔 brin? Eisteddfod Geidwadol ![]() Da cael cadarnhad swyddogol o鈥檙 fath i鈥檔 amheuaeth mai sefydliad go geidwadol yw鈥檔 Prifwyl! Ond hold on Defi Jon, beth fydd y Ceidwadwyr yn ei wneud o鈥檙 plastar o luniau Castro islaw arwydd steddfod mawr arall bron gyferbyn â鈥檙 clwb yn ein gwahodd i wrando ar "grwp salsa gwyllt" ac yfed Cwrw Ciwba yn Neuadd y Dref ar Awst 10! ![]() Ac ef, sy鈥檔 cael y clod yn lleol am fod y cyntaf i addurno ei dy â baneri a dreigiau coch i groesawu鈥檙 Eisteddfod. Chwifio baneri Ers hynny mae amryw wedi dilyn gyda chefnogaeth dra banerog i鈥檙 Wyl yn y cyffiniau. Gobeithio y bydd yna achos i chwifio鈥檙 holl faneri hyn erbyn diwedd yr wythnos. Fu yna ddim pan ymwelodd yr Eisteddfod 芒 Dinbych yn 1939. Fu yna ddim cadeirio na choroni - ond fe enillodd John Gwilym Jones y Fedal Ryddiaith gyda鈥檌 nofel Y Dewis. ![]() "Mecsico; Y Dwyrain Pell; China; Brasil; Paris ac yn awr . . . Dinbych. "Dim ond saith milltir o鈥檙 dref "Yn agor cyn bo hir . . ." Mae popeth yn awgrymu mai "i Ddimbach" yw y lle i fynd.
| |
![]() © MMI |
![]()
|
![]() |
About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy |