MAWRTH 18fed Tachwedd 2014 Hygyrchedd Geiriau Yn Unig |
'Balch o fod adref' Y ffotograffydd Philip Jones Griffiths wedi cyrraedd yr Eisteddfod Mae Philip Jones Griffiths yn falch iawn bod ei waith yn cael ei arddangos yn y Babell Gelf a Chrefft yn yr Eisteddfod eleni ac mae’n ei ystyried yn fraint. Yn enedigol o Ruddlan mae Philip Jones Grifftiths yn ffotograffydd byd enwog ac yr oedd ar faes yr Eisteddfod yn Ninbych beth cyntaf fore Sadwrn. Yn enwog am ei luniau o ryfeloedd yn enwedig Rhyfel Fietnam yr oedd wedi hedfan o Efrog Newydd i ddod i weld yr arddangosfa. "Dwi’n gynnyrch Dyffryn Clwyd ac mae bob amser yn dda bod adref," meddai wrth ´óÏó´«Ã½ Cymru'r Byd. Dal i deithio Mae’r ffotograffydd hwn yn dal i deithio o gwmpas y byd gyda’i gamera. Yr wythnos nesaf fe fydd yn mynd yn ôl i Gambodia ac Indonesia ac wedyn fe fydd yn hedfan i Lundain erbyn Hydref 1af ar gyfer lansiad ail argraffiad ei ‘Vietnam Ink’. Mae wrth ei fodd yn teithio o amgylch Asia "Mae na rhythym arbennig i fywyd yn Asia a dwi wrth fy modd gyda hynny." Lle dechreuodd y diddordeb mewn ffotograffiaeth felly? Wedi gadael yr ysgol fe aeth Philip Jones Griffiths i weithio fel fferyllydd. Ond cafodd lond bol ar gyfri’r tabledi bob dydd a phenderfynodd newid cyfeiriad a dilyn gyrfa’n tynnu lluniau. Dilyn ei reddf Ni dderbyniodd unrhyw hyfforddiant dim ond dilyn ei reddf. "Pan oeddwn i’n fferyllydd roeddwn i’n dysgu am gemeg a ffiseg ac felly roedd hyn yn gymorth i mi wrth i mi droi at dynnu lluniau. Doedd ‘na ddim mewn ffotograffiaeth oedd yn fy nrysu wedyn. Dwi wastad wedi deall prif egwyddor y grefft sef meddwl byw a llygaid craff. Yn fuan teimlodd yr ysfa i fynd i’r gwledydd hynny lle roedd gwrthdaro a dal y cyfan gyda’i gamera. "Mae’n anodd dweud yn sicr pam y mae gen i ddiddordeb mewn gwrthdaro ond mae wedi bod yna erioed. Yr hyn yw gwrthdaro fel arfer yw grwp bychan o bobol yn y byd yn ceisio rheoli grwp sy’n fwy. Mae pethau’n cael eu datgleu yn ystod rhyfel a dyma amser lle gallwch weld pethau’n glir." Yn y dyfodol fe allwn edrych ymlaen am fwy o lyfrau gan Mr Griffiths "Mae’n anochel y bydda i’n gwneud llyfr ar Gambodia a’r newidiadau yn Fietnam ers y rhyfel. Ond un broblem wrth ysgrifennu llyfr yw nad oes dim esgus gennych i fynd yno mor aml wedyn."
| |
© MMI |
|
About the ´óÏó´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy |