MAWRTH 18fed Tachwedd 2014 Hygyrchedd Geiriau Yn Unig |
O hil gerdd Bu Catrin Jones yn holi Rhys Jones - cerddor ac arweinydd Bydd Rhys Jones ymhlith y rhai prysuraf yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol eleni. Nid yn unig mae鈥檔 gyd-arweinydd C么r yr Eisteddfod ar y cyd 芒 Beryl Lloyd Roberts ond bydd hefyd yn arwain y gymanfa yn y pafiliwn ar brynhawn Sul olaf yr wyl. Mae gan Rhys Jones brofiad helaeth o weithio gyda chorau yr Eisteddfod. Yn eisteddfod Y Rhyl 1953 roedd yn cyfeilio i鈥檙 c么r pan wnaed y mwyaf erioed o waith gan g么r Eisteddfod erioed gan eu bod yn canu tri darn. Fe fu鈥檔 cyfeilio i鈥檙 c么r hefyd yn eisteddfod Y Fflint yn 1969. Yna yn eisteddfod Y Rhyl yn 1985 ac ym Mro Colwyn yn 1995 bu鈥檔 gyd-arweinydd fel eleni. Y tro hwn bydd y c么r yn canu Requiem Verdi mewn cyngerdd yn y Pafiliwn nos Sul. Yna, mewn cyngerdd yn y Pafiliwn nos Wener fe fyddan nhw鈥檔 canu Requiem Brahms a rhai o ganeuon Robat Arwyn gyda Bryn Terfel, Fflur Wyn a Ch么r Rhuthun a鈥檙 Cylch. Verdi yn ffefryn Meddai Rhys Jones: "Fe wnaethon ni ddewis Requiem Verdi am fod can mlynedd ers ei farw. Verdi yw fy ffefryn i, rwy鈥檔 ffan mawr o鈥檌 waith." Mae C么r yr Eisteddfod eleni yn enfawr. Dangosodd pobol yr ardal gymaint o frwdfrydedd yr oedd dros 400 yn yr ymarfer cyntaf. Erbyn hyn mae鈥檙 nifer wedi gostwng i 250 oherwydd y lle sydd ar gael ar lwyfan y Steddfod. Meddai Rhys Jones: "Mae presenoldeb y cantorion yn yr ymarferion wedi bod yn gyson. Mae C么r yr Eisteddfod yn wyrth flynyddol," meddai. Trydydd tro Eleni mae'n arwain am y trydydd tro y gymanfa flynyddol ar brynhawn Sul olaf yr eisteddfod i gloi鈥檙 wyl. Bu鈥檔 arwain yn Llangefni yn 1983 a Bro Delyn yn 1991. "Mae鈥檔 wefr ac yn gyfrifoldeb aruthrol does na ddim profiad tebyg i arwain cymanfa鈥檙 eisteddfod," meddai. Dylanwad ei dad Y mae Rhys Jones yn gerddor - o hil gerdd! Ganwyd ef yn Nhrelawnyd yn yr hen Sir Fflint yn 1927 lle'r oedd ei dad yn sgubo ffyrdd yr ardal a'ii fam yn nyrs gymunedol. "Roeddwn i鈥檔 falch iawn o nhad am ei fod yn cadw Trelawnyd yn l芒n. "Hefyd roedd yn frenin yn y pentref am ei fod yn arwain y C么r Plant a鈥檙 C么r Cymysg. "A doedd o rioed wedi cael gwers gerddorol yn ei fywyd." Gwybod holl ganeuon côr Yr oedd ei dad hefyd yn un o sefydlwyr C么r Meibion Trelawnyd a dyma鈥檙 dylanwad cerddorol cyntaf ar Rhys Jones. Pan oedd yn fachgen dywed ei fod yn gwybod holl ganeuon y c么r cymysg a ch么r y plant. Yn wir, dyma鈥檙 unig gerddoriaeth yr oedd yn ymwybodol ohoni. Gartref dysgodd sol ffa gyda'i dad oddi ar fodiwletor ar wal y gegin. "Roeddwn i'n gorfod ei ganu鈥檔 gyson pan yn blentyn ac fe ddes i鈥檔 giamstar arno cyn gallu darllen yr hen nodiant." Anrheg gan offeiriad Pan oedd yn yr ysgol sir yn Y Rhyl y daeth y dylanwad nesaf. Yn agos i鈥檙 ysgol roedd ysgol Babyddol y byddai bws yr ysgol yn galw ynddi ar y ffordd adref. Un diwrnod holodd offeiriad ef am ei ddiddordebau. Wedi iddo glywed fod gan Rhys ddiddordeb mewn cerddoriaeth dywedodd wrtho am aros yn y ty y dydd Sadwrn canlynol ac y byddai鈥檔 anfon rhywbeth iddo. Y Sadwrn daeth bachgen ifanc gyda gramoffon a 12 o recordiau a nodyn gan y Brawd Redmond yn ei orchymyn i wrando ar y recordiau o leia ddwywaith y dydd. Yr wythnos wedyn cafodd recordiau eraill yn gyfnewid amdanynt Gwrandawodd ar oper芒u, unawdwyr, a chonsiertos. "Roedd yn fy mwydo fi efo cerddoriaeth a recordiau ac roeddwn i鈥檔 cael cyfle i wrando ar gantorion mawr. Y Brawd Redmond fu鈥檙 dylanwad mwyaf arnaf i. Fo agorodd y drws i mi i fiwsig o bob math." Yn y fyddin Yn 1944 aeth i鈥檙 Coleg Normal a threuliodd gyfnod yn athro cerdd cyn gorfod ymuno 芒鈥檙 fyddin. "Fy atgof mwyaf pleserus o鈥檙 cyfnod hwnnw yw chwarae gyda bandiau dawns mewn gwersyll yn yr Amwythig. Un diwrnod anfonwyd y pianydd adref ac fe ges i gymryd ei le. Drwy wneud hyn dysgais chwarae fiwsig rhythmig." Wedyn bu鈥檔 cyfeilio mewn amryw o eisteddfodau, yn lleol a chenedlaethol. "Dyma brofiad pianyddol na allwch roi pris arno. Mae鈥檔 ysgol galed ond yn un werthfawr iawn." Yn athro wrth ei waith bob dydd ymddeolodd 17 mlynedd yn 么l yn dilyn cyfnodau ym Mronant, Ffynnongroyw, Maes Garmon Yr Wyddgrug, Treffynnon a Maes Garmon eto. Cyfansoddodd nifer o ganeuon a sioeau cerdd ac mae鈥檔 awdur dau lyfr o ganeuon i blant. Er 1985 bu鈥檔 arweinydd a chyfeilydd Cantorion Gwalia. Beirniadu a darlledu Yn ogystal 芒 hyn bu鈥檔 feirniad cerdd mewn eisteddfodau ac mae鈥檔 ddarlledwr cyson sydd wedi cyflwyno rhaglenni fel Dechrau Canu, Dechrau Canmol. Pa elfen o hyn i gyd y mae wedi鈥檌 fwynhau orau felly? "Gwaith cyhoeddus dwi鈥檔 ei fwynhau fwyaf. Dwi wedi cyflwyno llawer o gyngherddau cerddorol a does dim gwell na chyflwyno i gynulleidfa pan fo cefndir da o dalentau鈥檙 tu 么l i chi. Hefyd dwi鈥檔 mwynhau cyflwyno Taro Nodyn." Mae teulu Rhys Jones yn un cerddorol iawn hefyd gyda鈥檌 briod Gwen wedi ennill yr unawd Mezzo yn yr eisteddfod genedlaethol chwe gwaith. Yn ogystal, enillodd wobr goffa T.H.Parry-Williams. Mae ganddo ef a gwen ddau o blant, Dafydd sy鈥檔 gweithio gyda Nwy Cymru a Caryl sy鈥檔 berfformwraig amlwg iawn.
| |
© MMI |
|
About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy |