MAWRTH 18fed Tachwedd 2014 Hygyrchedd Geiriau Yn Unig |
Y ddrama fer yn fyr o weledigaeth newydd Adolygiad Catrin Jones Brynhawn Mawrth perfformiwyd y ddrama fuddugol yn y gystadleuaeth cyfansoddi drama fer yn Theatr y Maes. Enillydd y gystadleuaeth oedd Dylan Wyn Williams a pherfformiwyd ei ddrama fuddugol, Gwir Baradwys,s gan rai o ddisgyblion Ysgol y Creuddyn, Llandudno. Bachgen ysgol yn marw Drama oedd hi am fachgen ysgol yn marw wedi iddo gymryd ecstasi mewn clwb nos ar 么l gorffen ei arholiadau Lefel A. Roedd strwythur cadarn i鈥檙 ddrama. Dechreuwyd gyda golygfa o fedd y bachgen a鈥檌 chwaer yn cyfarch y bedd. Aethpwyd 芒 ni at y bedd droeon yn ystod y ddrama a hynny yn ein hatgoffa o fyrdwn y ddrama a鈥檙 drasiedi. Aed a ni yn 么l hefyd i鈥檙 gorffennol a chyfarfod cymeriadau eraill y ddrama. Gwelsom y prif gymeriadau yn yr ysgol cyn eu harholiad Lefel A. Yr oedd golygfa mewn tafarn yn y dre ac un mewn clwb nos. Awyrgylch tafarn a chlwb Crewyd awyrgylch tafarn a chlwb nos yn dda ond teimlwn fod y gerddoriaeth yn boddi鈥檙 llefaru yn yr olygfa clwb. Crewyd undod dramatig trwy orffen gyda鈥檙 bedd unwaith eto. Gweithiodd y syniad o ddechrau yn y diwedd gydag 么l-fflachiadau wedyn o鈥檙 hyn a ddigwyddodd. Hefyd, roeddwn yn hoffi鈥檙 ffordd y portreadwyd y bedd gyda鈥檙 golau i gyd wedi鈥檌 daflu ar un man ar flaen y llwyfan, a blodau ar y llawr. Yn ogystal, roedd y diweddglo鈥檔 effeithiol. Roeddwn yn hoff iawn o鈥檙 dull a ddefnyddiwyd i egluro beth oedd wedi digwydd i gymeriadau鈥檙 ddrama wedi鈥檙 drasiedi. Bu鈥檙 dramodydd yn llwyddiannus hefyd wrth greu cymeriadu credadwy ac amrywiol. Roedd y ddeialog yn naturiol gyda tipyn o hiwmor. Perfformiad yn plesio Plesiodd perfformiad disgyblion Ysgol y Creuddyn gyda鈥檜 llefaru鈥檔 glir. Yr oedd eu defnydd o鈥檙 llwyfan yn ddoeth. Credaf fod defnydd o gerddoriaeth yn y ddrama鈥檔 hynod effeithiol. Dechreuodd gyda c芒n leddf Catatonia, Difrycheulyd, wrth inni weld golygfa鈥檙 bedd. Roedd y g芒n yn dychwelyd bob tro yr aethpwyd a ni at y bedd. Rhwng y golygfeydd eraill defnyddiwyd caneuon bywiog gan y Super Furry Animals a Maharishi ac yn sicr roedd hyn yn cyfrannu tipyn at y perfformiad gan greu awyrgylch a rhoi awgrym i ni o鈥檙 hyn oedd yn mynd i ddigwydd nesaf. Diffyg gwreiddioldeb Ond er cymaint y rhinweddau ni theimlwn fod yn y ddrama fawr ddim gwreiddioldeb. Mae cyffuriau yn thema a welir dro ar 么l tro mewn llenyddiaeth a drama ac er mwyn cyflwyno thema gyfarwydd fel hyn credaf fod angen cyflwyno rhyw agwedd newydd ar y pwnc. Mae鈥檔 wir fod cyflwyno鈥檙 bedd ar ddechrau鈥檙 ddrama, a鈥檌 ddefnyddio wedyn fel atgof poenus o drasiedi drwy鈥檙 ddrama yn elfen o wreiddioldeb ond nid yw鈥檔 ddigon i gyffroi cynulleidfa nac yn rhoi unrhyw neges newydd. Yn anffodus roedd modd rhagweld beth oedd yn mynd i ddigwydd. Er hyn dyma ddramodydd addawol. Roedd y ddrama wedi鈥檌 saerni鈥檔 grefftus ac roedd y ddeialog yn rhwydd. Llwyddodd i greu cymeriadau credadwy ac roedd ei neges yn eglur. Trueni na fyddai鈥檙 stori ei hun wedi bod yn fwy gwreiddiol.
| |
© MMI |
|
About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy |