´óÏó´«Ã½


Explore the ´óÏó´«Ã½

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfod Dinbych 2001

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



´óÏó´«Ã½ Homepage

Cymru'r Byd
Cymru'r Byd
» Dinbych 2001
Straeon
Adolygiadau

Lluniau
Gwledd yn Ninbych
Y lle i fod
Canrif o Brifwyl
Y Sîn Roc
Llais Llên

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Mab yn codi calon ar adeg ddrwg yn hanes y theatr Gymraeg

Mab. Drama Gomisiwn yr Eisteddfod.

Adolygiad Catrin Jones

MabNos Lun oedd noson gyntaf drama gomisiwn yr Eisteddfod, Mab, cynhyrchiad gan Y Gymraes ar y cyd â Sgript Cymru.

Drama arbrofol wedi’i seilio ar stori wir am fachgen ifanc yn diflannu o’i gartref yn Texas.

Sera Moore Williams yw’r awdur sydd ar hyn o bryd yn gyfarwyddwraig artistig Y Gymraes, ac yn gyfarwyddydd cyswllt Arad Goch.

Bachgen yn diflannu
Dywed iddi gael y syniad wedi iddi ddarllen stori yn y Guardian yn 1998. Am fachgen 13 oed wedi mynd ar goll yn San Antonio Texas a’i ddarganfod dair blynedd yn ddiweddarach yn fyw yn Ewrop.

"Mae Mab yn defnyddio elfennau o’r stori bapur newydd fel cerbyd i edrych ar gwlwm cariad rhwng mam a mab ac ar sut y gall cariad ein dallu yn llwyr. Mae’r ddrama yn edrych ar y goblygiadau i gymdeithas pan fo bechgyn ifanc yn cael eu hamddifadu o gariad."

Thema gref yr ymdrinir â hi’n effeithiol yn y cynhyrchiad hwn. Ynghlwm wrth hyn i gyd mae yna stori ddirgelwch gyda thro annisgwyl.

Roedd y cynhyrchiad yn un arbrofol ar sawl ysytr. Un o’r pethau mwyaf arbrofol oedd bod elfen wrthrychol i’r cynhyrchiad gyda’r cast yn ein cyfarch fel actorion ac yn cydnabod mai drama oedd y cwbwl. Mae’r ddrama yn gweithio ar sawl lefel felly.

Elfen o hiwmor

Roedd hyn yn gyfle i ddod ag elfen o hiwmor i gynhyrchiad y mae ei thema ganolog yn un mor gignoeth.

Mae’r syniad hwn wedi dod yn fwy poblogaidd yn ddiweddar ac mae defnydd fel hyn wedi’i wneud mewn cynhyrchiadau fel Dilema gan gwmni’r Arad Goch.
Mae’n debyg i hyn fod o gymorth i’r actorion fynd dan groen eu cymeriadau. Effeithiol iawn yw’r dadlau yn eu mysg pan fo nhw’n ein cyfarch fel actorion. Ar sawl achlysur mae Owen Arwyn (Y Mab) yn datgelu emosiwn wrth drafod y ddrama gan ddweud y bydd yn achosi i ni "grio a gwneud i ni feddwl".

Dywed Catrin Epworth (Y Fam) eu bod: "wedi penderfynu fel cwmni nad oedden ni am uniaethu’n llwyr a’r cymeriadau, camu i fewn ac allan ac ein bod yn teimlo mai dyna’r peth iawn i’w wneud."

Ond nid dyna farn Owen Arwyn a ddywed wrthym, "Dwi ‘di gneud yr ymchwil dwi’n gallu byw yn ei groen o, dwi’n gwbod sut mae o’n teimlo."

Deall seicoleg Y Mab

Yn ddiamheuaeth mae Owen Arwyn wedi llwyddo i ddeall seicoleg Y Mab, a bechgyn eraill sydd wedi’u camdrin a’u hamddifadu.

Mae Catrin Epworth hithau’n llwyddo i bortreadu gofid mam, yn methu dygymod â diflaniad ei mab ac yn erfyn am faddeuant am ei anwybyddu.

Llwyddodd hithau i ddeall seicoleg Y Fam, ei heuogrwydd a’i thrallod.Mae’r ffaith fod Catrin yn fam ei hun yn cael ei grybwyll yn ystod y perfformiad sydd eto’n rhoi gwedd arall i’r cynhyrchiad.

Mae Llion Williams a’i gymeriad, Joe, yn rhan bwysig o’r ddrama hefyd gyda’i ffraethineb a’i hiwmor yn llwyddo i wneud i ni chwerthin ar sawl achlysur.

Yn sicr mae’n llwyddo i ysgafnhau’r awyrgylch ac roedd yr ymateb y gynulleidfa nos Lun yn rhagorol.

Ond er yr hiwmor mae tristwch yma hefyd gan ei fod ef wedi’i wrthod hefyd mewn gwirionedd ac yn dewis cau’i hyn oddi wrth y byd pan yw pethau’n mynd yn drech nac ef.

Elfennau ffilm

Elfen arbrofol arall oedd bod nifer o elfennau yn ymdebygu i ffilm - rhywbeth newydd i’r Theatr Gymraeg - gyda dwy sgrîn fawr bob ochr i’r llwyfan.

Defnyddiwyd y rhain yn gelfydd gydol y perfformiad i ddangos lluniau o’r ‘Mab’ yn blentyn, yn cael ei fwlio gan blant eraill. Yn niwedd y ddrama wedyn roedd Y Mab yn cael ei gyfweld ar y teledu ac roedd y sgrîn yn addas i’r pwrpas hwn hefyd.

Elfen arall arbrofol yn y ddrama sydd eto’n adlais o ffilm yw’r gerddoriaeth oedd i’w chlywed gydol y perfformiad. Cerddoriaeth oedd yn amrywio o’r cyffrous i’r lleddf ac yn adeiladu’n aml i gydfynd â’r tensiwn yn y ddrama. Effeithiol yw’r swn hofrennydd sy’n gymysg â’r gerddoriaeth rythmig pan yw’r bachgen ar goll.

Cynhyrchiad gwefreiddiol, felly.

Mab - actorionYn sicr, doedd y ddrama ddim yn gorffen ar ddiwedd y perfformiad gan fod yma ddigon inni gnoi cil arno. Drama gignoeth, emosiynol sy’n pigo’r cydwybod ac yn cynhyrfu’r isymwybod a does dim amheuaeth gen i’r arbrawf fod yn un llwyddiannus iawn gan y llwyddwyd i ddod â’r thema a’r cymeriadau yn fyw a chyffroi’r gynulleidfa.

Cynhyrchiad sy’n chwa o awyr iach ar adeg pan fo cymaint o bryder a hyd yn oed ddigalondid ynglyn â chyflwr a dyfodol y theatr yng Nghymru. Bydd perfformiad arall o Y Mab nos Fawrth, nos Fercher, nos Iau a nos Wener yn Theatr John Ambrose, Ysgol Brynhyfryd, Rhuthun.
Straeon Eisteddfod 2001:
´óÏó´«Ã½
© MMI

Pafiliwn (dydd)
Pafiliwn (nos)
Clecs Clwyd - Dysgwyr
Dinistr - Pabell Roc
Drama
Gigs y Gymdeithas
Gwyddoniaeth
Maes B
Pabell Cymdeithasau
Pagoda
Pabell Lên
Theatr y Maes
Y Stiwdio

Neuadd Ddawns
Be wyddoch chi am  y Steddfod?
[an error occurred while processing this directive]
Be wyddoch chi am  y Steddfod?


Gwledd yn Ninbych
[an error occurred while processing this directive]
Gwledd yn Ninbych
Y byd llyfrau - Llais Llên
Y byd llyfrau - Llais llên
Newyddion diweddaraf y sîn roc
Newyddion Y Sîn Roc
Gemau
Chwaraewch y gemau



About the ´óÏó´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy