![]() |
![]() |
|
![]() |
![]() |
![]() |
![]() MAWRTH 18fed Tachwedd 2014 Hygyrchedd Geiriau Yn Unig |
![]() ![]() |
![]() Gig Nos Fawrth - Gormod o leisiau merched Adolygiad Elin Meirion Wel dydi’r tywydd byth ‘di gwella ond roedd hwyliau pawb i weld yn llawer gwell neithiwr. Roedd pabell Maes B yn reit brysur i gymharu â’r noson flaenorol. Roedd dewis o fandiau gwahanol eto neithiwr, a’r tri band gyda merched yn flaenwyr iddynt. Canmoliaeth sydd gen i at y dair merch yma. Mae nhw yn sicr yn dangos bod dyfodol i ferched yn y byd roc Cymreig. Ond efallai fod cael y bandiau yma sef Alcatraz, Estella a Melys i gyd yn chwarae ar yr un noson wedi bod yn gamgymeriad. Roeddwn i’n teimlo nad oedd digon o amrywiaeth yn y noson ac efallai byddai cael band o fechgyn i gyd yn eu canol wedi rhoi amrywiaeth yn y lleisiau. Tebyg i Cerys Mathews ![]() Er nad oedd gan Cet yr un gallu â Cerys i ddifyru’r gynulleidfa, efallai gyda mwy o brofiad y bydd Cet hefyd yr un mor llwyddianus yn y dyfodol. Roedd hi hefyd yn meddwl bod y perfformiad wedi mynd yn dda: "..neshi rili fwynhau ac oedd y gynulleidfa yn lyfli.." ![]() Un gân oedd yn sefyll allan oedd ‘Dwisho byw yn y saithdega’. Cân undonog iawn, a’r lyrics yn cael ai ail adrodd dro ar ôl tro. Y llais mor dda ag erioed ![]() Ond ‘doedd y caneuon ddim yn gwneud cymwynas â’r band neithiwr. Efallai fod angen caneuon newydd sy’n sefyll allan i gyffroi’r gynulleidfa. Ar y cyfan roedd y noson yn dangos talent, yn enwedig merched, ond gyda chaneuon gwell a ‘chydig mwy o amrywiaeth byddai’r noson wedi gallu bod yn llwyddiant.
| |
![]() © MMI |
![]()
|
![]() |
About the ´óÏó´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy |