Teimladau
In order to see this content you need to have both enabled and installed. Visit for full instructions
Vox-pops gan blant i gwestiynau ar deimlo embaras.
Ymateb plant yng Nghymru i'r cyflwr poenus o deimlo embaras:
• Sonia am adeg pan oeddet yn teimlo embaras?
• Sut fyddi di'n helpu ffrind sy'n teimlo embaras?
• Ydy e'n beth da i deimlo embaras weithiau?
• Pam fydd rhai'n teimlo embaras ac eraill ddim?
Beth sy'n gwneud i chi deimlo embaras? Sut fyddech chi'n helpu'ch ffrindiau?
Nodiadau Dysgu
Ystod Oedran : 9-11,11-14
Pwnc : ABCh
Testun : Datblygiad Moesol ac Ysbrydol, Perthnasau
Allweddeiriau : Tri chwestiwn i Lara, Cyfeillgarwch, Teimlo embaras,Teimladau
Nodiadau :
Clip saethwyd yn arbennig; adnodd ychwanegol i'r gyfres'Tri Chwestiwn i Lara'
Mae'r bennod hon yn rhoi cyfleoedd i'r dysgwyr yng Nghyfnod Allweddol 2:
• deimlo'n bositif amdanynt eu hunain a bod yn sensitif i deimladau pobl eraill
• ffurfio a chynnal cyfeillgarwch a chydberthnasau eraill
• gwerthfawrogi ffrindiau fel ffynhonnell o gymorth i'w gilydd
• uniaethu â phrofiadau a theimladau pobl eraill
• gofyn am gymorth a chyngor personol
Mae'r bennod hon yn rhoi cyfleoedd i'r dysgwyr yng Nghyfnod Allweddol 3:
• ddatblygu agweddau cadarnhaol atynt hwy eu hunain ac at bobl eraill
• ffurfio a chynnal cyfeillgarwch, a dechrau trafod ymddygiad mewn cydberthnasau personol
• uniaethu â phrofiadau, teimladau a gweithredoedd pobl eraill
Mae clip yn rhoi cymorth i'r myfyrwyr deall y canlynol:
• ystod eu teimladau a'u hemosiynau eu hunain a theimladau ac emosiynau pobl eraill
• sut mae gwerthoedd diwylliannol a chredoau crefyddol yn llywio'r ffordd y mae pobl yn byw
• yr ystod o emosiynau y maent yn eu profi a sut i ddatblygu strategaethau ar gyfer ymdopi â theimladau negyddol
Chwilio Clipiau Dysgu
Archif Eclips
Ydych chi angen pynciau eraill? Eisiau gweld rhagor o glipiau? Ewch i wefan archif Eclips.