´óÏó´«Ã½

Gêm Rygbi

In order to see this content you need to have both enabled and installed. Visit for full instructions

Canu gwych yr emyn 'Bread of Heaven' gan dorf gêm rygbi ryngwladol.

Torf yn yr hen Barc yr Arfau, Caerdydd, yn canu'r emyn 'Bread of Heaven' (ar y dôn 'Cwm Rhondda') cyn y gêm rygbi rhyngwladol rhwng Cymru a'r Alban ( Chwe Gwlad) ym 1998. Dangosir lle'r emyn mewn Cymru gyfoes.
O: Clwb Rygbi Rhyngwladol Cymru v Alban
Darlledwyd yn gyntaf : 7 Mawrth 1998

Nodiadau Dysgu

Ystod Oedran : 14-16

Pwnc : Addysg Grefyddol, Cymdeithaseg

Testun : Ystyr a phwrpas bywyd, Gwerthoedd, Cymuned a ddiwylliant

Allweddeiriau : Canu emynau, Cwm Rhondda, Bread of Heaven, Dylanwad crefydd ar ddiwylliant yng Nghymru, Diwylliant Cymru, Diwylliant a Chymdeithasoli

Nodiadau : ADDYSG GREFYDDOL:Gellir trafod geiriau'r emyn yn ogystal â'r teimladau mae'r dôn yn eu hysgogi yn y disgyblion. Pam maen nhw'n canu emynau mewn gemau rygbi heddiw? A yw'n arwydd bod Cymru'n fwy, neu'n llai, crefyddol? Archwilio pwysigrwydd addoli yn ein cymunedau heddiw. CYMDEITHASEG: Ystyriwch y cysylltiad rhwng diwylliant a hunaniaeth. • Paratowch gyflwyniad sy'n dangos sut mae diwylliant Cymru wedi newid yn ystod y 100 mlynedd diwethaf (gwaith grŵp / pâr). • Ymchwiliwch i arferion diwylliannol sy'n wahanol i rai Cymru. • Nodwch ac eglurwch sut mae plant yn dysgu diwylliant. • Trafodwch effeithiau posib globaleiddio ar ddiwylliannau traddodiadol.


Archif Eclips

eclips

Ydych chi angen pynciau eraill? Eisiau gweld rhagor o glipiau? Ewch i wefan archif Eclips.

Clipiau Diweddar


´óÏó´«Ã½ iD

Llywio drwy’r ´óÏó´«Ã½

´óÏó´«Ã½ © 2014 Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.