Brit a Sion
In order to see this content you need to have both enabled and installed. Visit for full instructions
Britt yn gorfod mynd i'r gwaith yn annisgwyl. Rhaid trefnu gofal plant.
Nodiadau Dysgu
Ystod Oedran : 14-16,16+
Pwnc : Cymdeithaseg
Testun : Cymuned a ddiwylliant
Allweddeiriau : Teulu cnewyllol, Teulu gyrfa deuol, Pobol y Cwm, Rolau rhywedd, Rolau teuluol, Teuluoedd, Teuluoedd a diwylliant, Baich triphlyg
Nodiadau : PYNCIAU TRAFOD • Beth yw'r problemau sy'n gallu wynebu mamau i blant ifanc sy'n gweithio? • Pa nodweddion o rolau rhywedd traddodiadol sydd i'w gweld yn y clip? • Oes arwydd o rolau mwy modern? • Trafodwch effeithiau posib cael dau riant sy'n gweithio ar blant ifanc.• Pwy sy'n cymryd y cyfrifoldeb dros drefnu'r gofal plant? Beth mae hyn yn awgrymu? GWAITH ESTYNEDIG • Byddai rhai cymdeithasegwyr yn dadlau bod gan fenywod faich deuol neu faich triphlyg. Beth yw ystyr y termau hyn? • Ymchwiliwch i ddarganfod faint o fenywod sydd â phlant ifanc sy'n gweithio. Pa fath o gytundeb gwaith sydd ganddynt? Sut mae'r ffigyrau wedi newid ers 60 o flynyddoedd? • Ymchwiliwch i ddarganfod sut mae rôl tadau wedi newid. ADOLYGU • Aseswch effaith mamau sy'n gweithio ar fywyd teuluol. • Trafodwch ffactorau sydd wedi dylanwadu ar rôl tadau yn ystod y 50 mlynedd diweddaf. • Nodwch sut mae'r berthynas rhwng rhieni a phlant wedi newid. Esboniwch y rhesymau cymdeithasegol am y newidiadau hyn.
Chwilio Clipiau Dysgu
Archif Eclips
Ydych chi angen pynciau eraill? Eisiau gweld rhagor o glipiau? Ewch i wefan archif Eclips.