Byw mewn Lle Oer: Darganfod Bwyd yn eich Cynefin
In order to see this content you need to have both enabled and installed. Visit for full instructions
Gwaith peryglus yw casglu bwyd ffres o'r m么r yn yr Arctig.
Nodiadau Dysgu
Ystod Oedran : 7-9,9-11
Pwnc : Daearyddiaeth
Testun : Materion amgylcheddol, Adnoddau cynaliadwy
Allweddeiriau : Amgylchedd, Inuit, Hinsawdd oer, Canada,
Nodiadau : Cyn gwylio'r clip gofynnwch i'r disgyblion drafod y cysyniad o risg - efallai bydd ganddyn nhw enghreifftiau o'r hyn bydden nhw'n fodlon mentro ei wneud er mwyn cael rhywbeth fyddai'n angenrheidiol i gadw'n fyw. Ar 么l gwylio'r clip lunio graffiau llinell yn cymharu'r tymereddau cyfartalog yn y Deyrnas Unedig a'r Arctig. Ysgrifennu darn estynedig, er enghraifft cerdd neu gofnod dyddiadur, yn ystyried sut byddai byw yn rhywle lle nad yw'r haul yn codi am ddeufis ac wedyn ddim yn machlud yn yr haf. Ymchwilio i'r pyramid bwydydd: beth ddylen ni ei fwyta i gadw'n iach? Cymharwch y bwydydd rydyn ni'n eu bwyta ym mhob adran o'r pyramid 芒'r bwydydd y byddai pobl yr Arctig yn debygol o'u bwyta. Ymchwilio i batrymau llanw'r m么r ar eu harfordir agosaf a'u cymharu 芒'r hyn sy'n digwydd yn y clip. Ymchwiliad gwyddoniaeth - sut mae rhywbeth oer (e.e. eira) yn gallu cadw pobl yn gynnes? Y disgyblion i gynnal arbrawf yn ymwneud ag ynysedd. Disgyblion i lunio rhestr o bopeth mae eu rhieni wedi ei ddysgu iddyn nhw, er mwyn trafod y syniad o drosglwyddo gwybodaeth. Disgyblion i ystyried cyflenwadau bwyd sy'n gynaliadwy - ymchwilio, mewn grwpiau, i enghreifftiau eraill, e.e. pysgod penfras, ac adrodd yn 么l i'r dosbarth am eu darganfyddiadau.
Chwilio Clipiau Dysgu
Archif Eclips
Ydych chi angen pynciau eraill? Eisiau gweld rhagor o glipiau? Ewch i wefan archif Eclips.