大象传媒

Coedwigoedd Cynaliadwy:Defnyddio Nerth Anifeiliaid

In order to see this content you need to have both enabled and installed. Visit for full instructions

Trigolion coedwig yn India yn boncyffio'n gynaliadwy gyda help yr eliffantod.

Mewn coedwig jyngl yng Ngogledd Ddwyrain India mae'r bobl leol wedi harneisio nerth anifail cryfaf byd natur - yr eliffant - er mwyn ceisio lleihau'r effaith ddinistriol mae'r diwydiant torri coed yn foncyffion yn ei chael ar eu cynefin. Mae cael eliffantod i gludo boncyffion dros fryniau ac afonydd yn fwy cynaliadwy ac amgylcheddol-gyfeillgar na defnyddio'r peiriannau boncyffio diwydiannol.
O: Human Planet Jungles - People of the Trees
Darlledwyd yn gyntaf : 3 Chwefror 2011

Nodiadau Dysgu

Ystod Oedran : 11-14

Pwnc : Daearyddiaeth

Testun : Ardal gyferbyniol, Gweithgaredd economaidd, Materion amgylcheddol, Masnach

Allweddeiriau : Rheoli ecosystemau, Pobl a'r amgylchedd,coedwigoedd glaw,pobl frodorol,Eliffantod, Amgylcheddol-gyfeillgar

Nodiadau : Enghraifft dda o ddefnydd yr adnoddau coedwig yn gynaliadwy. Gallai'r disgyblion ymchwilio hefyd i oblygiadau mynd ati i ddatgoedwigo. Dyluniwch/cynlluniwch ymgyrch i annog cwsmeriaid i roi'r gorau i brynu defnyddiau gwerthfawr o'r coedwigoedd glaw, e.e. pren caled.


Archif Eclips

eclips

Ydych chi angen pynciau eraill? Eisiau gweld rhagor o glipiau? Ewch i wefan archif Eclips.

Clipiau Diweddar


大象传媒 iD

Llywio drwy鈥檙 大象传媒

大象传媒 漏 2014 Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.