Byw gyda Pheryglon: Darganfod Adnoddau mewn Mannau Peryglus
In order to see this content you need to have both enabled and installed. Visit for full instructions
Mwyngloddwyr yn mentro'u bywydau ar Ynys Java.
Nodiadau Dysgu
Ystod Oedran : 7-9,9-11
Pwnc : Daearyddiaeth
Testun : Ardal gyferbyniol, Gweithgaredd economaidd, Ecosystemau, Adnoddau cynaliadwy
Allweddeiriau : Mynyddoedd, Y Byd Ehangach, Java
Nodiadau : Cyn gwylio'r clip gallai'r disgyblion ymchwilio i beth yw llosgfynydd a sut mae'n cael ei ffurfio. Ymholiad Gwyddoniaeth - cynnal arbrawf i ddangos sut mae cymysgu gwahanol gemegion yn gallu achosi ffrwydrad 'folcanig'. Gan ddefnyddio rhaff i greu dwy garfan (cytuno ac anghytuno), gallai'r disgyblion benderfynu a fydden nhw'n cymryd rhan mewn gwahanol weithgareddau peryglus y bydd yr athro neu athrawes yn eu disgrifio, e.e. 'byddwn i'n fodlon mentro cerdded dros bont sydd wedi torri'; 'byddwn i'n fodlon mentro cerdded dros bont sydd wedi torri petai t芒n ar y pen yma i'r bont', ac ati. Ar 么l gwylio'r clip gallai'r disgyblion ymchwilio i'r mathau o swyddi eraill fyddai ar gael i'r mwyngloddwyr sylffwr yn Nwyrain Java, a faint fyddai'r cyflog. Gallech arwain trafodaeth dosbarth ar pam mae'r dynion yn dewis gwneud y gwaith peryglus yma ac a oes ganddyn nhw ddewis mewn gwirionedd.
Chwilio Clipiau Dysgu
Archif Eclips
Ydych chi angen pynciau eraill? Eisiau gweld rhagor o glipiau? Ewch i wefan archif Eclips.