´óÏó´«Ã½

Dechrau'r Clefyd Alzheimer

In order to see this content you need to have both enabled and installed. Visit for full instructions

Clefyd Alzheimer a'i effaith ar bartner Beti

Mae Beti George yn ein cyflwyno ni i'w phartner, David, sy'n ddiweddar wedi cael y diagnosis fod clefyd Alzheimer arno. Mae hi'n trafod effeithiau'r clefyd ar eu bywyd bob dydd ac yn mynd â ni i Ysbyty Llandochau i siarad ag Antony Bayer (arbenigwr yn y maes). Cynhelir profion syml ar gyflwr David. Mae Beti yn addo byw bywyd 'mor normal â phosibl' gyda chymorth cyffuriau arbenigol.
O: Un o Bob Tri
Darlledwyd yn gyntaf : 29 Chwefror 2012

Nodiadau Dysgu

Ystod Oedran : 14-16,16+

Pwnc : Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Testun : Iechyd Meddwl, Gofalu am Unigolion Hyˆn, Twf a Datblygiad Dynol

Allweddeiriau : Clefyd Alzheimer, Dementia, Anghenion gofal unigolion, Unigolion HÅ·n, Poblogaidd yn heneiddio

Nodiadau : •'Os na fyddwn ni'n buddsoddi mewn ymchwil nawr, bydd y gost emosiynol ac ariannol fydd yn ein hwynebu yn drymach nag y gallwn ei hamgyffred. Mae gwariant y llywodraeth a gwariant elusennol ar ddementia 12 gwaith yn is na'r gwariant ar ymchwil canser. Caiff £590 miliwn ei wario ar ymchwil canser, o'i gymharu â £50 miliwn ar ddementia.' ; Beti George 2012. Trafodwch •Mae Beti a David yn rhan o broject ymchwil tair blynedd o hyd ar glefyd Alzheimer. Beth ydych chi'n meddwl yw'r manteision o gymryd rhan mewn projectau o'r fath a) i Beti a David a b) i ddioddefwyr Alzheimer eraill yn y dyfodol? •Crëwch daflen wybodaeth yn nodi beth yw symptomau cynnar clefyd Alzheimer, sut mae'r salwch yn datblygu a'r driniaeth ayyb. •Defnyddiwch clip yn Uned 1 TGAU - Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gwasanaethau Plant ( Anghenion gofal unigolion - yr hŷn); Uned 2 - Twf a Datblygiad Dynol ( Newidiadau mewn bywyd - adnoddau a chefnogaeth) Uned 1 TAG - Hybu Gofal o Safon a Chyfathrebu.


Archif Eclips

eclips

Ydych chi angen pynciau eraill? Eisiau gweld rhagor o glipiau? Ewch i wefan archif Eclips.

Clipiau Diweddar


´óÏó´«Ã½ iD

Llywio drwy’r ´óÏó´«Ã½

´óÏó´«Ã½ © 2014 Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.