Rhybuddiwyd na ddylid chwilio am batrwm yn dilyn yr hyn a ddigwyddodd yng nghystadleuaeth y gadair yn Eisteddfod Y Bala.
Er bod nifer y cystadleuwyr yn isel a'r ymgeision yn anheilwng o'r gadair dywedodd Branwen Jarvis mewn cynhadledd i'r wasg yn dilyn y seremoni:
Patrwm
"Dydw i ddim yn meddwl bod eisiau i ni chwilio am batrwm o un flwyddyn wan.
"Hynny yw, mae'r tri ohonom ni'n athrawon ac rydyn ni gyd yn gwybod bod blynyddoedd gwan heb reswm a bod yna flynyddoedd ardderchog heb reswm ymddangosiadol.
"Mae'r pethau yma yn digwydd a dwi ddim yn meddwl bod yna batrwm fel y cyfryw," meddai.
"Neu o leiaf fe gawn ni weld dros y flwyddyn neu ddwy nesaf os oes yna batrwm ond dwi'n mawr obeithio na fydd hynny yn digwydd," ychwanegodd.
Niferoedd yn debyg
Dywedodd Ceri Wyn Jones a oedd hefyd yn beirniadu i'r niferoedd fod yn debyg iawn dros ddegawd gyda rhyw saith, wyth, naw yn cystadlu.
"Ond yn y blynyddoedd a fu mae'n wastad wedi bod un seren. Rydym ni wedi anwybyddu'r ffaith fod y niferoedd yn isel ond mae'n amlycach eleni oherwydd nad oes enillydd gyda ni," meddai.
Dywedodd Branwen Jarvis ei bod hi a'r ddau feirniad arall, Ceri Wyn Jones a Gwenallt Llwyd Ifan, "yn benisel" oherwydd y penderfyniad y bu'n rhaid iddynt ei wneud ond i'r ffaith fod y tri ohonynt yn gwbl gytun nad oedd teilyngdod ei wneud yn un rhywfaint haws.
"Roeddem ni'n gwbl unfrydol a'r tri ohonom yn gallu atgyfnerthu'n gilydd," meddai.
Heb gysondeb
Eglurwyd mai methiant hyd yn oed y goreuon yn y gystadleuaeth i fod yn gyson eu "fflachiadau" oedd diffyg pennaf y gystadleuaeth.
"A dyna yw'r rhwystredigaeth rwy'n credu oherwydd ein bod ni'n teimlo bod da ni feirdd da ond heb fod yn saern茂o'r cerddi , yn eu gweithio nhw ac yn eu tocio nhw a bod yna ormod o dderbyn llinellau ail orau a hynny'n difetha'r gwaith da sy'n digwydd mewn sawl man arall," meddai Gwenallt Llwyd Ifan.
Ac meddai Ceri Wyn Jones: "Y teimled oeddech chi'n gael oedd eich bod yn taro ar ryw linell dda neu syniad da weithiau ond nad oedden nhw wedi ymlafnio i wneud y peth yn orffenedig - i weld y peth trwyddo i'r pen. Yr oedden nhw'n meddwl fod y syniad neu'r llinell yn ddigon ynddynt eu hunain.
"Roedd yna fflachiadau disglair ond yn sydyn gawsech chi eich siomi wedyn ac yna ymhen chwech, saith, wyth llinell rhywbeth da eto," meddai.
Diffyg pensaerniaeth
Beirniadodd Branwen Jarvis hefyd ddiffyg pensaern茂ol y cerddi a methiant y beirdd i feddwl am eu cerdd fel cyfanwaith a'u datblygu yn iawn.
"Yr oedd yna nifer ohonyn nhw yn mynd ar goll yn y canol neu roedd y diwedd yn ffwrdd 芒 hi ac yn wan," meddai.
Beirniadodd ragymadrodd hir a diffyg dechrau dramatig cerdd dan y ffugenw 42340 am Auschwitz a osodwyd ar y brig gan y ddau feirniad arall.
"Os ydych chi'n sgrifennu am beth mor ddychrynllyd mae'n rhaid ichi ei bwrw hi o'r dechrau," meddai.
Straeon eraill
Newyddion
Blogiau 大象传媒 Cymru
Doeddwn i ddim yn gweithio gefn llwyfan tan hanner dydd a'r gystadleuaeth gyntaf ar ...
Nia Lloyd Jones, 13 Awst 2012
Cylchgrawn
Y celfyddydau
Blog, adolygiadau a straeon o fyd y theatr, llyfrau a ffilm gydol y flwyddyn.