Am y tro cyntaf yn hanes yr Eisteddfod mae'r gair Pwyleg am groeso - Witamy - wedi ei ychwanegu at fwrdd ger y brif fynedfa sy'n croesawu pobl i'r Brifwyl mewn sawl iaith gan gynnwys y Saesneg, Ffrangeg, Gwyddeleg, Almaeneg, Sbaeneg a'r Llydaweg.
Mae'r diolch am hynny i Katarzyna Zawadzka o Wlad Pwyl sy'n un o'r t卯m a fu'n paratoi'r maes.
Mae Katarzyna, a raddiodd mewn Arolygu Tir yn gweithio ar raglen ddeng wythnos i'r Eisteddfod yn y Bala, eisoes fel tirfesurydd wrth gynllunio ac adeiladu'r maes a'r wythnos hon fel cymhorthydd.
"Gwelais hysbyseb am swydd ar wefan GO Wales a chefais wahoddiad i weithio i'r Eisteddfod. Doeddwn erioed wedi clywed am yr Eisteddfod o'r blaen felly doeddwn ddim yn si诺r iawn beth i'w ddisgwyl. Rwyf wedi fy synnu ar faint yr 诺yl a pha mor gryf yw'r diwylliant Cymreig," meddai.
Gan fod Katarzyna wedi bod yn rhan annatod o'r 糯yl eleni, awgrymwyd ei bod yn cynnwys y gair Pwyleg am 'croeso' ger y Brif Fynedfa.
"Roedd o'n gyfle i ddweud diolch wrth Katarzyna a hefyd yn ffordd dda o ddangos yr ieithoedd eraill sydd o'n cwmpas ac yn cael eu siarad gan bobl yn yr Eisteddfod."
Daeth y ferch o Wroclaw yng Ngorllewin Gwlad Pwyl i fyw yng Nghymru ddwy flynedd yn 么l a bellach mae wedi ymgartrefu yn Wrecsam.
Daeth yma ar wyliau at berthynas yn y lle cyntaf a phenderfynu aros!
A hithau'n gallu siarad mwy nag un iaith ei hun mae'n gwerthfawrogi pwysigrwydd parchu diwylliant arall a bu'n dysgu geiriau Cymraeg - a pha le gwell i wneud hynny na'r Eisteddfod?
"Rwyf yn gallu dweud ambell air yn y Gymraeg r诺an, pethau sylfaenol fel 'bore da', 'diolch yn fawr' a 'chroeso'," meddai.
Straeon eraill
Newyddion
Blogiau 大象传媒 Cymru
Doeddwn i ddim yn gweithio gefn llwyfan tan hanner dydd a'r gystadleuaeth gyntaf ar ...
Nia Lloyd Jones, 13 Awst 2012
Cylchgrawn
Y celfyddydau
Blog, adolygiadau a straeon o fyd y theatr, llyfrau a ffilm gydol y flwyddyn.