Hyd yn oed cyn cystadlu ddydd Gwener mae gan barti cerdd dant Perlais ddigon i'w ddathlu yn Eisteddfod Genedlaethol Y Bala.
Ddydd Llun derbyniwyd chwe aelod o'r c么r yn aelodau newydd o'r Orsedd i gyd gyda'i gilydd - yn cael eu derbyn ar sail eu graddau Prifysgol.
Yn dathlu yn y llun gyda Beti Puw Richards eu harweinydd mae; Angharad Ellis, Ffion Bryn, Lona Meleri, Catrin Gwynfor, Nia Hughes ac Awel Bryn, chwaer Ffion.
Dywedodd Beti bod ugain o aelodau yn y c么r a sefydlwyd ddwy flynedd yn 么l yn ardal y Bala. Mae rhai o'r aelodau eraill yn yr Orsedd yn barod.
Byddant yn cystadlu ddydd Gwener ar y gystadleuaeth i bart茂on heb fod dros ugain mewn nifer - cystadleuaeth y daethent yn drydydd ynddi yn Yr Wyddgrug ddwy flynedd yn 么l.
Mwy
Straeon eraill
Newyddion
Blogiau 大象传媒 Cymru
Doeddwn i ddim yn gweithio gefn llwyfan tan hanner dydd a'r gystadleuaeth gyntaf ar ...
Nia Lloyd Jones, 13 Awst 2012
Cylchgrawn
Y celfyddydau
Blog, adolygiadau a straeon o fyd y theatr, llyfrau a ffilm gydol y flwyddyn.