大象传媒

Coroni cerddi'r newid

02 Awst 2010

Bardd y Goron yn siarad gyda'r Wasg

Bardd yn diolch i'w thad am newid iaith

Oni bai i'w thad ddewis dysgu'r Gymraeg yn 诺r ifanc dywedodd enillydd Coron Eisteddfod Blaenau Gwent na fyddai hi ar y llwyfan heddiw.

A theyrnged iddo ef, a fu farw naw mlynedd yn 么l, oedd un o'r cerddi yn y casgliad a enillodd i Glenys Mair Glyn Roberts y Goron ar ei chynnig cyntaf erioed.

Cyfansoddodd gasgliad o gerddi ar y testun Newid ac un newid oedd y newid iaith ym mywyd ei thad, Reg Powell.

Yn frodor o Bontnewynydd ger Pont-y-p诺l yr oedd ef yn 诺r ifanc pan benderfynodd ddysgu'r Gymraeg a newid iaith y teulu.

"Yr oedd yna lawer o newidiadau eithaf trawmatig yn ei fywyd o. Fe gollodd o'i fam pan yn chwech oed a nifer o newidiadau eraill hefyd pur drawmatig ond y newid yr oeddwn i eisiau sgrifennu amdano oedd y newid iaith," meddai.

Gyda'r Archdderwydd ar y Maes

"Mi newidiodd hynny ei fywyd o'n llwyr. Mi ddechreuodd o yn y fyddin yn ddyn ifanc a ffrindiau yn siarad Cymraeg ac fe wnaeth, dwi'n meddwl, benderfyniad ymwybodol i chwilio am wraig oedd yn siarad Cymraeg," ychwanegodd.

A merch o Lyn Ceiriog oedd y ferch honno ac yno y ganwyd Glenys Mair Glyn Roberts ond i'r teulu symud wedyn i Sir F么n lle daeth ei thad yn gyfarwyddwr cynllunio.

I'r ysgol ym Llangefni yr aeth hithau a graddio wedyn yn Aberystwyth gan weithio wedyn yn athrawes nes mentro yn gyfieithydd a golygydd ar ei liwt ei hun.

Er ei hawydd mawr i sgrifennu'r gerdd iddo ef dywedodd iddi fod "yn hir yn dod".

"Roeddwn i'n methu'n glir 芒'i chael i ddod. Roedd na linellau ac roeddwn i'n gwybod am beth oeddwn i am sgrifennu ond yn methu ac roeddwn i am iddi fod yn gerdd deilwng.

"Roeddwn yn gorwedd yn fy ngwely un noson rhwng cwsg ac effro yn meddwl bod y gerdd yma yn hir yn dod a dyna sut y ces i'r llinell gyntaf , Bu'r gerdd hon yn hir yn dod. Yn wir fe fu hi naw deg mlynedd yn dod! Oni bai ei fod o wedi dewis dysgu'r iaith go brin y byddwn i yma - wedi dechrau barddoni ac ennill y goron," meddai.

Dywedodd y wraig nad yw'n barddoni ond ers deng mlynedd iddi gael ei pherswadio i gystadlu oherwydd bod y testun, Newid, mewn ffordd yn destun "gweddol hawdd".

"Gyda bron bopeth mewn bywyd mae yna newid . Mae'n un o hanfodion bywyd. Yr ydym yn newid o'r crud i'r bedd ac mae gennych chi ddau fath o newid; mae gennych chi y geni, y tyfu, yr aeddfedu a chyrraedd llawn dwf. Y newid creadigol adeiladol os leciwch chi ac mae hyn yn wir am bopeth - popeth yn ein bydysawd ni.

Ac wedyn mae gennych chi newid o'r ochr arall, y dadfeilio a'r darfod. Mae'r patrymau yna yn ddigyfnewid ac roeddwn i wedi ceisio cyfansoddi cerdd ar y dechrau i gyflwyno'r casgliad oedd yn s么n am hynny ac wedyn cerdd ar y diwedd yn ceisio dweud bod yna fwy na hynny mewn bywyd hefyd. Mae yna rhyw rin, mae rhywbeth arbennig sy'n rhoi ystyr i fywyd a dwi wedi cyfleu hynny.

"Yr oeddwn i'n edrych ar fy 诺yr bach ifanc yn eistedd yn ei gadair a, da chi'n gwybod, pan ydych chi'n cael gw锚n gan blentyn weithiau mae ei lygaid o'n llenwi efo gw锚n ac mae ei wyneb o'n gweddnewid a , wel, jyst yn eich taro chi.

"Ond fe allwch chi gael y math yna o deimlad hefyd wrth edrych ar lun, wrth wrando ar gerddoriaeth ac weithiau mae o'n deimlad dwys iawn. Mae rhyw rywbeth, rhyw rin sy'n rhoi ystyr ychwanegol i fywyd.

"Felly, dyna oedd y fframwaith i'r casgliad," meddai.

Ond ychwanegodd bod y chwe cherdd yn y canol yn annibynnol ar ei gilydd,

Llongyfarchiadau - gan ffrind wrth iddi adael y seremoni

Y feirniadaeth

Daeth yn amlwg yn y feirniadaeth a draddodwyd gan Mererid Hopwood ar ran T James Jones a'r diweddar Iwan Llwyd nad oedd cytundeb llwyr rhwng y beirniaid ar y cychwyn - yn nes ymlaen y daeth hynny.

Ond hon o'r cychwyn oedd hoff ymgais Iwan Llwyd.

Ac wrth draddodi'r feirniadaeth dywedodd Mererid Hopwood fod yr ymgais fuddugol yn "mynnu gwrandawiad" o'r cychwyn cyntaf.

"Dyma fardd a chanddo rywbeth i'w ddweud ac sy'n gallu ei wneud e," meddai.

"Mae ganddo farn am ein cyflwr fel pobl, boed yn Gelli Lydan, yn Havana, Pr芒g neu Ravensbruck - mae e'n cynnig gweledigaeth sy'n dweud fel hyn, mai 'digyfnewid yw terfynau ein bod'," meddai.

"Pnd yn y gerdd glo, gwelwn y patrymau mae'r ddynoliaeth yn eu creu dros y byd i gyd yn cael eu crisialu mewn pelydryn o olau gwyn, wrth i ryw rin sy'n 'h欧n na gennynau'r hil' dri'r cyfan 'yn llafn o gariad'.

" Bardd sy'n perthyn i'r byd real yw hwn ond un sy'n gallu ein gweld ni i gyd a'i lygad barcud o bersbectif arall - ac un sy'n gwybod mai ein gobaith mawr ni yw cariad," meddai.

Ond ychwanegodd nad casgliad i'r darllenydd diog mo hwn gan fod angen meddwl dros y cerddi.

"Mae'n goglais, yn awgrymu, yn athronyddu, ac weithiau jyst yn canu."

Dywedodd i'r bardd gyfareddu Iwan Llwyd o'i ddarlleniad cyntaf, ei denu hi fesul; tipyn a llwyr berswadio T James Jones "i hedfan gydag ef".

Felly, er nad oedd cytundeb llwyr rhwng y beirniaid i ddechrau - y diwedd fu, cytundeb llwyr.


  • Gwyliwch glip fideo o'r seremoni

    Blogiau 大象传媒 Cymru

    :

    Nia Lloyd Jones

    Doeddwn i ddim yn gweithio gefn llwyfan tan hanner dydd a'r gystadleuaeth gyntaf ar ...

    Canlyniadau

    Bandiau pres

    Rhestr lawn

    Holl ganlyniadau'r wythnos a chlipiau fideo o'r buddugol.

    大象传媒 iD

    Llywio drwy鈥檙 大象传媒

    大象传媒 漏 2014 Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

    Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.