大象传媒

Gwahoddiad i gartref Jeremiah

31 Gorffennaf 2010

Branwen Niclas yng nghartref Jeremiah

Cartref teulu o Nigeria ar Faes yr Eisteddfod

Ar y wal y mae llun mawr o Ryan Giggs ac o d卯m p锚l-droed Manchester United. Mae yna galendr p锚l-droed hefyd a lluniau a wnaed gan blentyn.

Ar yr olwg gyntaf mae'n edrych, er braidd yn dlodaidd, fel sawl ystafell wely arall ac yn mesur rhyw naw troedfedd efo chwech.

Ond nid 'ystafell' mo hon ond cartref cyfan Jeremiah 12 oed o Matopeni yn Nairobi, Kenya - cartref y mae ef a phedwar arall, gan gynnwys ei nain, yn ei rannu

Mae'r cartref wedi ei ail greu ar safle Cymorth Cristnogol ar faes yr Eisteddfod er mwyn i blant 芒 phobl Cymru gael gweld pa mor anodd yw bywyd i blant mewn rhai rhannau o'r byd.

Mae'r sylw pennaf yn cael ei dynnu at brinder d诺r ac ar glip fideo byr mae Jeremiah, syn gefnogwr brwd o Manchester United, yn disgrifio sut mae'r teulu yn gorfod cerdded milltiroedd i brynu d诺r gl芒n.

"A chan nad oes toiled mae teuluoedd yn defnyddio bagiau plastig i gasglu eu baw ac yn yn eu taflu i ffwrdd. Mae'n nhw'n galw'r rhain yn 'flying toilets' meddai Branwen Niclas un o swyddogion Cymorth Cristnogol."

Ac mae Jeremiah yn disgrifio sut y gallwch gael eich taro gan un a sut maen nhw'n sbwriel ar y strydoedd gan beryglu iechyd y bobl.

"Mae'r cartref ydym ni wedi ei ail greu yn union yr un faint a chartref y teulu hwn er mwyn i blant Cymru gael gweld yn union faint o le sydd gan deulu i fyw. Mae amryw yn meddwl i ddechrau mai dim ond stafell mewn cartref yw hi yn hytrach na chartref cyflawn," meddai.

"Mae yna gyfle i ymwelwyr 芒'n pabell adael neges ghefyd fydd yn cael ei drosglwyddo i Jeremiah. "Mae hyn yn rhan o ymgyrch gan Gymorth Cristnogol sy'n gweithio yn yr ardal hon i wella cyflenwadau d诺r a charthffosiaeth a thrwy hynny iechyd pobl," meddai.


Blogiau 大象传媒 Cymru

:

Nia Lloyd Jones

Doeddwn i ddim yn gweithio gefn llwyfan tan hanner dydd a'r gystadleuaeth gyntaf ar ...

Canlyniadau

Bandiau pres

Rhestr lawn

Holl ganlyniadau'r wythnos a chlipiau fideo o'r buddugol.

大象传媒 iD

Llywio drwy鈥檙 大象传媒

大象传媒 漏 2014 Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.