大象传媒

Cofio Iwan Llwyd yn y Steddfod

05 Awst 2010

Rhan o lun gan Marian Delyth

Mae rhagor o docynnau wedi eu cyhoeddi ar gyfer Noson cofio Iwan Llwyd ar Maes C heno.

Yn dilyn y noson am hanner awr wedi saith nos Iau yn Adeilad y Cyngor, Maes C, yn yr Eisteddfod bydd taith wedyn o amgylch Cymru.

'Bagad o feirdd' fu'n cyd-deithio Cymru yng nghwmni Iwan Llwyd dros y blynyddoedd fydd yn cymryd rhan gan gynnwys Ifor ap Glyn, Geraint Lovgreen, Myrddin ap Dafydd, Twm Morys, Mei Mac a chyfraniad arbennig gan Emyr Lewis.

Y bwriad yw dathlu gwaith un o feirdd mwyaf poblogaidd Cymru a fu farw yn 52 oed fis Mai trwy gadw yr elfen o berfformio llenyddiaeth yn fyw y bu ef mor frwd yn ei hyrwyddo.

"Iwan yn anad neb fu ar flaen y gad wrth berfformio barddoniaeth Gymraeg dros y deng mlynedd ar hugain diwethaf," meddai Ifor ap Glyn fu ar deithiau beirdd yn ei gwmni ers yr Wythdegau.

"Roedd o ar d芒n i fynd 芒 barddoniaeth at y bobol - i'r tafarnau, i'r ysgolion, i'r cestyll, i'r amgueddfeydd, i bobman. Fo oedd yr un efo'r t芒n yn ei fol i drefnu taith ar 么l taith."

Un arall a grwydrodd i bob rhan o Gymru gydag Iwan a enillodd Goron Eisteddfod Cwm Rhymni 1990 yw Myrddin ap Dafydd.

"Mi fydd cyflwyno'r noson hon mor agos at faes Eisteddfod Cwm Rhymni yn garreg filltir bwysig wrth gofio am Iwan,' meddai.

"Mi fydd y pwyslais ar fwynhad yn naturiol, gyda llawer o'r cerddi newydd yn codi o hwyl yr hen deithiau yng nghwmni Iwan. Cynnal yr awydd i boblogeiddio barddoniaeth a chreu sioe sy'n plethu'n reit dynn i'w gilydd ydi'r nod - ond mi fydd galar a chwithdod i'w deimlo yno hefyd y tro hwn," ychwanegodd.

Mae Geraint Lovgreen wedi gosod alawon i nifer o eiriau o waith Iwan na chafodd eu clywed hyd yma a bydd caneuon newydd gan Iwan yntau yn rhan o'r sioe.

Trefnir y noson gan Barddas ac mae'r tocynnau ar werth gan Swyddfa'r Eisteddfod.

"A'r cyntaf i'r felin fydd hi o ran tocynnau gan mai dim ond lle i 80 sydd yn yr adeilad.," rhybuddiwyd.

"Ond mae'r criw eisoes yn trefnu taith naw noson yn ystod Medi a Hydref. Roedd gan Iwan sawl hoff le a sawl cynulleidfa agos at ei galon a'r peth lleiaf fedrwn ni ei wneud ydi mynd ar daith i gofio am y teithiwr mawr a chynnal y gadwyn berfformio o fro i fro," meddai Twm Morys.

  • Llun drwy garedigrwydd Marian Delyth.

Blogiau 大象传媒 Cymru

:

Nia Lloyd Jones

Doeddwn i ddim yn gweithio gefn llwyfan tan hanner dydd a'r gystadleuaeth gyntaf ar ...

Canlyniadau

Bandiau pres

Rhestr lawn

Holl ganlyniadau'r wythnos a chlipiau fideo o'r buddugol.

大象传媒 iD

Llywio drwy鈥檙 大象传媒

大象传媒 漏 2014 Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.