Fydd 'na ddwbwl arall yn Wrecsam?
21 Gorffennaf 2011
Dwy Steddfod Ddwbl yn Wrecsam - fydd na drydedd?
Bydd mwy o ddiddordeb na'r arfer pwy fydd yn ennill y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam ddydd Llun.
A'r cwestiwn cyntaf gan sawl un fydd, "Ydi hwn yn un all ennill y Gadair ddydd Gwener hefyd?"
Wedi'r cyfan, mae gan Wrecsam dipyn o enw ym mater y dwbwl eisteddfodol.
Sgoriwyd y dwbwl yno ddwywaith yn ystod yn ystod pum ymweliad y Brifwyl 芒'r dref.
Y cyntaf i gyflawni'r gamp oedd llanc ifanc a ddaeth yn un o feirdd mwyaf poblogaidd a dylanwadol Cymru, T H Parry-Williams yn 1912.
Yn fyfyriwr yn Freiburg, Yr Almaen, ar y pryd cipiodd y Gadair gyda'i awdl Mynydd wedi iddo ennill y Goron 芒'i bryddest Gerallt Gymro ynghynt.
Cyflawnodd yr un gamp unwaith eto ym Mangor dair blynedd yn ddiweddarach gyda'i bryddest, Y Ddinas yn cael ei chyfrif gan ysgolheigion yn gerdd fodernaidd gyntaf yr iaith Gymraeg.
Yn addas iawn, ar drothwy'r Eisteddfod mae Gwasg Gomer wedi cyhoeddi mewn cyfres newydd, Clasuron Gomer, argraffiad cain o gyfrol gyntaf T H Parry-Williams o farddoniaeth, Cerddi, a gyhoeddwyd gyntaf yn 1931.
Symudwn ymlaen i 1977 ac fe welwyd Donald Evans yn efelychu camp Parry-Williams trwy ennill y gadair gyda'i awdl, Llygredd a'r Goron gyda'i bryddest, Hil.
Dair blynedd yn ddiweddarach, fel Parry-Williams, cyflawnodd yntau yr un gamp am yr eildro, yn 1980, gyda'r Cymro, mewn pennawd bras yn disgrifio'r digwyddiad fel "Donaldiaeth" .
Gyda'r Eisteddfod wedi ymweld 芒 Wrecsam yn 1876, 1888, 1912, 1933 a 1977 mae dyfalu'n barod a welir dyblu'r g芒n yn Wrecsam unwaith eto.
Neu'n rhagorach fyth - beth pe byddai'r un person yn ennill y Goron, Y Fedal Ryddiaith a'r Gadair yn yr un Eisteddfod. Nawr dyna beth fyddai camp i gadw Wrecsam yn y llyfrau hanes!
- 脭l nodyn bach: Yn rhifyn 311 o datgelir mai'r cofnod yn nyddiadur T H Parry-Williams ar gyfer dydd y coroni oedd:
"Reidio i Wrecsam. Cyrraedd 9.30. Mynd i'r Eisteddfod. Cael y goron." a dydd y cadeirio:
"Aros gyda Gwladys yn 103 Ruabon Rd. Cael y gadair. Dod i Ruthin gyda'r tr锚n."
Blogiau 大象传媒 Cymru
:
Doeddwn i ddim yn gweithio gefn llwyfan tan hanner dydd a'r gystadleuaeth gyntaf ar ...
Holl ganlyniadau, clipiau fideo a blogiau o Brifwyl 2012.