大象传媒

Rhys Iorwerth - 'y Dafydd ap Gwilym newydd'

05 Awst 2011

Gair yn ei glust gan yr Archdderwydd

'Dyfodol y gynghanedd yn ddiogel' medd yr Archdderwydd

Anodd cofio pryd o'r blaen y cerddodd bardd y gadair allan o bafiliwn yr Eisteddfod i gymaint bonllefau o gymeradwyaeth.

Yr oedd y croeso a dderbyniodd Rhys Iorwerth wrth i osgordd yr Orsedd gamu i'r maes yn fwy na gwresog.

Ni fu bardd cadeiriol mor boblogaidd ers blynyddoedd lawer.

Ar ben hynny mae'n fardd a dderbyniodd ganmoliaeth uchaf y beirniaid a'r llanc ifanc sy'n cael ei adnabod fel "dyn c诺l y Babell L锚n" yn awr yn cael ei glodfori fel y Dafydd ap Gwilym newydd.

"Mae fel pe bai Dafydd ap Gwilym wedi atgyfodi yng Nghymru 2011," meddai Emyr Lewis yn traddodi'r feirniadaeth ar ran ei gyd feirniaid Donald Evans a Gruffydd Aled Williams.

Ac wrth i seremoni'r cadeirio ddirwyn i ben cyhoeddodd yr Archdderwydd ei hun, T James Jones, mai'r hyn a lonnai ei galon ef wedi'r gystadleuaeth eleni oedd fod crefft y gynghanedd yn ddiogel am flynyddoedd i ddod.

Ond dywedodd Rhys Iorwerth ei hun y credai ef bod y beirniaid "wedi mynd dros ben llestri" drwy ei gymharu a Dafydd ap Gwilym.

"Caiff pawb wneud eu penderfyniad eu hunain wedi darllen y cyfansoddiadau os oeddan nhw'n mynd dros ben llestri a'i peidio. Dwi'n teimlo'n humble iawn ond fyddai ddim yn mynd o gwmpas yn galw fy hun yn Ail Dafydd ap Gwilym," meddai.

Rhys Dafis - heb ei anogaeth ef . . .

Arbennig o gryf

Dywedodd Emyr Lewis bod y gystadleuaeth yn un arbennig o gref eleni gyda thri arall o'r 13 a ymgeisiodd yn haeddu eu cadeirio yn ogystal 芒 Penrhynnwr, ffugenw Rhys Iorwerth.

"Mae cadeirio'n destun llawenydd bob tro, ond mae'n loes calon hefyd gorfod gwrthod cadeirio tri ymgeisydd mor dda," meddai am Weiran Bigog, Patmos a Col.

"Ond rhaid mynd yn 么l greddf a chwaeth ac i mi mae dilyniant Penrhynnwr yn dod i'r brig oherwydd ei gynildeb emosiynol, a hynny wedi ei gyfleu mewn cynganeddu greddfol a llachar sy'n clecian ac yn goleuo'r awyr fel t芒n gwyllt," ychwanegodd.

Stori garu ddinesig a chyfoes iawn gyda chyffyrddiadau cynganeddol hynod arbennig yw'r gwaith buddugol a dywedodd y bardd bod elfennau personol ynddi yn ogystal a ffuglennol.

"Mi wnes i ddefnyddio elfennau personol fel sail ac adeiladu ar hynny," meddai.

Dywedodd hefyd bod ganddo hanner syniad pwy oedd un o'r ddau o'r beirdd eraill ddaeth mor agos.

Wedi'r cadeirio talodd deyrnged arbennig i'w athro barddol Rhys Dafis y bu'n dysgu wrth ei draed ers saith neu wyth mlynedd.

"Mae fy nyled yn fawr iawn ac os bydd o gwmpas heno mi wnai brynu peint iddo fo!" meddai.

"Heb ei anogaeth o dwi'n si诺r na fyddwn i wedi dyfalbarhau," ychwanegodd.


Blogiau 大象传媒 Cymru

:

Nia Lloyd Jones

Doeddwn i ddim yn gweithio gefn llwyfan tan hanner dydd a'r gystadleuaeth gyntaf ar ...

Holl ganlyniadau, clipiau fideo a blogiau o Brifwyl 2012.

大象传媒 iD

Llywio drwy鈥檙 大象传媒

大象传媒 漏 2014 Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.