gan Lowri Johnston Mae yna wyth band yn chwarae heno, wedi eu dosbarthu dros ddau lwyfan. Mae'n ddechrau da i'r penwythnos ola' yma ym maes B.
Yr uchafbwyntiau heno yn bendant yw Penelope, gyda Steffan Cravos yn rapio (ar 么l llawer o weiddi amdano o'r llwyfan!), Zabrinski, Vanta, Mim Twm Llai a Bryn Fon.
Band o Lanrug, Caernarfon yw Vanta sy'n agor y noson ar yr ail lwyfan, ac maen nhw'n chwarae detholiad o'u caneuon o'u dau ep sef Pedair Stori Fer a Dagrau Llawenydd.
Mae'r band wedi cael cryn dipyn o sylw yn ddiweddar - gan Radio Cymru ac Ian Cottrell yn enwedig - a chael ei gymharu 芒 bandiau fel y Stereophonics ac Ash. Gwelir dylanwad y rhain yn eu set heno ac mae eu caneuon yn ddigon da - yn gymysgedd o roc ac indie - ond dim byd gwreiddiol.
Rhedodd y prif leisydd draw at y gynulleidfa ar 么l gorffen y set a siglo llaw pobl oedd yn sefyll yn agos - perthynas dda gyda'r gynulleidfa.Mae Mim Twm Llai yn ffantastig gan ddenu llawer o'r gynulleidfa mewn o'r bar i wylio.
Mae Zabrinski ar eu gorau heno ac yn bendant wedi gwella'n aruthrol ers y llynedd gan wneud tipyn o enw yn ddiweddar.
Roeddent yn chwarae yn Nghaeredin gyda'r Super Furry Animals yn gynharach yn yr wythnos roedd yn lwyddiant mawr mae'n debyg.
Uchafbwynt y noson Ond uchafbwynt y noson yw Bryn Fon yn sicr, ac mae'r lle yn llawn o bobl yn dawnsio a canu. Cawn amrywiaeth o ganeuon - o glasuron Sobin a'r Smaeliaid i rai fydd ar gryno ddisg newydd Bryn Fon a fydd allan cyn bo hir.
Mae'n agor y set gydag Yn yr ardd ac yn parhau i ganu clasuron fel Un funud fach a Byw mewn bocsys gan orffen gyda Ceidwad y Goleudy wrth gwrs.
Mae yna awyrgylch gr锚t ymysg y gynulleidfa, a pawb o'r hen i'r ifanc yn bloeddio canu.
Fel dwedodd Bryn Fon ei hun heno;"Mae noson fel heno yn dangos faint o alw sydd am faes B."