Holi Gwenno
O ganu i gyflwyno, o actio i ddawnsio, mae Gwenno wedi dod yn wyneb cyfarwydd iawn ar lwyfannau Cymru a thu hwnt dros y blynyddoedd diwetha.
Darllenwch fwy am Gwenno ...
Mae Gwenno, sy'n wreiddiol o Gaerdydd newydd gyhoeddi c芒n Gernyweg, fydd yn cael ei rhyddhau ar EP ym mis Medi, ac ar hyn o bryd, mae'n brysur iawn yn gigio trwy Gymru a thu hwnt."Rydw i newydd fod yn canu mewn gwyl yn Abersoch, ac mi fydda i yn perfformio yn y Womad festival yn yr Eden Project ar Awst 22. Dw i'n canolbwyntio ar y canu nawr, dyna'i gyd dw i eisiau gwneud," meddai Gwenno yng nghanol haf prysur iawn o berfformio.
Gwenno hefyd yw un o gyflwynwyr y gyfres Fideo Mondo, fydd yn ymddangos eto ar S4C ym mis Medi.
Eisteddfod brysur
"Dw i'n perfformio ar Maes B ar y nos Wener yn yr Eisteddfod, a dw i'n edrych ymlaen, achos dw i heb wneud e o'r blaen.
"Mi fydda i'n mynd i Wrecsam ar Awst y 9fed", meddai Gwenno yn s么n am gig arbennig sydd yn cael ei chynnal yn y dref yn dilyn yr helynt diweddar ar St芒d Parc Caia, ar 么l i ffoaduriaid symud i fyw yn yr ardal.
"Fi'n edrych ymlaen yn fawr i berfformio yn Wrecsam, achos dyma un o'r gigie' cyntaf fi wedi neud lle mae pwynt iddo fe, a dw i wedi tyfu lan yn Riverside, sydd yn ardal eitha' tlawd ac yn multicultural yng Nghaerdydd, felly rwy'n edrych mlaen i'r gig yma," meddai Gwenno.
Beth ydych chi am ofyn i Gwenno?
E-bostiwch eich cwestiynau aton ni nawr, at cymru@bbc.co.uk ac ymunwch 芒'r sgwrs fyw ar lein ar brynhawn Iau, Awst 7fed, yma ar 大象传媒 Cymru'r Byd.
Bydd mwy o fanylion ar y safle yma yn nes at y dyddiad.
Darllenwch fwy am y sgwrs fyw gyda Gwenno ac Elfed Roberts, Cyfarwyddwr yr Eisteddfod.
Anfonwch eich cwestiynau aton ni nawr ac ymunwch 芒'r sgwrs yn fyw ar lein, brynhawn dydd Iau, Awst 7fed am 3 o'r gloch!