大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2003

大象传媒 Homepage
Cymru'r Byd

Eisteddfod 2003
Mwy o'r Maes
Newyddion
Lluniau'r Wythnos
Cefndir
Cysylltiadau



Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

O'r Maes
Dyddiadur Maes B - dydd Gwener

Johnny PanicMae Lowri Johnston yn un o selogion Maes B - ac yn agor ei dyddiadur i 大象传媒 Cymru'r Byd.





Bore Gwener ac mae'n ddechrau penwythnos olaf yr Eisteddfod. Gan amla', ar y dydd Gwener mae llawer o bobl yn cyrraedd y maes ieuenctid, a dyw heddiw yn ddim gwahanol i'r arfer.

Gan gerdded heibio rhes hir o bobl yn aros i fynd mewn i'r maes ieuenctid, dwi'n mynd i faes yr Eisteddfod ar gyfer fy niwrnod ola' gyda'r 大象传媒. Dwi wedi joio mas draw gyda'r 大象传媒 ac mae wedi bod yn brofiad ffantastig ond mae cyfuno mynd i gigs bob nos a gweithio bod dydd wedi bod yn sialens.

Johnny Panic
Felly, ysgrifennu fy narnau olaf yn swyddfa'r 大象传媒 cyn cwrdd 芒'r teulu am ginio. Ar 么l llenwi fy mol (a does dim ots tro hyn pa mor ddrud yw'r bwyd gan nad fi sy'n talu!), dwi'n mynd draw i stondin Cymdeithas yr Iaith i weld Johnny Panic yn chwarae.

Ar fy ymweliad yno, dwi'n cael cop茂au o'r Tafod i'w dosbarthu am ddim ar y maes, cyn crwydro draw i'r babell roc i wylio'r Llwybr Llaethog. Mae llawer rhy dwym yn y babell felly nol i'r haul i dorheulio am ychydig ar y maes ieuenctid.

Mae'r cae yn llawn erbyn hyn a'r awyrgylch yn gr锚t pawb yn ymlacio yn yr haul ac yn gwrando ar gerddoriaeth neu'n cymdeithasu.

Dau lwyfan
Draw i'r gig ym maes B ar 么l cael bwyd yn y Gorlan a Jakokoyak sy'n agor y noson. Mae yna ddau lwyfan heno eto, a wyth band yn chwarae cymysgedd o bop, roc a rap/hip hop.

Anodd yw dewis rhwng y ddau brif band heno Zabrinski a Bryn Fon a'r Band. Diolch byth mae Zabrinski yn gorffen cyn Bryn Fon, felly cyfle i weld y ddau.

Dwi wedi blino'n ofnadwy heno ac yn ei ffeindio'n anodd i gadw ar ddihun i weld Bryn Fon, ond dwi'n llwyddo rywsut!

Ac mi oedd e'n werth yr ymdrech! Mae e'n yn ffantastig heno yn llawn egni a brwdfrydedd, ac mae'r gynulleidfa yn ei addoli. Fel ffan o Bryn Fon, dwi'n cael amser gwych yn dawnsio'n wyllt a chanu!

Dwi'n falch iawn gan ei fod yn canu y clasuron i gyd, gan gynnwys rhai Sobin a'r Smaeliaid! Wrth i bawb gyd-ganu Ceidwad y Goleudy mae'r noson yn dod i ben ac mae'n amser mynd i'r gwely.

Wel, dim cweit eto gan ein bod ni'n ymlwybro draw at y goelcerth am ychydig i weld ffrindiau ac i dwymo ychydig!

Ond mae'n llygaid i'n dechrau cau felly n么l i'r babell i gael ychydig o gwsg!






Yn fyw o'r llwyfan


Gwegamera'r Maes

Ble mae'r Bardd ?
Sgyrsiau ar lein

Geiriau Croesion

Eisteddfod Celf a Chrefft 2003

Dydd Sadwrn a Sul
Dydd Llun
Dydd Mawrth
Dydd Mercher
Dydd Iau
Dydd Gwener
Dydd Sadwrn
Cefndir

Cofio helynt coron Dyfnallt

Cyhoeddi Cerddi Powys

Dau lyfr am Faldwyn

Enwau lleoedd diddorol

Geiriau bro'r Eisteddfod

Aelodau newydd Gorsedd y Beirdd

Prysurdeb trefnydd

Syched am wybodaeth yn Sycharth

Enwogion Bro'r Eisteddfod

Adnabod yr ardal - wyddech chi hyn?

lluniau'r wythnos
Eisteddfod Meifod - lluniau dydd Sadwrn

Lluniau dydd Gwener

Mwy o luniau o'r Orsedd wedi ymgynull

Gorsedd y Beirdd yn paratoi i ymgynull

Lluniau dydd Iau

Lluniau dydd Mercher

Oriel "Nics"

Lluniau dydd Mawrth

Lluniau dydd Llun

Ioan Gruffudd ym Meifod (2)

Ioan Gruffudd ym Meifod (1)

Lluniau dydd Sadwrn a Sul

Lluniau'r ardal

O'r Maes

"Steddfod yn Stuffy"

Llawenydd Patagonaidd am fuddugoliaeth Twm

Hywel Gwynfryn - dyddiadur Steddfod 4

Gwisgo Ioan Gruffudd ar gyfer yr Orsedd!

Hywel Gwynfryn - dyddiadur Steddfod 2

Yr arddangosfa Gelf a Chrefft

Hywel Gwynfryn - dyddiadur Steddfod 3

Cysylltiadau eraill


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy