| |
Dyddiadur Maes B - 2
Lowri Johnston sydd ym Maes B ar ran 大象传媒 Cymru'r Byd. Ac mae hi'n cael amser i gadw dyddiadur hefyd. Dyma ei hail gyfraniad.
Ar 么l noson eithaf hwyr nos Lun, dwi or diwedd yn ymadael 芒 ngwely cyfforddus yn y babell a gwneud fy ffordd draw at y maes i babell y 大象传媒.
Anodd yw canolbwyntio ar ddiffyg cwsg ond mae'r coffi yn cadw fi fynd tan ddiwedd y bore. Ar 么l gorffen gyda'r 大象传媒 rydyn ni'n mynd draw i'r babell fwyd am ginio (drud) ac yna ymlwybro n么l i'r babell i gael awr fach o gwsg a mentro i'r cawodydd!
Rhaid dweud fod y cawodydd yn well na'r disgwyl a dwi'n teimlo'n llawer gwell ar 么l cael un!
Brwydr y bandiau N么l i'r maes wedyn a draw i'r babell roc i weld cystadleuaeth brwydr y bandiau. Yn anffodus dwi wedi colli cwpwl o fandiau (bai y rhaglen nid fi!), ond dwi'n ddigon lwcus i weld Mattoidz, sy'n fand o Orllewin Cymru. Rhain oedd enillwyr brwydr y bandiau Eisteddfod Genedlaethol 2002 yn Nhyddewi, ac maen nhw'n wych heddiw.
Mae Mattoidz yn gwella mwy a mwy bob tro dwi'n gweld nhw. Band sydd werth eu gweld os nad ydych chi wedi gwneud hynny eto.
Golchfa Yn ystod set Mattoidz mae'n dechre bwrw glaw yn drwm iawn ac rydyn ni'n sylweddoli ein bod ni wedi gadael drws y babell yn agored a rhoi tywelion ar y to i sychu - typical ynte!
Felly n么l i'r babell i achub ein eiddo a dod o hyd i bopeth yn wlyb socan! Ond mae'r haul yn dod allan unwaith eto felly popeth yn iawn.
Mae gan ein ffrindiau ni git芒r felly rydym ni gyd yn cael hwyl 芒 sing-along swynol (!) ac yna mae'n amser mynd draw i'r parti foam. Ar 么l i'r foam ddinistrio fy nillad y llynedd dwi'n penderfynu peidio mentro mewn a gadael i bawb arall fynd ar goll yn y bybyls yn fy lle.
Llawer o Saesneg Mae maes B yn llawn dop heno a llawer o Saesneg i'w glywed, sy'n drueni. Mae'n debyg bod parti o'r fath yn denu cynulleidfa dra gwahanol i'r arfer i faes B ac mae'r naws yn wahanol iawn heno.
Trueni bod cymaint yn dod i barti foam sy'n rhywbeth Seisnigaidd ond llawer llai yn dod i'r nosweithiau Cymreig. Dydyn nhw ddim yn sylweddoli beth ma' nhw'n golli!
Rydyn ni'n penderfynu mynd n么l i'r babell yn eithaf cynnar a draw at y goelcerth i wneud ychydig o gymdeithasu!
Gan ein bod i gyd wedi blino cymaint rydyn ni'n penderfynu mynd i'r gwely yn eithaf cynnar (wel, cynnar i faes ieuenctid tabeth!) i fod yn ffres ar gyfer diwrnod llawn cerddoriaeth ddydd Mercher - Meic Stevens, Johnny Panic, Elin Fflur a'r Moniars, Gogz, Estella, Mim Twm Llai, Bysedd Melysbeth mwy fydde rhywun eisiau?!
|
|
|
|