| |
Dyddiadur Maes B: Mercher
Lowri Johnston sydd ym Maes B ar ran 大象传媒 Cymru'r Byd. Ac mae hi'n cael amser i gadw dyddiadur hefyd. Dyma ei thrydydd cyfraniad
Gan fy mod i wedi cael noson dda o gwsg nos Fawrth, dwi'n teimlo'n reit ffres ar gyfer gweithio ddydd Mercher felly draw at y 大象传媒 yn eitha cynnar er mwyn ysgrifennu fy adolygiad o'r parti foam.
Mae'r bore'n hedfan, ac mae'n amser cinio o'r diwedd. Ar 么l llenwi fy mol, dwi'n treulio'r prynhawn yn y babell roc yn tynnu lluniau a gwylio Brwydr y Bandiau.
Gogz sy'n chwarae gynta, ac mae'n set acwstic wych. Mae'r lle yn llawn a dwi'n mwynhau yn fawr iawn.
Fe fydd gan Gogz albwm newydd allan ar ddiwedd yr haf - edrych ymlaen!
Band gwych arall sy'n dilyn, sef Johnny Panic. Band o Orllewin Cymru yw rhain, ac mae nhw wedi gwneud yn dda iawn yn ddiweddar. Dwi'n gobeithio mynd i weld Johnny Panic ym maes B yn y nos a dwi'n edrych ymlaen yn fawr ar 么l eu gweld nhw ar y maes heddiw.
Rydyn ni'n aros i weld diwrnod olaf cystadleuaeth Brwydyr y Bandiau yn y babell roc ac mae'r safon yn uchel. Pedwar band sy'n cystadlu prynhawn ma' ac maent i gyd yn gerddorion abl iawn.
Kawasaki Banjo a Blinkin I Do oedd y ddau sy'n aros yn y co' er bod Feedback a Lira Fyn yn dda iawn hefyd. Mi oedd y pedwar aelod yn Kawasaki Banjo - band o Rydaman - yn wych ar eu offerynnau ond treni nad oedd y canu yn ddigon cryf.
Blinkin I Do oedd yn cau y gystadleuaeth ac roedd yn bleser eu gweld! Roedd y chwaraewr gitar fas wedi gwisgo dim ond sgert arian dyn - diddorol!
"Y rheswm am hyn yw bod dim merched wedi cystadlu flwyddyn yma yn y gystadleuaeth felly ni wedi dod 芒 un ein hunan!", dwedodd prif leisydd y band.
Beth o'n i'n hoffi am y band yma oedd y ffaith eu bod yn cyfathrebu gyda'r gynulleidfa - daeth y chwaraewr bas i ganol y gynulleidfa i chwarae ei git芒r ac fe ddawnsiodd y drymiwr o gwmpas yr ystafell hefyd!
Ar 么l prynhawn da o gerddoriaeth, nol i'r babell er mwyn ymlacio ychydig yn yr haul. Dwi wedi bod yma am dri diwrnod nawr ond mae'n teimlo fel pythefnos! Ond dwi'n dechrau cael digon o fyrgyrs, byrgyrs a mwy o fyrgyrs felly rydyn ni'n penderfynu mynd i Feifod i gael pryd iawn o fwyd - yr un cyntaf ers i ni gyrraedd yma!
Ac mae'n werth yr aros! Mae Meifod yn bentre hyfryd a'r bobl yn groesawgar. Rydyn ni'n cael bwyd yn y King's Head cyn mynd draw i gael cawod yn nhy fy ffrind sydd 芒 bwthyn yn agos. Dwi'n teimlo llawer gwell ar 么l ymolchi ac yn teimlo'n eitha' effro am unwaith!
Brysio n么l i faes B wedyn (ar 么l mynd ar goll rhwng Meifod a'r maes!) i weld Johnny Panic unwaith eto.
Mae'r lle yn llawn erbyn i ni gyrraedd, a Johnny Panic ar eu gorau. Dwi'n cwrdd 芒 ffrindiau dwi heb weld ers sbel fawr - neis iawn eu gweld nhw!
Rydyn ni gyd yn dawnsio'n wyllt i Elin Fflur a'r Moniars a pawb yn mwynhau!
Ond uchafbwynt y noson heno yw Meic Stevens sy'n hollol wych. Mae'r lle yn llawn ar ddechrau ei set ond mae'n dechrau gwaghau erbyn y diwedd.
N么l i'r babell yna ymlwybro draw at y goelcerth. Dydyn ni ddim yn aros yn hir gan ein bod ni gyd wedi blino - wedi cael diwrnod prysur o gerddoriaeth a joio mas draw!
|
|
|
|