大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2003

大象传媒 Homepage
Cymru'r Byd

Eisteddfod 2003
Mwy o'r Maes
Newyddion
Lluniau'r Wythnos
Cefndir
Cysylltiadau



Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

O'r Maes
Teyrnged llywydd i Norah Isaac

R. Alun EvansTalwyd teyrnged i Norah Isaac gan lywydd llys yr Eisteddfod Genedlaethol yn syth wedi i'r newyddion am ei marwolaeth gyrraedd y Maes fore Sul.

Dywedodd R. Alun Evans er cyn dristed y newyddion ei bod yn weddus mewn un ffordd i'w marwolaeth ddod "yn swn yr Eisteddfod."

Yr oedd Norah Isaac yn un o'r eisteddfodwyr mwyaf pybyr ac am oes o wasanaeth i'r Brifwyl fe'i dyrchafwyd yn un o ddim ond pum Cymrawd.

Mewn cynhadledd i'r Wasg fore Sul dywedodd R. Alun Evans: "Mae heddiw yn ddiwrnod trist ac mae'n od mewn rhyw ffordd disgrifio gwraig mor fach - a bregus o ran iechyd yn ystod y blynyddoedd diwethaf - fel cawres, ond dyna oedd hi."

Un o nodweddion Norah Isaac oedd ei ieuengrwydd rhyfeddol ac wrth gyfeirio at hyn dywedodd Mr Evans: "Yr oedd hi wedi cadw'n ifanc oherwydd ei bod y n byw yng nghwmni pobl ifainc gydol ei hoes."

Er yn ddi-flewyn ar dafod a chroyw ei barn yr oedd Norah Isaac yn berson poblogaidd ar faes yr Eisteddfod a dywedodd R. Alun Evans i'r ymateb i raglen deyrnged iddi yn Eisteddfod Llanelli fod cymaint y bu'n rhaid ei llwyfannu eilwaith.

"Mae'n weddus mewn ffordd ei bod hi wedi cael mynd yn swn yr Eisteddfod. Yr oedd hi yn berson yr oedd bod yn Gymrawd yr Eisteddfod yn golygu rhywbeth iddi."

Dywedodd cyfarwyddwr yr Eisteddfod, Elfed Roberts, i Norah Isaac ddweud wrtho ef mai ym mis Awst y byddai blwyddyn Norah Isaac yn cychwyn. "Yr eisteddfod oedd dechrau ei blwyddyn," meddai..

Stori y byddai Norah Isaac ei hun yn hoff iawn o'i hadrodd amdani ei hun fyddai un amdani'n blentyn yn ennill yn y Genedlaethol a chyd-bentrefwyr o glywed iddi ennill yn y National yn tybio mai buddugoliaeth yn y Grand National a gafodd!






Yn fyw o'r llwyfan


Gwegamera'r Maes

Ble mae'r Bardd ?
Sgyrsiau ar lein

Geiriau Croesion

Eisteddfod Celf a Chrefft 2003

Dydd Sadwrn a Sul
Dydd Llun
Dydd Mawrth
Dydd Mercher
Dydd Iau
Dydd Gwener
Dydd Sadwrn
Cefndir

Cofio helynt coron Dyfnallt

Cyhoeddi Cerddi Powys

Dau lyfr am Faldwyn

Enwau lleoedd diddorol

Geiriau bro'r Eisteddfod

Aelodau newydd Gorsedd y Beirdd

Prysurdeb trefnydd

Syched am wybodaeth yn Sycharth

Enwogion Bro'r Eisteddfod

Adnabod yr ardal - wyddech chi hyn?

lluniau'r wythnos
Eisteddfod Meifod - lluniau dydd Sadwrn

Lluniau dydd Gwener

Mwy o luniau o'r Orsedd wedi ymgynull

Gorsedd y Beirdd yn paratoi i ymgynull

Lluniau dydd Iau

Lluniau dydd Mercher

Oriel "Nics"

Lluniau dydd Mawrth

Lluniau dydd Llun

Ioan Gruffudd ym Meifod (2)

Ioan Gruffudd ym Meifod (1)

Lluniau dydd Sadwrn a Sul

Lluniau'r ardal

O'r Maes

"Steddfod yn Stuffy"

Llawenydd Patagonaidd am fuddugoliaeth Twm

Hywel Gwynfryn - dyddiadur Steddfod 4

Gwisgo Ioan Gruffudd ar gyfer yr Orsedd!

Hywel Gwynfryn - dyddiadur Steddfod 2

Yr arddangosfa Gelf a Chrefft

Hywel Gwynfryn - dyddiadur Steddfod 3

Cysylltiadau eraill


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy