Pregeth Oedfa'r Eisteddfod
Bu ymosodiad cwbwl ddigyfaddawd a di-flewyn ar dafod ar lywodraethau Prydain ac America am fynd i ryfel yn Irac oddi ar lwyfan yr Eisteddfod Genedlaethol fore Sul.
Daeth yr ymosodiad mewn "oedfa heddwch" gan un o gyn benaethiaid y 大象传媒, R. Alun Evans.
Yn dod o fro'r Eisteddfod ef oedd yn traddodi'r bregeth yn yr oedfa draddodiadol ar Sul cyntaf pob Eisteddfod.
Gyda chyhoeddiad eisoes wedi ei wneud mai "A oes heddwch" fyddai thema'r oedfa nid oedd yn syndod i R. Alun Evans gyfeirio at y rhyfel diweddar yn Irac.
Yr oedd yn gwbl ddigyfaddawd ei sylwadau ar y ffordd yr aed ati i fynd i ryfel gan ddisgrifio'r cyfan fel "g锚m fawr" gyda'r "cyfiawnhad" a'r rhesymau dros anfon milwyr i Irac yn newid fwy nag unwaith.
Tr么dd yr hyn a ddisgrifiodd fel "g锚m fawr" yn "chwarae chwere" ym marwolaeth Dr David Kelly.
Dyma sylwedd ei bregeth gyda'r testun wedi ei godi o Luc 19, adnod 42: "pe bait tithau wedi adnabod ffordd tangnefedd."
Meddai R. Alun Evans:
"Rhoddwn fawl i ' r tangnefeddwyr.
Hwynt-hwy sydd yn caru cyfiawnder ac yn gweithio dros heddwch.
Mawrygwn hwy am roi bri ar y natur ddynol, a theilwng nt o barch achefnogaeth "
Yn Eisteddfod Bro Dinefwr 1996 felly y mae'r Salm fuddugol i'r Tangnefeddwyr yn dechrau. Hendre Fadog oedd y ffugenw. Y diweddar Barchedig D. J. Thomas, Beulah Castell Newydd Emlyn bryd hynny, oedd y buddugwr. Bu'n weinidog yn y sir yma - ym Machynlleth ac yn Llanwrin o ganol y pumdegau hyd 1968 - un a lynnodd wrth y dasg "o ledaenu egwyddorion Tywysog Tangnefedd."
Gadewch i mi ddyfynnu un arall o weinidogion yr Annibynwyr yn y sir yma a lynnodd wrth yr un dasg, y Parchedig Robert Evans, Yr Hen Gapel Llanbryn-mair, - ie, dyna chi, fy nhad - mewn pamffledyn Dwy Wedd ar Heddychiaeth', a gyhoeddwyd gan Gymdeithas Heddwch yr Annibynwyr, fe ddywed y gellir cymryd un o dair agwedd at ryfel:
Credu ynddo fel offeryn cyfreithlon, effeithiol, ac efallai ddwyfol-osodedig, i setlo cwerylon gwledydd a chymdeithas.
Credu mewn rhai rhyfeloedd, hynny yw s么n am ryfel cyfiawn', neu
Ymwrthod 芒 rhyfel yn llwyr o dan bob amgylchiadau - y safbwynt, ar yr wyneb, sy'n ymddangos yr hawsaf o'r tri.
Fe ddylwn i gydnabod yn gwbl agored mai o'r trydydd safbwynt hwnnw yr ydw i'n dod.
Yn ystod yr wythnos, ac ar yr union lwyfan yma, fe fyddwn ni'n clywed yr Archdderwydd yn gofyn deirgwaith, tair gwaith fel yr heriwyd Simon Pedr gynt,"A Oes Heddwch?"
Nawr, fe wn i, o fod wedi darllen llyfr gorchestol Geraint a Zonia Bowen Hanes Gorsedd y Beirdd beth yw tarddiad ac arwyddoc芒d y cwestiwn ym meddwl y beirdd yn hen eisteddfodau'r tafarnau yn y ddeunawfed ganrif. Cwestiwn i'r cystadleuwyr anfuddugol oedd hwn, ynglyn 芒'r dyfarniad, A oes bodlonrwydd a heddwch yn eich plith'? Hynny yw, yde chi'n derbyn y dyfarniad'? Ac os oedd y beirdd anfuddugol yn ateb Heddwch' yna aed ymlaen i gadeirio'r buddugol!
Datblygodd hynny gydag amser i fod yn rhan o ddefodau llwyfan yr Orsedd. Dan nawdd Duw a'i dangnef' y cyferfydd Gorsedd Beirdd Ynys Prydain. Ac os oedd ambell Dywysog yn "darllen Dafydd ap Gwilym" yn ei wely bob nos, mae'n siwr eich bod chithe Eisteddfodwyr pybyr, yn adrodd Cywydd Ymbil am Heddwch Iolo Morgannwg wrth ddweud eich pader:
"Gwae'r eiddil a g芒r heddwch." Dangos dy ben ysblennydd O'th nef, O Dangnef, i'n dydd.
'Roedd y wisg las, ar un adeg, yn cynrychioli heddwch'. A chleddyf heddwch yw Cleddyf Mawr yr Orsedd "oherwydd ni ddadweinir mohono'n llwyr yn unrhyw un o'r seremon茂au, ac at hynny, hyd yn oed yn y wain, rhaid ei gario gan Geidwad y Cledd bob amser gerfydd ei flaen ac nid gerfydd ei garn. Ni ddinoethir y Cleddyf yn erbyn neb, gan mai arddelwyr Heddwch a Thangnefedd yw Beirdd Ynys Prydain."
Gobeithio y bydd teilyngdod yma ym Meifod ar bob un o'r prif gystadleuthau llenyddol. A phan fydd Robin Lln yn galw A oes heddwch' beth yn union fydd arwyddoc芒d y gri o'r gynulleidfa Heddwch'?
Ar achlysur cyhoeddi Steddfod Casnewydd 2004 fe ddywedodd yr Archdderwydd yn glir nad mater o ddatganiad yn unig oedd galw am heddwch yn wyneb yr hyn a ddigwyddodd yn Irac.
Bore fory a bore Gwener, wrth Gylch yr Orsedd, ac yma yn Pafiliwn ar dri achlysur, bloeddiwch Heddwch'. Ac wrth wneud hynny, cofiwch beth yw canlyniadau rhyfel.
Arwyddocad arbennig ar Faes Mathrafal Mae 'na arwyddoc芒d penodol i floeddio Heddwch' yma ar feysydd Mathrafal. Y cyfeiriad cyntaf at yr enw yw hwnnw ym marwnad Cynddelw i Fadog ap Maredudd pan sonnir am frwydr ar faes Mathrafal. 'Roedd 'na gastell yma yn y ddeuddegfed ganrif, castell a godwyd i frenin Lloegr ac a gipiwyd yn 1212 gan luoedd Cymru dan arweiniad Llywelyn ap Iorwerth, Tywysog Gwynedd, a thywysogion eraill oedd yn cynnwys Gwenwynwyn o Bowys. Ond buan y trechwyd hwy gan luoedd y brenin ac fe losgwyd y castell. Yn hwyrach yn y drydedd ganrif ar ddeg mai tystiolaeth gyfreithiol a barddonol i'r ffaith fod Mathrafal yn brif lys tywysogion Powys ac fe danlinellir hyd a lled teyrnas Llywelyn ap Gruffudd i gynnwys Aberffraw, Dinefwr a Mathrafal.
A pham Mathrafal ? Oherwydd ei agosrwydd at eglwys Meifod, mam-eglwys cylch eang o ganolfannau addoli yn y canol oesoedd, a'i mynwent yn orffwysfa i dywysogion. Mathrafal - y llys seciwlar, gwleidyddol, yn cyfateb i awdurdod llys crefyddol eglwys Meifod. Mathrafal, y maes brwydro wedi i Pengwern, ar y tir rhwng afonydd Gwy a Hafren, gael ei threchu gan y Norman. Mathrafal Prifddinas Powys!
Mae'r wers hanes drosodd.
Marchogaeth i Jerwsalem Dowch i brifddinas arall. I Jeriwsalem. Crist yn marchogaeth ebol asyn i mewn i'r ddinas. Nid march rhyfel. Ebol asyn - sumbol o heddwch.
Ond mae hwyl ddrwg ar Iesu. Mae e', beth bynnag am yr asyn, ar ben ei dennyn. Mae'r cynllunio bwriadol, herfeiddiol, o fod yn y ddinas fradwrus yn cyrraedd penllanw. Eisoes mae e wedi rhoi'r gorchymyn i'w ddisgyblion i fynd i ddatod yr asyn, a'r cyfrinair ( y password') Y mae ar y Meistr ei angen' wedi ei ddefnyddio. Ac yn union fel y dywedodd wrthyn nhw mae'r asyn wedi ei rwymo. Mae'r ddau ddisgybl yn datod y rhaff. A dyna lais yn holi Be de chi'n wneud'? Y mae ar y Meistr ei angen' oedd yr ateb. Y Meistr angen y Meistr mae'r Meistr angen yr ebol asyn fy ebol asyn i.'
A dyna fu. Dim carped coch i'r Brenin. Dim ond pobl yn taenu cangau, a blodau, a dail:
Ynfydion, cefais innau f'awr, Yr awr felysa gaed. 'Roedd swn Hosana' yn fy nghlustiau, A phalmwydd dan fy nhraed.
Ac mae'n marchogaeth trwy'r dorf; trwy rengoedd y pererinion oedd wedi dod i Jeriwsalem, nes cyrraedd porth y Deml. Mae hi bellach yn hwyr y dydd. Mae Crist wedi blino.
Mae'r hyn a w锚l yn ei flino'n fwy. Y Deml yn farchnad. Bu adeg pan oedd y Deml yn arwydd o addewid Duw i ddiogelu cenedl.
Mae Eseia yn pwysleisio fod yn rhaid i Israel ymateb i'r addewid honno drwy ffydd a fyddlondeb. Os ydych mewn cyfamod 芒 Duw, rhaid cadw'r cyfamod.' Bellach mae'r Deml yn ogof lladron.
'Dyw e'n dweud dim. Mae e wedi ei gythruddo, ond 'dyw e ddim yn colli ei dymer. "Mae'n hwyr," meddai,"gadewch i ni i fynd yn 么l i Fethania i orffwys am y nos."
Ond bore trannoeth mae'n deffro'n flin. 'Dyw'r disgyblion ddim wedi ei weld fel hyn o'r blaen. Prin ei fod yn siarad 芒 neb. Mae nhw'n synhwyro fod rhywbeth yn mynd i ddigwydd - ond beth ? Beth sy'n bod ? Ar Fynydd yr Olewydd mae'r Iesu'n wylo Pan ddaeth yn agos a gweld y ddinas, wylodd drosti gan ddweud "Pe bait tithau, y dydd hwn, wedi adnabod ffordd tangnefedd - ond na, fe'i cuddiwyd rhag dy lygaid'."
Mae pobl yn sylwi arno ac yn dechrau ei ddilyn. 'Does fawr amheuaeth ble mae'n mynd; mae'n dychwelyd i'r Deml i'r union le lle bu ar goll yn fachgen. Fel arfer byddai'r merched yn dechrau ar eu taith yn y bore a'r dynion yn dilyn yn hwyrach. Mair yn meddwl fod Iesu gyda'i dad; Joseff yn credu fod Iesu wedi mynd gyda'i fam.
Mae'n dweud rhywbeth am gymdeithas bentrefol, ddiogel, y dydd - cymdeithas fyddai'n gofalu am ei gilydd. Ond wrth iddi noswylio, a'r dynion bellach wedi dal i fyny efo'r gwragedd, daw'n amlwg nad yw Iesu yno. Taith diwrnod yn 么l i Jeriwsalem a'r chwilio a'r holi, a'i rieni pryderus yn dod o hyd iddo yn holi'r offeiriaid ond y tro hwn mae Iesu'n mynd i ganol y stondinau, y bargeinio, y gweiddi, y dadlau.
Ac mae'n sefyll yno. Yn raddol, raddol, mae'r stondinwyr yn ymwybodol o'i bresenoldeb, ac o'r t芒n sydd yn fflachio yn ei lygaid.
Yn sydyn, mae'n troi'r byrddau a'r llestri pres yn clindarddach ar lawr cerrig y Deml. Mae'n ddig wrth y cyfnewidwyr arian. Ond nid yw'n cyffwrdd bys 芒 dim un ohonynt.
Twyll a rhagrith yn Ei flino Haerllugrwydd rheolwyr y Deml sy'n ei flino; twyll a rhagrith yr offeiriaid a'r Archoffeiriad. Y nhw sy'n ecsploitio'r tlodion a'r pererinion gan fynnu bod raid prynu tu mewn i furiau'r Deml, a hynny er eu helw eu hunain. Y nhw sy'n halogi'r Deml. Y nhw sy'n anwybyddu eu deddfau eu hunain. Y nhw sy'n cadw'r cenhedloedd allan.
Ac mae rhai pethau nad yde nhw'n newid.
Llywodraethau yn ecsploetio Beth am lywodraethau cyfoes sy'n anwybyddu eu rheolau eu hunain er mwyn ecsploitio meysydd olew ? Beth am gyfundrefnau sy'n anwybyddu deddfau rhyngwladol ac yn ceisio cefnogaeth drwy gamliwio dogfennau a thystiolaeth?
Fe welsom ni arweinwyr gwleidyddol y gorllewin yn gwneud cyflwyniadau hollol gelwyddog, a hynny dan lw, yn y Cenhedloedd Unedig ac yn y senedd cyn mynd ati i fygwth ac i lwgrwobrwyo gwledydd llai i geisio parchuso'r twyll a mynnu eu ffordd. O rywle fe ddaeth darn arall o Americaniaith i'n geirfa i geisio troi'r fantol - "Road Map" - dogfen sy'n fyr iawn ar fanylion; yn fwriadol amwys, gan awgrymu i'r byd Mwslemaidd fod gan Gristnogion fys yn y brwes i'n dibenion ein hunain ac nid er lles y bobol.
G锚m fawr oedd hon. Sawl gwaith y newidiwyd y "cyfiawnhad" neu'r rheswm dros anfon byddin America a Phrydain i ryfel ? Rhyfel yn llygad y cyfryngau, a'r llygaid hynny yn teimlo rheidrwydd i i greu delwedd o ryfel dilychwin.
"Nid yn fy enw i" meddai gwerin gwlad.
Grymoedd mawr y gorllewin yn honni mai'r rheswm tros fynd i ryfel oedd i arestio un dyn, yna i ddymchwel cyfundrefn lygredig. Ac yna'n newid eu c芒n eto ac eto : nid pentyrrau o arfau mileinig honedig ond "rhaglenni arfau mileinig honedig" ! A'r nonsens diweddar o dadogi bai ar ohebydd o'r 大象传媒, i osgoi ateb y cwestiwn y mae pawb yn ei ofyn. Chware plant.
Ond fe drodd y chware'n chwerw a hwyrach y gwelir pa mor arwyddocaol yw cyfenw'r arbennigwr arfau o'r Rhondda a'i lladdodd ei hun druan - Dr Kelly.
Mae'r rhyfel yn Irac trosodd. Tybed? - ac effaith y rhyfel ond megis dechrau. Y ni'n bomio. Y nhw'n dioddef. Y ni'n diogelu'r ffynhonnau olew. Y nhw'n sychedu am ddr i'w yfed. Y ni'n lladd a dymchwel. Y nhw'n ysbeilio eu heiddo eu hun. Y ni yn rhyddhau'r Iraciaid o'u caethiwed ac yn methu 芒 deall nad yde nhw'n deall.
A laddo un dyn a leddir - a'i lwch Gan y wlad a felltithir. 'Run eiliad dwed gwlad yn glir "A ladd filoedd a folir".
Yn ei ddrama Esther mai Saunders Lewis yn creu deialog lle mae'r Prifwenidog, Haman, yn esbonio i'w was Harbona beth yw nodweddion gwleidyddiaeth : Dyna yw gwleidyddiaeth, Harbona, Dyn yn ysu am fod yn dduw. Angau ydi allwedd y gyfrinach; medru defnyddio angau, gorchymyn angau; gwneud angau'n ufudd, yn offeryn yn y llaw.'
Mae'r ysfa i fod yn dduw sy'n defnyddio a gorchymyn angau mewn dwylo brawychus o wamal ; pobl sy'n methu nabod y gwahaniaethu rhwng gwir ac anwir. Greddf dyn yw ceisio cyfiawnder a dial am anghyfiawnder. Onid y gwir yw fod trais yn magu trais, a phris buddugoliaeth mor ddrud fel na ellir gweld y gwahaniaeth rhwng ennill a cholli ?
Meddai Henry Richard, Apostol Heddwch, ganrif a hanner yn 么l "Mae rhyfel nid yn unig yn ddrudfawr, yn greulon ac yn farbaraidd ond y mae hefyd yn hanfodol, dragwyddol anghristnogol."
Delio 芒 chyfundrefnau gormesol Sut felly y mae delio efo cyfundrefnau gormesol ? Nid digon i ni yw gweiddi sloganau. Nid yn fy enw i ac nid yn enw'r Crist sy'n Arglwydd ar fy mywyd. i.
Dylid cydnabod onestrwydd ac aberth y rhai sy'n credu mewn rhyfel. A gwareder ni rhag ceisio gwneud gwrthwynebu'n hawdd.
Soniodd y Prifathro Thomas Rees, o Goleg Bala-Bangor gynt, am ryddid i wneuthur pethau sy'n werthfawr yn hytrach nag am ryddid i wrthod gwneud pethau.
Ym Maldwyn 'ma at rai a enwyd eisoes a wnaeth bethau gwerthfawr ychwaneger y Crynwyr Charles a Thomas Lloyd, Dolobran gerllaw; Richard Davies, Cloddiau Cochion; Samuel Roberts y Diosg; yr Arglwydd Davies o Landinam a'i ymdrechion dros Gyngres y Cenhedloedd
Fe gefais i fenthyg llyfr yn ddiweddar ar Faddeuant, llyfr gan y cyn-esgob Richard Holloway. Mae'n s么n am faddau yr anfaddeuol. Dim ond maddeuant diamod all ddiffodd peiriant gorffwyll dialedd', meddai. Fe'i gwneir er ei fwyn ei hun, allan o'r llawenydd pur a'r cariad o fedru gwneud hynny. Ac fe ddywed credinwyr mai Duw yw ffynhonnell y gallu i faddau yr anfaddeuol.'
Ni all llywodraethau faddau All llywodraethau ddim maddau - dim ond unigolion. Meddyliwch am Nelson Mandela. Meddyliwch am faint ei faddeuant a gwallgofrwydd ei ras.
Adnabod ffordd tangnefedd' yw anogaeth Iesu. Ac mae arwyddion pendant ar y ffordd honno : Gwylia dy droed pan fyddi'n mynd i d Dduw' Arhoswch ynof fi, a minnau ynoch chi' Arhoswch yn fy ngair i' Ewch i'r holl fyd, a phregethwch yr efengyl i'r greadigaeth i gyd'.
Nid gofyn a oes heddwch' y mae Iesu ond gofyn a oes tangnefedd.' Tangnefedd. Salaam; Shalom. Nid y sefyllfa allanol o ddiogelwch rhag peryglon ond y profiad mewnol o gariad ac undeb rhwng Duw a dyn, a rhwng dynion 芒'i gilydd. Bloeddiwch Heddwch' a chwiliwch am dawelwch y tangnefedd hwnnw sydd yn nyfnder enaid y credadyn.
"Bendigedig yw'r un sy'n dod yn frenin yn enw'r Arglwydd; yn y nef, tangnefedd Ac felly ar y ddaear hefyd.
|