| |
Bardd y Gadair- agorwch y drws
Yr oedd hi y fuddugoliaeth fwyaf poblogaidd ar lwyfan yr Eisteddfod ers blynyddoedd lawer fel y tystiodd y fonllef o gymeradwyaeth pan gododd Twm Morys ar ei draed wedi caniad y corn gwlad.
Y fuddugoliaeth fwyaf poblogaidd ers buddugoliaeth un o'r beirniaid ar y lwyfan eleni efallai, yr Adferwr, Ieuan Wyn.
Gyda naw yn cystadlu am y gadair gydag awdlau ar y testun, Drysau, dywedodd y beirniaid fod un Twm Morys dan y ffugenw Heilyn ben ac ysgwydd yn well na'r gweddill.
Wrth draddodi'r feirniadaeth ar ran ei gyd feirniaid, Donald Evans a Ieuan Wyn, dywedodd Myrddin ap Dafydd fod y gynghanedd yn clecian weithiau, yn canu dro arall ond ei bod yn nwylo Twm Morys yn "gwau amdanom".
"Cyfunir rhythmau llafar ac ieithwedd ffigurol i gyfleu dychymyg a chenadwri'r bardd, ac mae'r geiriau yn drymlwythog o ystyr ac arwyddoc芒d."
Y drws yn ei awdl oedd yr un yng Ngwales yn rhan olaf ail gainc y Mabinogi. Drws yr ofnai y Cymry ei agor. Y ffurf Gymreig o flwch Pandora.
Mewn cynhadledd i'r wasg wedi'r cadeirio dywedodd Twm Morys mai ei anogaeth i'r Cymry yw i fynd i'r afael a'u hargyfwng wyneb yn wyneb ac agor 'y drws'.
"Efallai na fydd agor y drws y peth iawn i'w wneud ond o leiaf byddwn wedi gwneud rhywbeth," meddai.
Atgyfnerthwyd neges yr awdl gan y crys-T "Dal dy dir" a wisgai Twm wrth gael ei dywys i'r llwyfan.
Mynnodd hefyd ddangos ei docyn aelodaeth i newyddiadurwyr yn y gynhadledd i'r wasg gan bwysleisio ei fod hefyd yn aelod o Gymdeithas yr Iaith a chroesawu yr ysbryd o gydweithio a fu rhwng y ddau fudiad ar faes Mathrafal ym Meifod.
"Does yna ddim pwynt rhannu'r milwyr," meddai wrth alw ar y Cymry i ymgyrchu'n herfeiddiol ond hefyd gyda mwynhad a hyder y byddai llwyddiant.
Rhybuddiodd na fyddai neb yn cefnogi ymgyrchoedd pruddglwyfus sy'n gwneud dim ond darogan gwae a difodiant.
Trydydd tro Dywedodd mai dyma'r trydydd tro iddo gystadlu am y Gadair ac yr oedd yn wybyddus iddo ddod yn agos iawn y llynedd pan gadeiriwyd un o'r beirniaid eleni, Myrddin ap Dafydd.
|
|
|
|