大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2004

大象传媒 Homepage
Cymru'r Byd

Eisteddfod 2004
Mwy o'r Maes
Newyddion
Lluniau
Cefndir
Cysylltiadau

Chwaraeon
Y Tywydd

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!


CefndirChwilio am Lys Ifor Hael

Gwyn Griffiths yn chwilio am un o hen lysoedd enwocaf Cymru - ond er mawr gywilydd inni nid oes golwg ohono erbyn hyn




Adroddais esgyll englyn enwog Ieuan Brydydd Hir ddegau o weithiau dan fy anadl wrth chwilio am Lys Ifor Hael:
Drain ac ysgall, mall a'i medd,
Mieri lle bu mawredd.

Dywed Rachel Bromwich fod Gwernyclepa, sef llys Ifor Hael, filltir o bentre Maesaleg.

Mewn hen gyfrol gwelais ddisgrifiad o Dy Tredegar, sef y parc lle cynhelir yr Eisteddfod yng Nghasnewydd, fel plasdy hardd a mawr iawn ym mhen pellaf rhodfa o goed castan, ar ffordd sy'n mynd rhagddi wedyn i Wernyclepa.

L么n gul a garw
Mae Parc Clepa'n ddigon amlwg ar y map.
Ond ble mae Gwernyclepa?

Gyrrais yn syth i mewn i Barc Diwydiannol Clepa gan barcio o flaen uned gyfrifiaduron. Gan ei bod yn fore Sadwrn meddyliais y cawn lonydd ond daeth dyn tew allan a gofyn a fedrai helpu.

Wedi imi ddweud fy stori, cyfeiriodd fi at l么n gul a garw oedd yn mynd dros draffordd yr M4 ac i fyny tua'r esgair rhwng Parc Clepa a Maesaleg.

Daethom i dy ar gyrion coedwig fechan, oedd yn cael ei adnewyddu a'i ehangu. Dywedodd dyn ifanc wrthym mai dyma dy'r cipar ar hen st芒d y Clepa ond gan fod ei dad-yng-nghyfraith oddi cartre ni allai helpu llawer, ond cawsom ein cyfeirio at lwybr i'r goedwig a dywedodd bod adfeilion yno.

Roedd y "llwybr" bron wedi ei gau gan flynyddoedd o esgeulustod, drain a mieri. Daethom o hyd i olion wal drwchus a hwnt ac yma roedd y coed, er yn uchel, yn deneuach ac yr oedd yn haws cerdded drwyddynt.

Ond welsom ni ddim llawer a phenderfynwyd, wedi gweld bwlch yn y ffens o gwmpas y goedwig gerdded tua choedlan ar frig yr esgair. Roedd yn daith anodd, y tir yn arw, a'r borfa s芒l yn cuddio'r tyllau oedd yn beryg i figwrn.

Un amser, meddai Gwen fy ngwraig - a arferai weithio yn y Trawscoed, fferm y Weinyddiaeth Amaeth rhwng Aberystwyth a Phonterwyd - roedd canolfan debyg ym Mharc Clepa. Ond er y gellid yn hawdd ddychmygu caeau bras o wenith nid oes erbyn hyn ond gweiriach diflas wedi hen hadu.

Wedi cyrraedd y goedlan ar y brig, medrem weld Maesaleg islaw. Ond roedd yma hen gastell tomen a beili, er wedi ei orchuddio a choed. Ai dyma lys Ifor Hael? Rhywbeth felly fuasai llys yn y cyfnod hwnnw - tebyg i olion Sycharth.

Nid oedd dim ar fy map ond y gair fort

. I'r gorllewin oedd coedlan arall o'r enw Maes Arthur. Hyd yn oed os na ddeuthum o hyd i lys, roedd yr olygfa yn werth y daith. Maesaleg a'r coedydd a'r bryniau i'r gogledd a M么r Hafren a Gwlad yr H芒f i'r deau.

Ond a oeddwn ar y trywydd iawn? Ger y goedwig gyntaf - sef honno tu cefn i dyddyn y cipar - dangosai'r map gladdfa. Eto mewn hen gyfrol gwelais gyfeiriad at "olion cromlech yng Ngwernyclepa, ger Parc Tredegar". Tybiais fy mod yn bur agos ati.

Wedi'r cwbl, os oedd Ieuan Brydydd Hir, pan oedd yn gurad ym Maesaleg yn y ddeunawfed ganrif yn gresynu at gyflwr y lle, cymaint gwaeth fyddai'r lle erbyn heddiw.

Dafydd ap gwilym
Nid Ieuan Brydydd Hir ac Ifor Hael, oedd yr unig wŷr enwog yn gysylltiedig 芒'r fro hon. Ifor Hael oedd noddwr y mwyaf, a'r enwocaf, o'n beirdd, Dafydd ap Gwilym. Yn 么l y gyfrol o farddoniaeth Dafydd ap Gwilym a gyhoeddwyd gan Owen (Myfyr) Jones a William Owen-Pughe ym 1789, dywedir fod mam Dafydd ap Gwilym, wedi ei throi allan gan ei rhieni am fod yn feichiog a hithau'n ddibriod.

Priododd dad y baban - sef Gwilym Gam ap Gwilym ab Einion oedd yn gefnder i Ifor Hael - a chawsant nodded ganddo yng Ngwernyclepa. Mae'n anodd derbyn bod y fam wedi ei thrin mor arw a'r tad yn ŵr o safle Gwilym Gam.

Yn 么l cyfrol Owain Myfyr a William Owen-Pughe, cafodd y baban, sef Dafydd ap Gwilym, ei fagu a'i addysgu yno ac ymhen blynyddoedd bu'n athro i ferch Ifor. Ond rhwng yr athro ifanc a'i ddisgybl d锚g tyfodd teimladau cynnes na fedrai Ifor eu hanwybyddu a chafodd y ferch ei hanfon i leiandy ar Ynys M么n.

Aeth Dafydd ar ei h么l, a honnir iddo gael gwaith yn was i abad mynachlog gyfagos. Ond o weld fod y sefyllfa yn anobeithiol, ac ystyried yn ddwys, dychwelodd Dafydd at ei noddwr yng Ngwernyclepa, lle cafodd gartref wrth ei fodd a byw yno'n achlysurol.

Awgrymir mai i ferch Ifor y lluniodd rai o'i gywyddau i leian. Mae cywydd I Wallt Merch Ifor Hael yng nghyfrol Owain Myfyr a William Owen-Pughe.

Ceir yn y gyfrol bedwar cywydd a thair awdl i Ifor Hael. Yn eu plith mae Marwnad Ifor Hael a Nest ei wraig - bu farw'r ddau farw o'r Pla du tua 1348. Ond yn 么l Lewis Glyn Cothi bu farw Dafydd o'u blaenau!
Aeth Dafydd gwawdydd drwy g么r
I Nefoedd o flaen Ifor

.Mae amheuon ai Dafydd oedd awdur y cerddi hyn i Ifor Hael. Ond roedd Rachel Bromwich yn ddigon hyderus i gynnwys un yn ei chyfrol ac nid yw, yn ei nodiadau, yn codi amheuon am y tri cywydd arall.
Mawr anrhydedd a'm deddyw:
Mi a gaf, o byddaf byw,
Hel 芒 chwn, nid haelach i么r,
Ac yfed gydag Ifor,
A bwrw ei weilch i'r wybr wynt,
A cherddau cildannau'n deg,
A solas ym Maesaleg.

Ennill cadair
Yn 么l Iolo Morganwg cynhaliwyd Eisteddfod yng Ngwernyclepa lle'r enillodd Dafydd ap Gwilym gadair am gywydd a thrwy hynny roddi bri i'r mesur.

Yn amser y Brenin Edwart y III y bu Eisteddfod yng Ngwern y Cleppa dan nawdd a dawn Ifor Hael ... ag yn yr Eisteddfod honno y doded braint Cadair ar fesur cywydd lle nad oedd felly o'r blaen a phan canwyd am gadair, Dafydd ap Gwilym a ennillws o nerth Awen ... ac o hynny hyd yn awr serchoccaf a goreu o'r holl fesurau y bernir Cywydd.

Gresyn fod olion lle mor bwysig yn hanes barddoniaeth Cymru wedi diflannu mor llwyr. Yn wir, mae'n warth arnom.

Urdd y Gwir Iforiaid
Ond os diflannodd yr olion o Lys Ifor Hael ni ddiflannodd y cof amdano. Yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg sefydlwyd Urdd y Gwir Iforiaid, cymdeithas elusennol yn y de oedd yn gofalu am l锚s eu haelodau a'u teuluoedd mewn achosion o ddamweiniau, salwch neu farwolaeth.

Yr enw'n dal yn fyw yn yr ardal ond olion y llys wedi diflannu

Tra roedd cymdeithasau fel yr Oddfellows yn Seisnig ac yn perthyn i'r dosbarth canol, roedd yr Iforiaid yn urdd Gymraeg oedd yn perthyn i'r dosbarth gweithiol.

Roeddent yn gefnogol i addysg Gymraeg a gwaherddid defnyddio'r Saesneg yn eu cyfarfodydd.

Roedd cangen fywiog yn Nhrefforest, Pontypridd, ac un o'r aelodau oedd Evan James (Ieuan ap Iago), awdur geiriau Hen Wlad Fy Nhadau.

Yn 2009 dethlir dau gan mlynedd geni Evan James a thebyg y cawn glywed mwy am y cymdeithasau y bu'n aelod ohonynt - fel y Derwyddon.

Dim Saesonaeg!
Ac yn Llwynypia mae tafarn Ifor Hael - er bod y perchennog yn ynganu'r enw'n debycach i Ivor Ale! Hwyrach fod yma syniad i gwmni bragu Tomos Watcyn. Mae ganddyn nhw eisoes Gwrw Owain Glyndwr.

A s么n am gwrw. Honnai Iolo Morganwg mai Sir Fynwy yn ei gyfnod ef oedd y sir gyda'r cyfartaledd uchaf o Gymry uniaith Gymraeg. Rhag i neb wfftio hynna fel un o ffantas茂au Iolo, dyma brofiad William Coxe yn y flwyddyn 1801:

Pan ofynnodd am fwyd a gwair i'w geffyl yn nhafarn Croespenmaen, ateb gwraig y dafarn oedd "Dim Saesonaeg". Defnyddiodd Coxe yr unig air Cymraeg a wyddai, sef "cwrw", gwenodd y wraig a daeth a pheint ewynnog iddo'n syth!





Dydd Sadwrn a Sul
Dydd Llun
Dydd Mawrth
Dydd Mercher
Dydd Iau
Dydd Gwener
Dydd Sadwrn
O'r Maes

Nodiadau: Cau pen y mwdwl

Adolygiad: Yr Aflwydd

Pregeth Oedfa'r Sul

Adolygiad: 'Lysh' y ddrama gomisiwn.

Cefndir

Bocs sebon i'r bobol bob dydd

Chwilio am Lys Ifor Hael

Cwrw ar y maes

Cyngerdd Cwmderi

Dathlu chwarter canrif o ddarlledu

Dathlu cyfraniad John Gwil

Digwyddiadau Maes C

Gigs Steddfod Cymdeithas yr Iaith

Gigs Steddfod Sain

Gigs yr Eisteddfod

Gwent - mewn ffaith

Llys Ifor Hael

Lysh yng Nghasnewydd

Pabell y Cyngor Llyfrau

Prifwyl mewn peryg

Rhestr anrhydeddau'r Orsedd

Y 大象传媒 yn y Steddfod

Yr Wenhwyseg - iaith yr ardal

Golygfeydd 360

Lluniau 360o

Cysylltiadau eraill


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy