|
|
|
Pictiwrs yn y Pyb Pob math o ffilmiau Cymraeg |
|
|
|
Cafwyd rhywbeth gwahanol yn yr Eisteddfod eleni cyn gigiau Cymdeithas yr Iaith yn Amser, Bangor sef noson o ddangos ffilmiau byrion gan griw sy'n rhedeg y wefan wirfoddol pictiwrs.com.
Nosweithiau Mercher a Gwener dangoswyd wyth ffilm i ystafell lawn.
Trefnwyr y noson oedd Geraint Criddle a Rhodri ap Dyfrig gyda chymorth gan Mair Thomas ac eraill.
"Mae'r ymateb wedi bod yn dda iawn gyda digon o bobl yn dod i'r ddwy noson. Mae pobl yn synnu gweld fod stwff ar gael, dydy nhw ddim yn gwybod ei fod e'n bodoli.
"Ni'n gobeithio unwaith bod nhw'n gwbod am y ffilmiau y byddan nhw'n mynd ati i wneud rhai eu hunain."
Cafwyd y syniad gwreiddiol o ddechrau nosweithiau ffilmiau Nadolig 2004 a threfnwyd y noson gyntaf annibynnol yn nhafarn Dempseys yng Nghaerdydd.
Gyda help ariannol gan Sgrin llwyddwyd i ddal ati.
"Rydyn ni'n cael y ffilmiau gan S4C, archif Sgrin, Adran Ffilm a Theledu Prifysgol Aberystwyth neu mae pobl yn anfon ffilmiau ato ni maen nhw wedi eu creu.
"Er mwyn i'r nosweithiau barhau rhaid cael mwy o ffilmiau. Mae prinder mawr o ffilmiau Cymraeg yn enwedig rhai o safon.
"Dechreuon ni'r noson er mwyn i bobl allu cael llwyfan. Maen nhw'n helpu ni a rydyn ni'n helpu nhw.
"Rydyn ni'n galw ar bobl i ysgrifennu mwy o ffilmiau. Mae angen mwy o ddeunydd. Rydyn ni eisiau ehangu'r nosweithiau a'r digwyddiadau gan fod y dyfodol yn ansicr.
"Ond bydd y nosweithiau yn parhau nes bo ni'n rhedeg mas o arian!"
Gwefan Ffilm 大象传媒 Cymru'r Byd
|
|
|
|
|
|