大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

大象传媒 VOCAB : OFF / I FFWRDD

Turn on / Troi ymlaen

Language Help / Cymorth Iaith


大象传媒 Homepage
Hafan Cymru

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Straeon

Priodas yr Eisteddfod

11 Awst 2007

Gwenda ac Alwyn Morris gyda'u merch

Parti priodas ar faes y Brifwyl.

Mi gafwyd sawl cyntaf ar lwyfan yr eisteddfod eleni ond bydd Eisteddfod Sir Fflint a'r Cyffiniau yn y llyfrau hanes am gyntaf arall - y wledd briodas gyntaf ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol.

Tra roedd cyngerdd Dafydd Iwan yn ei anterth yn y pafiliwn pinc ar nos Lun heulog cynta'r Eisteddfod, roedd y siamp锚n yn llifo yn hwyr i'r nos ym mhabell Bant a la Cart ar y maes lle roedd Alwyn a Gwenda Morris yn dathlu eu priodas gyda 150 o westeion

Wedi'r canapees, stiw cig eidion oedd ar y fwydlen: "Ro'n i'n gwybod y bydden nhw'n brysur yn ystod yr wythnos felly do'n i ddim isio iddyn nhw fynd i ormod o drafferth," meddai Gwenda "er y bydden nhw wedi gwneud unrhywbeth inni - roedden nhw'n wych," ychwanegodd.

Rhesymau ymarferol, yn bennaf, oedd y tu 么l i'r dewis o leoliad.

Ar 么l priodi mewn swyddfa gofrestru yng Nghaernarfon yr wythnos flaenorol gyda chriw bach o deulu, roedd yn rhaid trefnu'r wledd briodas o amgylch amserlen eisteddfodol brysur Gwenda, sy'n aelod o barti Chwiban, Eifionydd.

Roedd yn cystadlu mewn pedair cystadleuaeth a chafodd lwyddiant ym mhob un: cyntaf ar y triawd cerdd dant ddydd Sul, ail ar y parti gwerin ddydd Mercher a'r ddeuawd gerdd dant ddydd Iau ac i goroni wythnos arbennig, y wobr gyntaf eto ar y parti cerdd dant ar nos Wener.

Wythnos i ddathlu ar bob tu felly, ac un o'r campau mwyaf oedd bod y cwpl wedi llwyddo i gadw'r cyfan yn dawel tan y funud ola'.

Ar 么l cael y syniad o gyfuno eu dathliadau priodas efo'u gweithgareddau eisteddfodol fis Mai, doedd y rhan fwyaf o'r gwesteion yn gwybod dim am y briodas na'r dathliadau tan yr wythnos cyn yr Eisteddfod, pan aeth Gwenda i bractis parti Chwiban gyda'r gwahoddiadau ar y nos Iau, wedi priodi ar y dydd Mercher.

Gwaith Alwyn yn ystod yr wythnos oedd gofalu am eu dau blentyn yn y garaf谩n: un yn dair a'r llall yn flwydd a hanner ac yn mwynhau ei heisteddfod gyntaf.

Gydag aelodau parti Chwiban yn darparu'r adloniant cerddorol answyddogol, aeth y dathliadau ymlaen tan un y bore, pan oedd rhaid rhoi pen ar y mwdwl ar y parti oherwydd rheolau'r Eisteddfod: "Roedden ni wedi cadw i griw bach ac mi fihafiodd pawb yn dda iawn chware teg," meddai Gwenda, "neu ni fyddai'r cwpl cyntaf ac olaf i gael caniat芒d y 'Steddfod i gynnal ein parti priodas ar y maes!"

A beth am fis m锚l? "Mi fydd yn rhaid i wythnos yr Eisteddfod wneud fel mis m锚l hefyd am y tro, mae'n debyg!" meddai Alwyn.

Hwn oedd y tro cyntaf i'r Eisteddfod gael cais o'r fath ond ar 么l gweledigaeth Alwyn a Gwenda, mae'n annhebyg o fod y tro olaf.

A thybed pwy fydd y cyntaf i wneud ymholiadau am drwydded i briodi ar y maes? Gwyliwch y gofod hwn!



About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy