大象传媒

Chwilio

Pigion Pontcanna - Mercher

Dyddiadur boreol o'r Maes

Hen wragedd yn cyrraedd y maes

Glaw ddwedsoch chi?
Yr oedd y Maes yn llifo o hen wragedd a ffyn ddoe a'u s诺n yn waldio toeau'r pebyll yn fyddaraol.

Serch hynny fe badlodd 17,236 drwy'r mwd; dim ond mymryn yn llai na'r llynedd yn Yr Wyddgrug, 17,460, a'r flwyddyn cynt yn Abertawe, 18,074.

Y cwestiwn sydd heb ei ateb yw, Ai arwydd yw hyn o deyrngarwch ac ymroddiad Steddfotwyr waeth beth y tywydd - ynteu bod rhyw goll arnyn nhw?

Beth am gystadleuaeth, Traethawd ar Gymhlethod yr hwyaid yn y seici Cymreig?

Yma o hyd - ond nid heno

Am Ddafydd Iwan yn tynnu'n 么l o Gyngerdd Grav yr oedd y siarad ar y Maes yn ystod y pnawn.

Dafydd Iwan ar un o lwyfannau'r maes

Ond doedd dim syniad o gwbl gan nifer o'r rhai oedd yn cerdded tua'r cyngerdd am wyth beth oedd yn eu disgwyl - neu ddim yn eu disgwyl.

A chawson nhw ddim eglurhad yn ystod y cyngerdd ychwaith, pam nad oedd arwr mawr Grav, y defnyddiwyd teitl ei g芒n yn deitl y cyngerdd, yn bresennol.

Ond fe sylwyd ar fwlch pan unwyd ar y diwedd i gydganu 'Yma o Hyd'.

Yr oedd y cyfan yn hynod anffodus a'r farn gyffredinol oedd mai Dafydd Iwan, o'r holl rai a gymerai ran, oedd yr un y byddai Grav ei hun am ei gynnwys.

Rhywbeth, heb os, a daflodd gwmwl dros y digwyddiad a'r trefnwyr yn ychwanegu at y stomp drwy hepgor Hen Wlad fy Nhadau nes i'r gynulleidfa ohoni ei hun unioni'r cam hwnnw yn ddigyfeiliant.

Noson i'w chofio - ond nid am y rhesymau cywir, beryg.

Yno heddiw

Ond os collodd edmygwyr Grav lais y trwbad诺r o wleidydd bu Dafydd Iwan yn canu gydag angerdd yn y glaw ar un o stondinau perfformio'r maes yn ystod y dydd.

Ac fe fydd yna sesiwn "Coffi a chlonc" i'w ddilyn gan berfformiad ganddo ym Mhabell y Dysgwyr y pnawn yma am dri.

Canu yn y glaw?
Rhyfedd na fyddai rhywun wedi meddwl gwneud ffilm am y peth . . .

Teulu corawl

Tr么dd buddugoliaeth C么r Pensiynwyr Aberteifi ar y llwyfan bnawn ddoe yn dipyn o ddathliad teuluol.

Arweinydd y c么r yw Margaret Daniel ac yn aelodau o'r c么r mae ei dwy chwarae Mary Jones a Rhiannon Saunders yr ysgrifennydd.

Dic Jones a'i chwiorydd

Mae eu brawd hefyd yn aelod - ac yn rhydd o ddyletswyddau Archdderwyddol ddoe yr oedd Dic Jones ar gael i ganu!

Tro'r ifanc

Eisteddfod yr enillwyr ifainc yw hon hyd yn hyn - gan gadw at draddodiad a osodwyd gan Sion Eirian y tro diwethaf y bu'r Eisteddfod yma yn 1978 trwy ennill y Goron yn 24 oed.

Ddydd Llun, enillwyd y Goron eleni gan Hywel Griffiths, 25 oed.

Ddoe aeth Gwobr Goffa Daniel Owen i Ifan Morgan Jones, 24 oed.

Tybed sut bydd hi heddiw yng nghystadleuaeth y Fedal Ryddiaith?

Byddai enillydd 23 yn gyfleus!

Ond y cwestiwn mwyaf un, wrth gwrs, yw a fydd yna gadeirio unrhyw un o gwbl, waeth pa oed, bnawn Gwener?

Ac os na - a oes yna Geraint Evans cyfoes allai gamu i'r llwyfan i achub y seremoni a thorri ar y siom?

Tybed yw Dafydd Iwan ar gael bnawn Gwener - jyst rhag ofn?
Dyna beth fyddai diwedd dramatig i'r wythnos.

Dyma'r t欧

Yr ydym yn clywed llawer iawn am dai fforddiadwy y dyddiau hyn.

Ond mae sawl un yn niwlog iawn sut beth yn union yw t欧 fforddiadwy.

Dyma fe - ty fforddiadwy!

I glirio'r meddwl gellid crwydro cyn belled 芒 phabell Cymdeithas yr Iaith ar y maes lle mae "yr unig dy fforddiadwy yng Nghymru" i'w weld.

Curo ac ennill

Yr oedd un adolygydd wedi ffromi braidd bnawn Mawrth ar 么l clywed, medda fo, enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen yn dweud iddo "guro'r Daniel".

"Er cymaint canmoliaeth y beirniaid, go brin, fod ei nofel gystal ag i guro Daniel Owen - neu mae yma ddarganfyddiad yn wir!" meddai'r adolygydd gan awgrymu gwers ar y gwahaniaeth rhwng curo ac ennill.

  • Cyhoeddir 'Pigion Pontcanna' ar y wefan hon bob dydd.

  • 大象传媒 iD

    Llywio drwy鈥檙 大象传媒

    大象传媒 漏 2014 Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

    Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.