Arlunydd a oedd yn un o sylfaenwyr y grefft o baentio tirluniau ym Mhrydain.
Ydych chi erioed wedi meddwl pwy baentiodd yr arwydd sy'n crogi y tu allan i dafarn 'We Three Loggerheads' ger yr Wyddgrug? Yr arlunydd Richard Wilson, oedd yn cyd-oesi ag arlunwyr fel Syr Joshua Reynolds, a baentiodd arwydd gwreiddiol y dafarn.
Cyfrifir Wilson fel arloeswr ym maes paentio tirluniau ym Mhrydain ac roedd yn un o sylfaenwyr yr Academi Frenhinol.
Deuai'n wreiddiol o Benegoes ger Machynlleth ond symudodd i'r Wyddgrug pan fu farw ei dad, ficer Penegoes. Roedd ganddo gysylltiadau 芒 Sir Fflint ar ochr ei fam, Alice, a oedd yn ferch i George Wynne o Goed Llai.
Dangosodd dalent fel arlunydd o oedran cynnar ac yn 1729 aeth i Lundain i astudio a dechreuodd ei yrfa fel paentiwr portreadau.
Astudiodd yn Fenis a Rhufain rhwng 1750 a 1757 a dechreuodd baentio tirluniau ar gyngor yr arlunydd Eidalaidd, Francesco Zuccarelli.
Daeth yn 么l i Lundain yn 1757, cyn dechrau ar ei gyfnod mwyaf cynhyrchiol a barodd rhwng 1760 - 1768. Yn ystod y cyfnod hwn y cyfrannodd at sefydlu'r Academi Frenhinol.
Paentiodd nifer o olygfeydd o Gymru a Lloegr. Ymysg ei luniau o Gymru mae paentiadau o Eryri, Cader Idris a Chastell Caernarfon. Comisiynwyd Wilson i baentio dau dirlun lleol gan y tirfeddiannwr Syr Watkin Williams-Wynne yn 1769: 'Golygfa ger Wynnstay' a 'Chastell Dinas Bran o Langollen'. Mae'n debyg bod cysylltiad teuluol rhwng Wilson a Williams-Wynne ar ochr ei fam.
Ond tawel fu'r gwaith wedi hynny a bu Wilson yn bur dlawd er y lleddfwyd ar y tlodi pan gafodd swydd fel Llyfrgellydd yn yr Academi Frenhinol yn 1776.
Yn 1781, mae'n bosib oherwydd salwch, daeth Richard Wilson yn 么l i fyw i ardal yr Wyddgrug. Bu farw ym mhlasty Colomendy, Llanferres, ar 11 Mai 1782 a chafodd ei gladdu nesaf at ei fam ym mynwent eglwys ysblennydd y Santes Fair yn yr Wyddgrug. Mae ei feddrod ger y fynedfa gefn i'r eglwys (uchod).
Erbyn ei farwolaeth roedd wedi colli bri fel arlunydd ac ychydig iawn o baentio roedd wedi ei wneud yn ei flynyddoedd olaf. Ond erbyn heddiw, mae'n cael ei ystyried yn ffigwr canolog yn hanes paentio tirluniau ym Mhrydain a chydnabyddir i'w waith ddylanwadu'n drwm ar nifer o arlunwyr enwog fel JMW Turner a John Constable.
Mae ei waith i'w weld yn Amgueddfa ac Oriel Genedlaethol Cymru, Caerdydd, casgliad y Tate, Canolfan Yale ar gyfer Celf Prydeinig yn yr Unol Daleithiau, yr Amgueddfa Brydeinig a chasgliad Ford, Llundain.