大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Oriel yr Enwogion

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

尝濒锚苍
Un o gywyddau Tudur Aled
Tudur Aled

Ganwyd: Tua 1465

Magwyd: Plwyf Llansannan yn Sir Ddinbych

Addysg: Addysg barddol gan ei ewythr, Dafydd ab Edmwnd


Un o feirdd mawr olaf y traddodiad canu-caeth uchelwrol

Yng ngwaith Tudur Aled y gwelwyd eithafbwynt y traddodiad mawl yn yr Oesoedd Canol.

Roedd ganddo feistrolaeth lwyr ar y gynghanedd, defnyddiodd ddelweddaeth draddodiadol a newydd fel ei gilydd, ac yn ei gerddi aeddfed gwelir personoliaeth urddasol a sensitif.

Wedi ei farw, dirywiad prysur a welwyd yn niwylliant Cymru, yn enwedig yn y grefft farddol.

Cefndir uchelwrol

Ganwyd Tudur Aled tua 1465 ym mhlwyf Llansannan yn Sir Ddinbych, ac ei athro barddol, mae'n debyg, oedd ei ewythr Dafydd ab Edmwnd.

Roedd e'n un o gomisiynwyr Eisteddfod Caerwys ym 1523.

Perthyn i'r uchelwyr, felly, oedd y bardd, mewn ardal a oedd yn un nodedig am Farddas, a thystia rhai o'r marwnadau a genid iddo mai dyn a wisgai'n dda ydoedd.

Ymddenegys ei fod o gorff cadarn, yn farchog da ac yn fabolgampwr.

Yn ystod ei waeledd olaf cymerodd abid mynach o Urdd Sant Ffransis a bu farw tua 1525 yng Nghaerfyrddin a'i gladdu yno yng Nghwrt y Brodyr.

Ei farn amdano'i hun

Yn 么l un o'r traddodiadau a ledaenwyd amdano wedi i Tudur Aled farw, mae'r ymddiddan rhyngddo a Thomas Pennant, abad Dinas Basing.

Mewn ateb i gwestiynau'r abad, dywedodd Tudur mai Dafydd ab Edmwnd oedd y gorau ar yr awdl, Guto'r Glyn ar y cywydd mawl, a Dafydd ap Gwilym ar y cywydd serch, ond ei fod ef ei hun wedi canu awdl well na Dafydd ab Edmwnd, a chywyddau mawl a serch gwell na Guto'r Glyn a Dafydd ap Gwilym.

Cofgolofn i Tudur Aled a beirdd eraill yn Llansannan.Cadwyd tua chant a phump ar hugain o'i gywyddau, yn eu plith oddeutu pedwar ugain a phump yn rhai mawl.

Cofnodai achau yn ei gerddi yn fwy cyson na bron neb o'i gyfnod.

Canodd nid yn unig i deuluoedd brodorol Cymreig ond hefyd i deuluoedd y Gororau.

Ond ei brif noddwyr oedd Salbriaid Lleweni ger Llansannan.

Cafodd yr Eglwys le canolog yn ei ganu, gydag o gwmpas ugain cerdd i w欧r eglwysig.

Mae Blodeugerdd Rhydychen (gol. Thomas Parry) yn cynnwys y cerddi canlynol: 'Gofyn March gan Abad Aberconwy dros Lewis ap Madog'; 'I Wiliam ap Si么n, Cwnstabl y Waun'; 'Tref Crososwallt'; 'Cywydd Cymod Hwmffre ap Hywel ap Siencyn a'i Geraint'; a 'Marwnad Si芒n Stradling'.

Gwelir cof-golofn i Dudur Aled, William Salesbury, ac eraill yng nghanol Llansannan.

Meic Stephens.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy