大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Hanes Lleol

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Bob Griffiths Atgofion Bob Griffiths
Gwelodd Bob Griffiths o Brestatyn nifer o newididau mawr yn ystod ei gyfnod yn gweithio yn y Parlwr Du.
"Roeddwn yn 26 pan es i lawr. Roeddwn yn gweithio ar fferm cyn hynny cyn priodi merch i golier.

"Es i lawr am y tro cyntaf ar 么l bod yng Ngresffordd am bythefnos yn cael hyfforddiant. Bu'm yn gweithio yn y Parlwr Du am bron i 32 mlynedd.

gwrando Atgofion Bob - Rhan Un

gwrando Atgofion Bob - Rhan Dau

gwrando Atgofion Bob - Rhan Tri

gwrando Atgofion Bob - Rhan Pedwar

"Roedd mynd lawr Gresffordd y diwrnod cyntaf, doeddwn erioed wedi bod yn ymyl pwll glo heb s么n am fod i lawr.

"Roedd 'na hogiau' ifanc yno oedd wedi bod lawr o fy mlaen i.

gwrando Hywel a Nia yn holi Bob Griffiths ar Radio Cymru

"Ar 么l mynd i lawr roeddwn yn iawn. Ches i ddim ofn o gwbl.

"Roedd gynno chi ofn si诺r iawn, ond roedda chi'n dygymod gyda hynny'n sydyn iawn.

"Pan oeda chi'n fireman roedd 'na' ddigon o bethau eraill i feddwl amdan er eich bod yn gweithio mewn llefydd drwg.

"Gwnes i bob math o swyddi ar y dechrau. Ar 么l deg mlynedd o wneud popeth, es i'n swyddog fireman.

"Roeddwn yn fireman am 21 mlynedd yn tanio'r glo. Roeddwn yn gyfrifol am y diogelwch. Roedd dau ohonom yn tanio rhyw gant o dyllau ac wedyn roedd y glo yn barod. Dydd a nos roedda' ni'n gweithio yn tanio.

"Wedyn fe es ar salvage' pan oedd y wyneb wedi gorffen yn gweithio hefo contractors.

"Roedda chi'n mynd lawr am chwech o'r gloch ac yn 么l i fynnu am chwarter wedi un - saith a chwarter oedd hynny.

"Bu newid mawr dros y blynyddoedd. Pan es i lawr am y tro cyntaf, gweithio gyda cheffylau oedda ni.

"Roedd rhwng 30 a 40 o geffylau pan es i lawr gyntaf. Roedd y ceffylau aeth i lawr y Parlwr Du byth yn dod i fynnu tan oeddynt yn ymddeol neu doedda' nhw methu gweithio nhw.

"Roedd ambell i geffyl na fyddai'n gweithio a rhai ohonynt yn wyllt. Ond roedd y rhan fwyaf ohonynt yn gweithio.

"Yn ystod y gwyliau doedd y ceffylau ddim yn dod i fynu, ond roedd rhywun hefo nhw o hyd.

"Pan oedd ceffyl yn cael ei ladd, roedd y glowyr yn teimlo fwy am y ceffyl na fuasai nhw pe byddai dyn wedi ei ladd!

"Pan nes i ddechrau roedd rhwng 600 a 700 yn gweithio yn y Parlwr Du. Tua 250 oedd yn gweithio pan gaeodd y pwll.

"Nes i orffen tua 1983, yn ymddeol yn gynnar yn 60 oed.

"Roedd lot o hwyl i'w gael, er bod problemau pan oedd pethau'n mynd o'i le."




[an error occurred while processing this directive] 0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy