Yn lleol mae tref Bwcle hefyd yn enwog am ei thafodiaith arbennig, a ddatblygodd o'r cyfuniad o dafodieithoedd amryfal y gweithwyr a symudodd i'r ardal, ac o'r Gymraeg a siaradwyd gan y bobl leol.Mae Bwcle heddiw yn dref o tua 15,000 o bobl, a bu rhyw fath o gymuned yma ers yr Oes Efydd. Cafodd y dref ei dogfennu am y tro cyntaf ym 1284 fel 'porfelaeth Maenor Ewlo', a thua'r adeg yma cofnodwyd cloddio am lo a gwneud llestri yn yr ardal.
Mae Bwcle wedi ei amgylchynu gan nifer o feysydd glo, a'r rheiny mor agos at yr wyneb nes ei bod yn hawdd eu cyrraedd heb gloddio siafftiau dwfn. Roedd modd hel y glo mewn tyllau bas gan godi'r cynnyrch mewn basgedi. Daethpwyd o hyd i glai llosg caled wrth ymyl y caenau glo, hefyd, a byddai hwn yn cael ei gasglu ar 么l cael ei hindreulio yn yr elfennau. Daethpwyd o hyd i glai potiau gludiog ar y wyneb ac mewn caeau cyfagos.
Roedd y cyfuniad hwn o gleiau yn berffaith i wneud llestri pridd yn rhad. Roedd plwm yn elfen bwysig arall mewn gwydro'r llestri, a chafodd hwn ei gloddio ers cyfnod y Rhufeiniaid yn Helygain a Rhosesmor gerllaw.
Cynnyrch y dre yn mynd yn bell
Roedd Bwcle mewn safle gwych i allforio nwyddau, gan fod sawl nant yn tarddu yng nghyffiniau'r dref, gan lifo wedyn i Foryd yr afon Ddyfrdwy. Ffurfiodd y nentydd hyn sianeli yn y tywod, ac ar lanw uchel gallai llongau hwylio i fyny'r rhain, a chasglu eu llwythi o lestri pridd a glo cyn dychwelyd i'r m么r.
Roedd y crochenwaith hefyd yn cael ei allforio i farchnad Caer ar hyd y 'Filltir Fudur' - yr enw lleol am y ffordd o Gaer i Fwcle. Wedi 1866, cafodd ei gludo ar y rheilffyrdd i weddill Prydain.
Denodd diwydiannau Bwcle weithwyr ymfudol o'r 12ed ganrif ymlaen. Ymhlith y rhai cyntaf oedd trefedigaeth o fwynwyr a chrochenwyr a oedd yn byw ymhlith y Cymry brodorol ar Fynydd Bwcle. O gael eu taflu at ei gilydd fel cymdogion a chydweithwyr mewn man anghysbell, datblygodd pobl Bwcle eu tafodiaith eu hunain a oedd yn Saesneg yn bennaf, gan fenthyg nifer o eiriau ac ynganiadau Cymraeg.
Roedd cloddfeydd, gweithiau briciau a chrochendai teuluol wedi eu hen sefydlu erbyn cyfnod Elizabeth I, a thros y blynyddoedd dechreuodd Bwcle ddenu mwy o bobl i ymgartrefu yn yr ardal.
Ymfudwyr yn ymdoddi
Ym 1737, cychwynnodd Jonathan Catterall y gwaith 'Buckley Firebrick', a dynnodd bobl i mewn o leoedd mor bell 芒 Dyfnaint, Cernyw ac Iwerddon, yn ogystal 芒'r siroedd cyfagos - Sir Gaer, Swydd Stafford, Swydd Gaerhirfryn a Swydd Efrog.
Dechreuodd tafodiaith Bwcle ddatblygu trwy fod cenedlaethau o fewnfudwyr a brodorion yn benthyg geiriau ac ymadroddion oddi wrth ei gilydd, gan greu geirfa a oedd yn unigryw i'r ardal.
Yn ei lyfr 'Talk of My Town' (1969) rhoddodd Dennis Griffiths astudiaeth o dafodiaith Bwcle, gan restru nifer o'r geiriau a'r ymadroddion a oedd yn dal yn fyw yn y cof, er enghraifft:
"Above a bit" - Cryn dipyn, sylweddol
"Chancechile" - Plentyn anghyfreithlon
"Kabe" - Cwyno
"Llechy" - Ffug; cynffongar; credadwy (Cymraeg: "llechu" )
"O'er the 'ills - Roedd "send 'im o'er the 'ills" yn golygu "anfon ef i Wallgofdy Dinbych"
"Sennabund" - Yn rhwym
Yn y 19eg ganrif, parhaodd pobl o'r tu allan o siroedd y gororau a Swydd Stafford yn symud i mewn i'r ardal. Ond erbyn hyn roedd prif ddiwydiannau Bwcle yn dechrau wynebu anawsterau. Wrth gloddio am lo, gwelwyd bod nifer o'r gwythiennau wedi eu disbyddu, a bu angen cloddio am lo mewn mannau tipyn dyfnach.
Y llwyth olaf
Roedd masgynhyrchu llestri a dysglau enamel, a datblygiad y system rheilffordd, a wnaeth y nwyddau hyn yn haws eu cael, yn dechrau bygwth busnesau teuluol llestri pridd Bwcle. Effaith y ddau Ryfel Byd oedd i dynnu gweithwyr i ffwrdd o Fwcle i'r lluoedd arfog. Lleihaodd y nifer o grochendai teuluol, nes gadael dim ond dyrnaid.
Parhaodd rhai crochendai fel Crochendy Hayes, a sefydlwyd ym 1740, i gynhyrchu crochenwaith Bwcle gan barhau yn eiddo i'r un teulu nes iddo gau yn y 1940au. Penderfynodd eraill, fel Crochendy Powell, y Crochendy mwyaf ym Mwcle hyd 1914, i newid eu llinell gynhyrchu i weithio mewn peirianneg a phlastigau.
Roedd Crochendy Sharret, wedi newid ei enw i 'The Art Pottery Co.' ac wedyn i 'J. Lamb & Sons' , ond fe gafodd ei gau yn gynnar yn y 1940au. Wrth i'r gwaith gau, fe adawyd un odyn o grochenwaith heb ei grasu. Daeth mab y perchennog yn 么l o'r rhyfel ym 1946, ac fe daniodd yr odyn gan grasu'r crochenwaith oedd ar 么l. Wedi iddo gael ei grasu, gwelwyd ei fod o ansawdd ardderchog - a dyna oedd y llwyth olaf o grochenwaith i gael ei gynhyrchu ym Mwcle.
Yn y cefn gwlad o gwmpas Bwcle bu cyfuniad gwerthfawr o adnoddau naturiol a gynhaliodd ddiwydiant crochenwaith y dre, a'i diwydiannau mwyngloddio a briciau am dros 500 mlynedd. Er i'r diwydiannau yma ddirywio oherwydd masgynhyrchu mewn mannau eraill, mae'r etifeddiaeth yn parhau yn y dafodiaith sy'n dal i gael ei chofio a'i siarad heddiw.