Edrychwch drwy'r lluniau i ddysgu mwy am hen safle datblygu arfau cemegol cyfrinachol o'r Ail Ryfel Byd, Gweithfeydd Dyffryn Rhydymwyn ger yr Wyddgrug, Sir y Fflint.
[an error occurred while processing this directive]
Roedd ffrwydron nwy mwstard yn cael eu cynhyrchu yma ac fe gyfrannodd y gwaith yma at y gwaith ymchwil cyntaf i'r bom atomig.
Roedd nifer o bobl leol yn gweithio yma, ac wedi eu siarsio i gadw'r gyfrinach am natur eu gwaith.
Cafodd y safle ei ddadgomisiynu yn 1946-48 a'i wneud yn ddiogel yn nes ymlaen cyn cael ei ddatblygu'n warchodfa natur fel y mae yn y lluniau uchod.