Wrth geisio cyfleu natur glos y gymdeithas yn Wrecsam, disgrifiwyd y dref gan un o hen olygyddion papur newydd lleol fel "pentref a oedd wedi anghofio tyfu'i fyny."Dros ganrif cyn hynny yr oedd George Borrow wedi cyhuddo Wrecsam o beidio ag edrych yn Gymreig gan ychwanegu hefyd nad oedd ei thrigolion ychwaith "yn meddu ar edrychiad nac iaith y Cymry."
Yn 1854 oedd hynny, ac er gwaethaf twf rhyfeddol mewn addysg Gymraeg yn yr ardal, Saesneg ydi'r iaith a glywir fwyaf ar y stryd hyd heddiw.
Ond yr arwydd Cymraeg sy'n cael y flaenoriaeth uwchben mynedfeydd Marchnad y Bobl yno ac y mae'r dref yn gyrchfan i nifer o gefnogwyr p锚l-droed Cymraeg ar brynhawniau Sadwrn. Dyma gartref "Y Cochion" neu'r "Robins" a sylwodd gyntaf ar alluoedd Ian Rush fel p锚l-droediwr.
Yn dref digon salw ei gwedd rai blynyddoedd yn 么l, mae wedi ei gweddnewid yn ddiweddar gyda chanolfan siopa braf a strydoedd i gerddwyr yn unig a lle helaeth i eistedd a hamddena mewn sgw芒r y tu allan i'r Guildhall.
Mae marchnad boblogaidd yma ar ddyddiau Llun a marchnad gwerthu nwyddau fferm ganol yr wythnos.
Tafarn ac eglwys yw adeiladau hynotaf canol y dref - gwesty mawreddog yr olwg y Wynnstay ac Eglwys St Giles yr adlewyrchir ffurf ei th诺r ym Mhrifysgol I芒l yn yr Unol Daleithiau er parch i Elihu Yale yr enwyd prifysgol enwocaf America ar ei 么l, ac sydd wedi claddu gerllawr eglwys yn Wrecsam.
O'r brifysgol honno yn America y daeth y garreg goffa iddo sydd ar fur yr eglwys ger ei fedd.
Er mai yn Boston y ganwyd Elihu, o Blas-yn-I芒l ger Wrecsam y mudodd ei dad i'r America yn 1637.
Mae mynediad i'r eglwys - sy'n cael ei hystyried yn un o saith rhyfeddod Cymru - drwy giatiau haearn trawiadol a wnaed gan weithwyr haearn enwog o'r ardal yn y ddeunawfed ganrif, Robert a John Davies.
Enwogion Wrecsam
Nid yw Wrecsam heb enwogion eraill ychwaith. Yn Neuadd Acton y ganwyd y Barnwr Jeffreys, y crogwr enwog.
Yn Wrecsam hefyd y dienyddiwyd Richard Gwyn, ysgolfeistr o Lanidloes, yn 1584, wedi ei gyhuddo o frad oherwydd ei ddaliadau Pabyddol.
Y mae Wrecsam yn ganolbwynt i nifer o bentrefi diwydiannol fel Rhostyllen, Y Bers, Coed-poeth a'r Mwynfa neu Minera lle mae gweddillion hen weithfeydd plwm wedi eu hadfer ar gyfer ymwelwyr.
Y mae'r Bwlchgwyn yn cael ei ddisgrifio fel y pentref uchaf yng Nghymru er nad yw'n ymddangos felly!
I gyfeiriad Caer y mae hen waith glo Gresffordd lle bu tanchwa mor ddychrynllyd yn y tridegau, ac syn dal yn rhan o gof gwerin yr ardal.
Ardal hyfryd yw Dyffryn Clywedog gyda'i llwybrau i gerddwyr ac yn arwain i hen waith haearn Y Bers a sefydlwyd yn yr ail ganrif ar bymtheg i greu peli gynnau mawr i'r brenhinwyr yn ystod y Rhyfel Cartref.
Yma hefyd y dyfeisiwyd math newydd o ganon a ddefnyddiwyd yn Rhyfel Cartref America ac yn erbyn Napoleon yn Ewrop. Yng Nghanolfan treftadaeth Y Bers y mae ystafell i goff谩u y g诺r y tu 么l i hyn oll, John "Iron-mad" Wilkinson.
Atyniad lleol poblogaidd arall ydi plasty Erddig lle mae deunawfed ganrif ei adeiladu yn cael ei hail-fyw er difyrrwch i ymwelwyr.