大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Hanes Lleol

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Cofeb Daniel Owen Adnabod ardal Yr Wyddgrug
Bro sy'n enwog am ei llenorion yw'r ardal hon o Sir y Fflint. Dyma gyfle i ddod i adnabod mwy am hanes yr Wyddgrug.
Y mae'r hen weithdy teiliwr yn Yr Wyddgrug, lle bu yn prysur bwytho, yn awr yn d欧 tafarn. Ac enw'r t欧 tafarn hwnnw yn ein hatgoffa o'r geiriau y bu'r llenor yn eu pwytho yn straeon a nofelau, Y Pentan.

Cynefin Daniel Owen
Ganwyd Daniel ym Maes-y-dref yn 1836 ac er bod y t欧 hwnnw wedi ei chwalu y mae carreg goffa gerllaw. Yn wir, mae'r Wyddgrug yn gwneud dipyn o'r ffaith fod Daniel yn un o feibion y dref ac y mae yno nid yn unig Ganolfan Daniel Owen ond hefyd gofgolofn iddo gyda'i lyfr yn ei law. Y mae yma hefyd Gymdeithas Wil Bryan sy'n cyfarfod yn rheolaidd.

Cartref arall a chwalwyd - i wneud lle i siop Tesco newydd - ydoedd un y bardd a'r gweinidog John Blackwell a enillodd gadair Eisteddfod Genedlaethol Yr Wyddgrug yn 1823.

Richard Wilson
Bedd Richard WilsonBrodor enwocach na'r ddau ohonyn nhw y tu allan i Gymru ydoedd yr arlunydd o'r ddeunawfed ganrif, Richard Wilson, a fu farw ym mhlasty Colomendu gerllaw ac a gladdwyd ger y fynedfa i'r eglwys ysblennydd ym mhen uchaf y dref.

Yn fwy diweddar, yr oedd y bardd o'r Unol Daleithiau, Denise Leverton, prif ladmerydd y llenorion hynny a wrthwynebai ymyrraeth America yn Fietnam yn y chwedegau, yn ymhyfrydu yn y ffaith ei bod hi yn perthyn o ochr ei mam i Angel Jones o'r Wyddgrug.

Cafodd y papur bro lleol, Papur Fama ei enw oddi wrth Foel Famau y gellir ei ddringo oddi ar y ffordd sy'n arwain i Rhuthun. Ar y copa y mae olion t诺r a godwyd yn 1810 i ddathlu hanner canrif teyrnasiad y trydydd George. Ond o lawer mwy o ddiddordeb nac olion y t诺r anorffenedig hwn yw'r olygfa odidog o harddwch Dyffryn Clwyd ar daen gyda hyd yn oed Yr Wyddfa a Chader Idris i'w gweld ar ddiwrnod clir.

Tref marchnad ddigon prysur yw'r Wyddgrug gydag olion hen gaer ym mhen pellaf y stryd fawr. Hi yw'r dref sirol hefyd - Sir Y Fflint yn awr, Sir Clwyd cyn hynny - a Sir Y Fflint cyn hynny, hefyd.

Dywed sawl un iddyn nhw weld ysbryd yn croesi'r ffordd sy'n arwain o'r dref tuag at Gaergwrle a Wrecsam. Mae'r straeon i gyd rywbeth yn debyg am yrwyr yn gorfod stopio ar frys er mwyn osgoi taro merch oedd yn croesi'r ffordd o'u blaenau - ond neb byth i'w weld wedi iddyn nhw stopio'r car a mynd allan i edrych o gwmpas.

Yn Llanarmon yn I芒l gerllaw y mae beddrod Gruffydd ap Llywelyn o'r bedwaredd ganrif ar ddeg.



Cyfrannwch

Robert Jones
Tref marchnad ddigon prysur yw'r Wyddgrug gydag olion hen gaer ym mhen pellaf y stryd fawr. Hi yw'r dref sirol hefyd - Sir Y Fflint yn awr, Sir Clwyd cyn hynny - a Sir Y Fflint cyn hynny, hefyd.


Nid ydym yn derbyn sylwadau ar gyfer y dudalen hon bellach.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy