大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Nene
Bethan Jones Bos newydd Pobol y Cwm
Chwefror 2002
Llongyfarchiadau i 'Fos newydd Pobol y Cwm - fel y cyfeiriwyd at Bethan Jones mewn pennawd erthygl amdani yn y cylchgrawn Golwg wrth gyhoeddi iddi gael ei phenodi'n gynhyrchydd y gyfres sebon boblogaidd.
Mae Bethan yn ferch i Nancy ac Elwyn Jones (y Sgw芒r, gynt) ond sydd bellach wedi symud i fyw i Gaerdydd i fod yn nes at Bethan a'i theulu.

Mae Bethan wedi cael llawer o brofiad ym myd y theatr, ffilmiau a theledu - fel actores, cynhyrchydd a chyfarwyddwraig.

Cyfarwyddo dram芒u arloesol
Bu'n cyfarwyddo nifer o ddram芒u arloesol a chyffrous Cwmni Theatr Dalier Sylw; hi hefyd oedd cyfarwyddwraig y Sioe Gymuned, yn y Stiwt ym 1990.

Bu wedyn yn Gyfarwyddwr Artistig Sgript Cymru, corff sy'n hyrwyddo 'sgrifennu newydd gan ddramodwyr ledled Cymru - swydd allweddol dros ben.

Yn awr mae Bethan yn symud i fyd y bu llawer o drafod arno yn y wasg yn ddiweddar - cyfresi oper芒u sebon. Mae'r misoedd dwytha wedi bod yn rhai pur argyfyngus i'r math hwn o deledu a bu llawer o feirniadu ar gyfresi yn Lloegr a Chymru, fel ei gilydd, a phryderon yn cynyddu bod nifer y gwylwyr yn lleihau.

Tipyn o her
Denu gwylwyr yn 么l fydd blaenoriaeth Bethan. Mae hyn yn dipyn o her, gan fod Pobol y Cwm yn gyfres bwysig ac wedi bod ar ben siartiau gwylwyr S4C o'r dechrau.

Talodd Bethan deyrnged i Terry Dyddgen-Jones fu'n cynhyrchu'r gyfres o'i blaen.

Meddai "Roedd lot o waith datblygu wedi cael ei wneud gan y cynhyrchydd blaenorol ar yr ochr gynhyrchu.

"Roedd hi'n amlwg, nid jyst i mi ond i bobol y 大象传媒 yn gyffredinol, mai'r adran stor茂au a sgriptio oedd angen ei ddatblygu ac felly fy mhrofiad i yn y maes arbennig hwn, am wn i, oedd yr atyniad.

"Wnes i feddwl. Oc锚, os mai dene'r pwyslais, mae'n rhywbeth alla i gyfrannu ato.

"Mae'n anferth o job - mae fel y QE2! Os 'dach chi ishio tr茂o newid rhywbeth, mae o'n cymryd oes. O achos bod y rhaglen yn gweithio cymaint ymlaen llaw, welwch chi mo 么l y gwaith dw i'n ei ddechre r诺an tan yr hydref."

Llawer o bwysau
"Mae'n gyfres sy'n golygu llawer o bwysau - mae ymlaen bum gwaith yr wythnos gydol y flwyddyn."

"Amser ydi'r bwgan, meddai hi. "Rhaid trefnu pethe fel bod y stor茂wyr a'r awduron yn cael digon o amser i weithio ar eu sgriptiau, i'w trafod a'u datblygu... a dod 芒 gwaith a fydd 'falle dipyn bach yn wahanol."

Mae Bethan, serch hynny, yn ymwybodol mai peth peryglus fyddai codi arddull y theatr a'i osod yn glwt o fewn cyfrwng y teledu... nid hynny mae'n ei olygu wrth s么n am "greu rhywbeth gwahanol."

Ar beth fydd y pwyslais felly?

Canolbwyntio ar y cymeriadau
"Ein bwriad fel t卯m fydd rhoi mwy o ffocws ar y cymeriadau sy'n byw ym mhentre Cwm Deri, be sy'n mynd ymlaen... bywydau'r bobol yma, sut mae pethe'n effeithio arnyn nhw, yn hytrach nag ar straeon sy'n eu cymryd nhw allan o'r pentre... datblygu cymeriadau craidd y gyfres."

"Eto i gyd, dw i'n gredwr mawr mewn gwneud yr annisgwyl," ychwanegodd, gan gyfeirio at y beirniadu a fu yn y wasg fod oper芒u sebon yn gor-ddefnyddio sefyllfaoedd eithafol er mwyn syfrdanu a chyffroi yn hytrach na'u bod yn rhan o dwf naturiol y plot.

Mae'r ffaith fod ffigyrau gwylwyr Pobol y Cwm yn peri pryder yn her i Bethan.

Creu cymuned yn y cwm
"Pan gr毛wyd y gyfres gyntaf", meddai, hi oedd yn cynrychioli Cymru gyfan. Dw i'n meddwl ei bod hi'n bwysig ein bod ni'n trio creu cymuned eto yn y cwm.

Os cawn ni afael ar y straeon a'r cymeriadau a chreu'r gymuned yma, yna mi fyddwn ni'n denu gwylwyr yn 么l. Os oes gan y gwylwyr ddiddordeb yn y bobol, mi fyddan nhw eisiau gwybod be' sy'n digwydd iddyn nhw."

Ein dymuniadau gorau i Bethan ac i'r gyfres.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy