大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Nene
Mark Hughes Atgofion athro yn dysgu Mark Hughes
Ebrill 2003
Deuddeg mlwydd oed oedd Leslie Mark Hughes pan ddaethom ni i gysylltiad 芒'n gilydd gyntaf ...
Gwers hanes oedd hi yn Ysgol Rhiwabon; fi, yr athro, a Mark, y disgybl. A dweud y gwir, prin y daeth i'm sylw o gwbl yn ystod y wers gyntaf honno, mewn gwirionedd.

Mae athro, medden nhw yn cofio y disgyblion drwg a direidus. Yn sicr, doedd Mark ddim yn perthyn i'r categori hwn. Bachgen distaw o ran ei natur, swil hyd yn oed ond diymhongar, serch hynny. Cwrtais yn ddiffael a doedd byth angen ei ddisgyblu. Y disgybl perffaith!

Roedd yn beniog hefyd; gadawodd yr ysgol yn 16 oed gyda 6 Lefel O; mae'n bosib y byddai'r nifer yna yn uwch pe bai heb golli cymaint o ysgol yn ystod ei flwyddyn olaf. Roedd galwadau niferus ar ei amser - yn cynrychioli Clwyd, gogledd Cymru a'i wlad heb s么n am ei deithiau rheolaidd i Old Trafford.

Cwestiwn a ofynnir yn aml i mi yw a oedd hi'n amlwg, o'r oedran cynnar hwnnw, y byddai Mark yn cael gyrfa lwyddiannus fel p锚l-droediwr proffesiynol. Mae'n amhosibl, yn fy marn i, ddatgan gydag argyhoeddiad 100% y bydd bachgen yn cyrraedd y nod ym myd anwadal y b锚l gron - waeth pa mor ddisglair yw'r dalent. Mae'n rhaid bod yn y lle iawn ar yr adeg iawn; rhaid cadw'n glir o anafiadau, yn ogystal. Ond diolch i'r drefn, - ac er gwaetha un cyfnod wedi iddo ymuno' n llawn amser gyda Man. Utd. pan nad oedd hi'n argoeli'n dda - fe oroesodd Mark. Yr hufen yn dod i'r wyneb, fel tae!

Wedi'r wers hanes gynta honno, cefais y fraint (a chredwch chi fi, rwy'n ei hystyried yn union felly) o fod yn hyfforddwr p锚l-droed t卯mau'r ysgol y bu'n chwarae iddynt am ddwy flynedd. Yn naturiol, fo oedd y capten ac yn chwarae yng nghanol y cae. Y safle lle gallai ddylanwadu fwyaf ar gwrs g锚m, a'r safle naturiol i'r chwaraewr a oedd ben ac ysgwyddau yn uwch na'i gymrodyr.

Oedd, roedd ei ddoniau amryddawn yn amlwg, bryd hynny. Doedd dim angen cymhwyster hyfforddi i weld hynny! Y dacl gadarn a di-gyfaddawd, llygad am g么l, agwedd benderfynol iach ynghyd 芒'r gallu i ddarllen patrwm y g锚m. Nid yw'n syndod o gwbl i mi ei fod eisoes wedi gwneud enw iddo'i hun fel rheolwr.

Yn sg卯l y g锚m gyfartal 2 - 2 yn ddiweddar yn erbyn Bosnia, sefydlwyd record ddiguro newydd gan Gymru; rhediad o naw g锚m heb golli dan oruchwyliaeth Mark Hughes. Mae un g锚m yn aros yn fyw yn y cof, ac un sy'n crynhoi i'r dim dalent digymar Mark Hughes ar y maes p锚l-droed. Ysgol Brynhyfryd Rhuthun oedd y gwrthwynebwyr, ar fore gwlyb a gwyntog ynghanol gaeaf. Cyfartal 1 - 1 oedd hi ar yr egwyl a doedd pethau ddim yn mynd o blaid hogia Rhiwabon. Yna, dyma Mark Hughes yn sydyn yn newid g锚r. Sgoriodd bedair g么l yn ystod yr ail hanner. 6 - 1 y sg么r terfynol.

Peniad grymus oedd y gynta o'r bedair yn dilyn cic gornel. Ei ail, taran o ergyd gyda'i droed de o ymyl y cwrt cosbi; y drydedd yn un debyg iawn ond y tro yma, gyda'i droed chwith. Yr ola' oedd yr orau, tin ddi-os. G么l unigol wych yn dawnsio heibio tri amddiffynnwr dryslyd cyn plannu'r b锚l yng nghefn y rhwyd. Celfyddyd pur!

Y drefn, yn ystod egwyl g锚m, oedd i mi fel hyfforddwr, yn gynta, ddweud fy neud yngl欧n 芒 pherfformiad y t卯m yn yr hanner cynta. Yna, wedi i mi orffen fy mhregeth, troi at y capten a'i wahodd yntau i gyfrannu at y drafodaeth. Ond, yn amlach na pheidio, distawrwydd llethol fyddai'n dilyn gan Mark. Llawer gwell oedd ganddo siarad gyda'i droed ar y maes ac arwain trwy esiampl!

Braint yw cael ymffrostio fy mod wedi hyfforddi Mark am gyfnod yn ystod ei flynyddoedd ffurfiannol yn y g锚m. Ond prysuraf i ychwanegu bod Mark Hughes wedi cyrraedd y safon ER GWAETHA, ac nid oherwydd, fy nghyfraniad i!! Gwers hanes oedd hi flynyddoedd yn 么l; fel rheolwr ein t卯m cenedlaethol Mark Hughes, sy'n creu'r hanes bellach.

David James


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r 大象传媒 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy