大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Nene
Cofio'r Sipsiwn
Gorffennaf 2002
Cwestiwn. Pa bryd y gwelsoch chi garaf谩n ddiwethaf?
Erthygl gan Llewelyn Williams

Na, dydw i ddim yn s么n am y cytie cr么m a gwydr a welwch chi yn hagru Pensarn, Abergele a Llanddulas, nac ychwaith am y rheini a welwch chi ar y chwith wrth ddod oddi ar draffordd Croesfoel a throi am Goedpoeth.

Mae I.D.Hooson yn ei gerdd Y Fflam yn ei tharo hi'n nes at yr hyn sy' gen i mewn golwg:

Caraf谩n goch a milgi brych
A chaseg gloff yng nghysgod gwrych.

Y rhain oedd y Sipsiwn go iawn, yn byw mewn carafannau pren a g芒i eu tynnu gan geffyle, ac nid ceir, er bod I.D. dipyn bach ar ei h么l hi yma gan nad coch oedd lliw pob caraf谩n, ond ysblander o bob lliw dan haul.

Cof plentyn
Mae gen i go plentyn o garaf谩n yng ngwaelodion y Poncie mewn cae ar ochor y llwybr sy'n rhedeg o ben pellaf Heol y Gogledd i lawr dros yr hen lein at fferm Bryn 'R Ywen. Ac mi roedd honno, hyd y cofiaf i, yn lliwiau llachar o'i chorun i'w holwynion gloyw.

Ond wyddoch chi beth yn union ydy Sipsiwn? Rhywun yn byw mewn caraf谩n ac nid mewn ty? Rhywun yn teithio o le i le yn gwerthu pegie-dillad neu fasgedi brwyn? Neu rywun 芒'r ddawn i ddweud ffortiwn?

Ym mis Mawrth 1967 fe gafwyd achos yn yr Uchel Lys yn erbyn Sipsiwn ac fe ofynnwyd i'r Barnwr, yr Arglwydd Ustus Diplock, be oedd Sipsiwn, a dyma ei farn o: "Person heb gartref arhosol yn byw bywyd crwydrol yn preswylio mewn pebyll neu garafannau neu gerbydau eraill." lawn - i'r dim gallwn feddwl.

Tarddiad y Sipsiwn
Ond o ble tarddodd y Sipsiwn yn y Ile cyntaf? O Ham, fab Noa, medd rhai; trwy Lamach, medd rhai eraill.

Mae gan Eiriadur Charles nodyn digon difyr am Lamach, sef mab Methiwsael, o hiliogaeth Cain, a thad Jabal, Jubal, Tubal-Cain ,a' i chwaer Noamah. A dyma'r darn diddorol - Lamach ydy'r cyntaf y mae hanes amdano a briododd fwy nag un wraig.

Yn 么l traddodiad arall mae'r Sipsiwn yn tarddu o'r gof a wnaeth yr hoelion ar gyfer croeshoelio Crist. Braidd yn Apocryffaidd ydy'r esboniadau hyn, mi dybiaf.

Mae'r ddamcaniaeth eu bod nhw'n dod o'r Aifft yn nes ati gallwn feddwl. A throi i'r iaith fain am eiliad, mi fydda hi'n ddigon hawdd llygru'r gair Egyptians yn Gypsies.

Ond yr esboniad mwyaf rhesymol i mi ydy mai o India y daethon nhw'n wreiddiol. Mae rhifolion Romani, iaith arbennig y Sipsiwn, yn eithaf tebyg i Hindi,iaith mwyafrif pobol India. Mae'r gair am 'pump', sef pansh yn union yr un fath ac y mae lliw eu crwyn yn tueddu i fod yn frown fel trigolion India.

Teulu Abram Wood
Fe glywais mam yn s么n lawer gwaith am y Sipsiwn fel teulu Abram Wood heb wybod yn iawn yn blentyn bryd hynny pwy oedd Abram Wood na'i deulu. Ond mi roedd mam yn llygad ei Ile. Y Sipsiwn Cymreig cyntaf oedd Abram Wood a'i deulu o dri mab ac un ferch (Valentine, Williams, Solomon a Damarsis).

Tua 1730 oedd ei gyfnod o, a'i filltir sgw芒r oedd Llanidloes a'r cylch. Cyfeirir ato yn un o anterliwtiau Twm o'r Nant ac yr oedd cysylltiadau eraill rhyngddo 芒 mannau eraill yng Nghymru gan mai crwydro o le i le oedd patrwm ei fywyd.

Dyna i chi Thomas Wood - roedd Abram yn daid iddo fo - a fu farw yn Rhuthun. Dyna i chi Matthew Wood wedyn - roedd y Thomas uchod yn daid iddo yntau yn ei dro. Fe fu o'n byw ym Metws Gwerfyl Goch. Wedyn mi roedd Harri, mab Matthew, yn trigo yn Nantglyn. Fe briododd merch William Wood, un o feibion Abram, 芒 John Roberts o Bentrefoelas. Y fo a adeiladodd Bont Glyn Diffwys ar yr A5 rhwng T欧 Nant a Dinmael. Mae cofnod bedyddio John Roberts a'i fab yntau yn Eglwys Llanrhaeadr yng Nghinmeirch, rhwng Dinbych a Rhuthun.

Telynor dawnus
Adwaenid John Roberts fel Telynor Cymru, a heb os nac oni bai fo oedd y mwyaf dawnus o holl deulu lluosog Abram Wood. Fe ganodd o a'i naw mab eu telynau o flaen y Frenhines Fictoria ym Mhalas Pale, Llandderfel ym mis Awst 1859. Fe ganodd John ei delyn hefyd o flaen Arch Ddug Rwsia, Brenin y Belgiaid, Dug Bedford, Dug Malborough, Dug Connaught, Dug Westminster ac Ymerawdres Awstria. Heb s么n am niferoedd eraill mewn amryw o Eisteddfodau Cenedlaethol ar hyd a lled Cymru. Mae'n rhaid ei fod o'n feistr i'r carn ar y grefft honno.

Enwau lliwgar
Mae rhai o ddywediadau'r Sipsiwn mor lliwgar 芒'u carafannau. Dyma i chi rai enwau sydd ganddyn nhw ar drefi yng Nghymru.
Wrecsam = Tref y Creigiau Coch (ond pam creigiau a choch, tybed?).
Llangynhafal = Pentref yr Afalau.
Does a wnelo tarddiad y gair ddim oll ag afalau, wrth gwrs, gan mai sant oedd Cynhafal ac mae'r enw Llangynhafal yn codi'n naturiol o'i enw.
Abertawe = Dinas yr Aderyn Gwyn. Aderyn gwyn, sef alarch, ydi mascot t卯m p锚l droed Abertawe. Tybed a oes cysylltiad rhwng y ddau? Nac oes, mae'n siwr. O'r iaith Saesneg y daw hwnnw - Swan-sea.
Llandyrnog = Pentref y Paffio.
Rhuthun = Tref y Cathod.
Llangollen = Tref y Cnau. Ond pam cnau tybed? Am ei fod yn lle toreithiog o goed cnau, mae'n debyg. (Neu am fod y Sipsiwn wedi drysu rhwng Collen y sant a chollen y goeden gnau).
Dinbych = Tref y C诺n. Ar y llaw arall Sir Ddinbych ydi sir y llaeth a'r haidd.

Wyddoch chi beth ydi pensel yn yr iaith Romani? Ff么n siarad. Plismon ydi dyn y geg, teliffon ydi siaradwr clust, ac ysgol ydi eglwys ddyddiol! Go dda, ynte?

A beth am y rhain? "Mae o'n bwyta galar" ac ar 么l colli rhywun annwyl. "Methais 芒 deud gair" - "aeth fy ngheg i rywle." Un arall, "Pwdin mawr heb ddim ynddo" am ffwl. A dyma i chi ddeud go dda yn fy marn i, "Wats arian ydi'r lleuad, wats aur ydi'r haul."

Cyfaill y Sipsiwn
Un o gyfeillion mawr y Sipsiwn oedd Dr John Sampson, llyfrgellydd Prifysgol Lerpwl ar un adeg. Fe ddysgodd eu hiaith nhw, sef Romani, yn rhugl ac fe fu'n byw efo nhw am gyfnodau yn ystod ei fywyd. Ysgrifennodd lyfr amdanyn nhw, The Dialect of the Gypsies of Wales.

Fe fu farw Dr John Sampson yn Lerpwl ar ddydd Sadwrn, Tachwedd 9fed 1931. Yn ei ewyllys, fe ddywedodd nad oedd ei angladd i gynnwys unrhyw seremoni grefyddol, ac yn 么l ei ddymuniad fe wasgarwyd ei lwch i'r pedwar gwynt o ben y Foel Goch, Betws Gwerfyl Goch, ar Dachwedd 21ain gan ei fab Michael.

Yr oedd llawer o'i gyfeillion yno gan gynnwys yr arlunydd enwog Augustus John, y llenor T. Gwynn Jones a nifer fawr o deulu'r Woodiaid a'r Robertsiaid.

Adroddodd Augustus John benillion Romani a gyfansoddwyd flynyddoedd yng nghynt gan y Doctor Sampson pan fu farw hen gyfaill iddo fo. Canodd Harri Wood 'Dafydd y Garreg Wen' ar ei ffidil tra cyfeiliodd Reuben Roberts ar y delyn. Canwyd nifer o geinciau eraill ac yna fe derfynwyd y seremoni trwy ganu Anthem Genedlaethol 'Hen Wlad fy Nhadau'.

Atgof personol
I ddiweddu, atgof personol am ryw Sipsi arbennig nas gwn hyd heddiw pwy oedd hi nac o ble y daeth.

Flynyddoedd lawer yn 么l yr oedd stesion rhywle yn y Rhos (pwy sy'n cofio ble roedd hi?) ac yn yr haf fe arferai pob capel yn y Rhos fynd ar drip Ysgol Sul i'r Rhyl at yr un tr锚n.

Nhad a mam a finne'n paratoi i fynd ar y trip a dyma gnoc ar y drws. Sipsi yn sefyll yno yn gwerthu pegie-dillad.

"Sori!" medde mam, "rydyn ni at frys yn paratoi i fynd drip Ysgol Sul i'r Rhyl." A wyddoch chi be ddeudodd y Sipsi? "Mi ddo i efo chi." Ac mi ddaeth hi hefyd gan sticio aton ni fel gelen a hynny ar draul sawl swllt a enillasai nhad trwy chwys ei dalcen ym Mhwll yr Hafod.

S么n am Hei-ho, hei-di-ho, fi yw Sipsi fach y fro!'

Ond welson ni byth mohoni hi wedyn. Mae'n siwr ei bod hi yn byw caraf谩n fawr grand mewn cwr o fynydd yn rhywle!


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy