大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Trefi

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

C么r Meibion Froncysyllte Denu sylw Hollywood
Ar Dachwedd 20, 2006 rhyddhaodd C么r Meibion Froncysyllte eu record fasnachol gyntaf, o'r enw 'Voices of the Valley' ar y label Universal Classics.

Mae hanes i G么r Meibion y Fron sy'n cwmpasu 60 mlynedd, ond yn fwyaf diweddar fe gawson nhw'u tynnu oddi wrth eu cylch arferol o gyngherddau lleol ac Eisteddfodau gan reolwr y band bechgyn pop Blue, Daniel Glatman.

Cafodd Glatman, a ddaeth ar draws y c么r pan fuon nhw'n perfformio mewn priodas y bu ynddi, ei hudo gan b诺er eu sain ac, o sylweddoli eu potensial, fe sicrhaodd gytundeb recordio iddyn nhw gyda'r Universal Music Group, cwmni recordiau mwyaf blaenllaw'r byd, cartref i Eminem a 50 Cent.

Wrth ddarganfod y c么r dywedodd Daniel Glatman, rheolwr Blue a nawr C么r y Fron, "pan fo'r gwallt ar gefn eich gwddw yn codi allwch chi ddim 芒 diystyru'r peth."

Er bod y gr诺p yn estyn sialens wahanol iawn i'w fentrau blaenorol, mae'n cellwair wrth ddweud ei fod eisoes wedi gweithio gyda un o grwpiau bechgyn ifanc mwyaf llwyddiannus y Deyrnas Unedig, a nawr mae'n gweithio gyda gr诺p bechgyn gwreiddiol y Deyrnas Unedig.

Gyda chyfanswm oed o 3974, mae'n si诺r mai hwn yw'r hynaf!

Fel na bai hyn yn ddigon, mae yna gyffro yn Hollywood yngl欧n 芒 Ch么r Meibion o Gymru ar 么l i'r cynhyrchydd ffilmiau Prydeinig nodedig Zygi Kamasa sicrhau'r hawliau i stori unigryw C么r Meibion y Fron, sy'n hannu o bentref bychan yng Ngogledd Cymru.

Mae Kamasa, cynhyrchydd Bend it Like Beckham a chyd-gynhyrchydd ffilm George Clooney a enwebwyd ar gyfer Oscar, Good Night and Good Luck, hefyd yn rhedeg swyddfa Lionsgate Films, un o gwmn茂au ffilmiau mwyaf Hollywood a enillodd Oscar am y Ffilm Orau eleni gyda Crash.

Sicrhaodd yr hawliau i'r ffilm ddyddiau'n unig ar 么l clywed am y c么r, gan ddweud, "Mae stori'r c么r hwn a bigwyd o ddinodedd llwyr i'w harwyddo gan y label recordiau mwyaf yn y byd yn stori glasurol i godi'r galon sydd 芒 photensial anhygoel, yn enwedig o gofio bod cyfartaledd oed y cantorion yn 60!"

Mae'r c么r 60 o leisiau yn arwain adfywiad mewn canu corawl amatur wrth i Kamasa lywio'u stori i fod y diweddaraf mewn cyfres o lwyddiannau Prydeinig yn apelio at y genhedlaeth h欧n, yn dilyn llwyddiant ffilmiau megis Calendar Girls a Brassed Off.

Addewid Hollywood yw'r datblygiad diweddaraf mewn blwyddyn syfrdanol i G么r y Fron sy'n 60 oed. Wedi 59 mlynedd o gystadlu yn erbyn Corau Meibion lleol a rhyngwladol, cychwynnodd y gr诺p y flwyddyn trwy arwyddo cytundeb recordiau anferth gyda Universal Classics and Jazz, y label a ddarganfu dalentau ifanc Jamie Cullum, Katherine Jenkins a Nicola Benedetti.

Ond nid dim ond yn ystod y flwyddyn lwyddiannus diwethaf yma yr hoeliwyd sylw mawrion y byd ffilmiau.

Mae'r c么r wedi ei drwytho yn nhraddodiad Cymru gyda hanesion am gyfeillgarwch yn eu cario trwy nifer o helbulon a thrafferthion.

Yn dod o'r pentref bychan Froncysyllte yn Nyffryn hyfryd Llangollen, mae'r c么r wedi bod yn rhan bwysig o'r gymuned glos hon, a gydag enwogrwydd byd-eang yn galw all hyn ond cryfhau balchder y gymuned yn ei g么r lleol.

Wedi ei ffurfio ar 么l yr Ail Ryfel Byd i hybu ewyllys da cymdogol, mae'r c么r wedi tyfu mewn niferoedd, hyder ac ansawdd o'r dyddiau cynnar ym 1947 pan oedd nifer o'r aelodau yn dal yn lowyr.

Estynnodd John Hughes Roberts, Cadeirydd Cymdeithas Corau Meibion Gogledd Cymru longyfarchiadau i G么r Meibion Froncysyllte gan ddweud "Mae'n gryn gamp i g么r Cymreig i ddod 芒 chanu corawl i amlygrwydd yn y byd adloniant mewn oed o adloniant 'karaoke'.

"Mae hyn yn newyddion da i bawb sy'n ymwneud 芒 Chorau Meibion yng Nghymru yn fwy na dim, fy ngobaith yw y bydd yn ysbrydoli mwy o ddynion ifanc i ymuno 芒 ni a chadw'r traddodiad gwych hwn yn fyw ac yn llawn egni. Rydw i'n dymuno pob llwyddiant i G么r Meibion Froncysyllte."


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Peidiwch 芒 datgelu eich cyfenw os ydych o dan 16 oed.
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r 大象传媒 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.



Trefi
Radio Cymru
Hanes
Papurau Bro


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy