"B没m yn helpu grwpiau hanes yr ardal i ddod at ei gilydd, yn lle eu bod yn gweithio ar ben eu hunain i gasglu treftadaeth yr ardal nid yn unig ar gyfer y bobl leol ond i'r gymuned ehangach.
"'Dwi erioed wedi gweithio mewn lle mae pobl mor ymwybodol o'u hanes ac mae ganddynt barch a chariad at dreftadaeth yr ardal.
"Mae yna gymaint o bobl yma gyda straeon yn eu pennau ac ond yn eu dweud wrth ei ffrindiau a'u teuluoedd ac mae ganddynt focsys o luniau.
"Mae angen eu cadw er mwyn i bobl eraill cael eu gweld a'u clywed.
"Diwydiant sydd wedi ffurfio'r pentref yma, diwydiannau fel mwyngloddio.
"Wrth gwrs mae pethau wedi newid erbyn hyn ond hynny sydd wedi siapio'r ardal a dyma pam y gwnaeth pobl symud yma'n wreiddiol.
"Caewyd Capel Ebeneser rhai blynyddoedd yn 么l ac roedd mewn cyflwr gwael.
"Cafwyd buddsoddiad i'w ail wneud er mwyn rhoi canolbwynt newydd i'r pentref ac yn ganolfan i'r bobl leol gael ei ddefnyddio yn lle ei fod yn sefyll yng nghanol y pentref yn ddi-werth.
"Bydd yn cynnig pwynt treftadaeth i bobl, nid yn unig o'r ardal, ond y tu allan hefyd. Bydd yn gaffi ac yn lle i hybu busnes ac yn amgueddfa o ryw fath. Bydd rhywbeth i bawb yno."
|