Yn dilyn llwyddiant 'Talent' y llynedd, cynhaliodd 大象传媒 Cymru glyweliadau arbennig yn Ninbych, yn chwilio am gyflwynydd teledu Cymraeg (dros 18 oed) ar gyfer eitemau ar raglenni o'r Eisteddfod Genedlaethol yn y Faenol eleni. Roedd Radio Cymru hefyd yn chwilio am ohebwyr lleol yn ardal Dinbych ar gyfer rhaglen radio Hywel Gwynfryn a Nia Roberts. Ewch i edrych ar luniau o'r digwyddiad yma. Yn ystod y dydd, cynhaliwyd sesiynau, gweithdai a chlyweliadau gyda rhai o gyflwynwyr mwyaf profiadol y 大象传媒.
|