Bu yr enwog Barbara Dickson, sydd wedi gwerthu miliynau o recordiau ac wedi dathlu 40 mlynedd yn y byd cerddorol, ynghyd 芒 phedwarawd lleisiol gwrywaidd sydd wedi cyrraedd brig y siartiau Blake, y soprano odidog Natasha Marsh, a Syr Willard White y barit么n-bas o Jamaica, yn ymuno i swyno'r dorf yng nghyngherddau y 63ain Eisteddfod Ryngwladol Gerddorol yn Llangollen eleni.
Mewn datblygiad newydd a chyffrous eleni, mi wnaeth James Bond ddod i Langollen, wrth i'r arweinydd a'r cyfansoddwr Carl Davis, gyfarwyddo cerddoriaeth 007, gyda Cherddorfa Opera Cenedlaethol Cymru, Mary Carewe a Simon Bowman. Bu un o gariadon enwog Bond, Pussy Galore, yn gwneud ymddangosiad arbennig hefyd wrth i'r actores Honor Blackman dywys y gynulleidfa drwy gyngerdd nos Sul, 12 Gorffennaf.
Yn 么l Mervyn Cousins, Cyfarwyddwr Gweithredol Eisteddfod Ryngwladol Llangollen: "Mae'r Eisteddfod yn datblygu ac esblygu bob blwyddyn, ac mae gennym fwy a mwy o bethau i'w cynnig i'n cystadleuwyr, ymwelwyr a thrigolion y fro. Mae Llangollen wedi hen ennill ei phlwyf bellach, ac i ni fel trefnwyr, mae'n broses naturiol ehangu gweithgareddau'r maes ddydd Sul, 12 Gorffennaf!"
Barbara Dickson, yr actores a enillodd Wobr 'Olivier' fu'n camu ar lwyfan yr Eisteddfod nos Sul (7 Gorffennaf) i agor y cyntaf o'r chwe cyngerdd min nos. Dechreuodd yr artist o'r Alban yrfa lewyrchus ym myd actio a chanu yn y saithdegau cynnar. Daeth yn wyneb cyfarwydd i 10 miliwn o wylwyr teledu bob wythnos, gyda'i hymddangosiadau cyson ar y gyfres 'The Two Ronnies'. Mae wedi serennu mewn sawl sioe gerdd fel 'Blood Brothers' (1982), 'Chess' (1984), a 'Spend, Spend, Spend' (2000). Aeth y ddeuawd 'I know him so Well' (Chess) ar y cyd ag Elaine Paige, i rif un y siartiau pop am wythnosau lawer, a dyma'r g芒n y mae pobl yn ei chysylltu fwyaf 芒 Barbara Dickson.
Dydd Mercher 8 Gorffennaf, ein Llywydd Terry Waite fu yn arwain Cyngerdd Heddwch Llangollen. Bydd y Seremoni Groeso ar ddechrau'r cyngerdd yn gweld cynrychiolwyr byd eang y cystadlaethau yn ymdeithio i'r llwyfan yn eu gwisgoedd godidog. Yna dan gyfarwyddyd cerddorol Brian Kay, cyn sefydlydd ac aelod y gr诺p 'King's Singers', daw plant a phobl ifanc o ddeg gwlad ymlaen i ganu mewn cytgord, cyn i weddill y cyngerdd barhau.
Fe wnaeth Sir Willard White ddychwelyd ar gyfer cyngerdd nos Iau (9 Gorffennaf) i bortreadu bywyd a cherddoriaeth y diweddar Paul Robeson, Americanwr, actor, cerddor ac eicon cydraddoldeb ac iawnderau dynol. Teitl y noson oedd 'Robeson Re-Explored', a bu Willard White yn perfformio gyda gr诺p o gerddorion a phedwarawd llinynnol gan ddod 芒 seiniau ysbrydol, jazz a gwerin i'r llwyfan, gan gynnwys caneuon fel 'Steal Away', 'Ain't Necessarily So' ac 'Ol' Man River'.
Nos Wener 10 Gorffennaf, roedd cyffro cerddorol yn Llangollen, wrth i Blake, pedwarawd gwrywaidd sydd wedi dringo i frig y siartiau, berfformio gyda'r soprano hyfryd o Aberhonddu, Natasha Marsh.
Unwaith eto, roedd cyngherddau Cerddoriaeth y Byd am 6 ar lwyfannau awyr agored bob nos yn cynnig amrywiaeth eang o artistiaid eleni. Un o'r uchafbwyntiau yn 2009 oedd perfformiad gan Etran Finatawa, gr诺p sy'n cynnwys perfformwyr o ddau o lwythi crwydrol, traddodiadol, gorllewin Affrica (Wodabe a'r Twareg) sydd wedi uno i greu seiniau llesmeiriol y blws crwydrol. Bydd chwe pherfformiwr o'r anialwch yn eu tiwnigau traddodiadol a'u twrbanau o blu estrys, yn diddanu tyrfa Llangollen nos Iau (9 Gorffennaf) am 6 yr hwyr.
Mae'r Eisteddfod Ryngwladol yn cynnig llwyfan i bobl o holl wledydd y byd gyfarfod a sgwrsio trwy ieithoedd rhyngwladol cerddoriaeth a dawns, gan hyrwyddo heddwch, cytgord a gwell dealltwriaeth o ddiwylliant y byd. Am fwy o wybodaeth, ffoniwch 01978 862001 neu ewch i